Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi, cyllido a chomisiynu polisi addysg oedolion.
Yng Nghymru mae cymysgedd o ddarpariaeth drwy ddarparwyr a gyllidir yn gyhoeddus (yn cynnwys Dysgu Oedolion yn y Gymuned, Sefydliadau Addysg Uwch a dysgu seiliedig mewn gwaith) yn ogystal â drwy undebau llafur, mudiadau diwylliannol a’r sector gwirfoddol.
Ymhellach mae enghreifftiau cynyddol o ddysgu a ddarperir i denantiaid gan gymdeithasau tai a gan ysgolion i rieni a theuluoedd.