Arolwg cyfranogiad mewn addysg oedolion

Ein harolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu yw’r astudiaeth hynaf ac a gynhelir amlaf o addysg oedolion yn y Deyrnas Unedig. Mae’n defnyddio diffiniad eang o ddysgu, yn cynnwys dysgu ffurfiol, heb fod yn ffurfiol ac anffurfiol, yn hytrach na dim ond cyfleoedd addysg a gynigir yn gyhoeddus i oedolion.

Ym mhob arolwg caiff 5,000 o oedolion 17 oed a throsodd eu holi am:

  • eu profiadau o ddysgu
  • pryd oedd y tro diwethaf iddynt gymryd rhan mewn dysgu
  • a pha mor debygol yw hi y byddant yn gwneud hynny yn y dyfodol.

Mae’r arolwg, a ddechreuodd yn 1996, yn rhoi trosolwg unigryw o lefel cyfranogiad mewn dysgu gan oedolion, gyda dadansoddiad manwl o’r rhai a gymerodd rhan a hefyd rai na chymerodd ran dros gyfnod o fwy na 20 mlynedd.

Mae ein harolygon yn dangos yn gyson y caiff cyfranogiad mewn dysgu ei benderfynu gan ddosbarth cymdeithasol, statws cyflogaeth, oedran a dysgu blaenorol.

Ymchwiliwch ddata tueddiadau o’r 20 mlynedd ddiwethaf yn ein siartiau rhyngweithiol. Gellir rhannu’r data yn ôl demograffeg, statws dysgu ac amrywion eraill defnyddiol.

Mwy o wybodaeth ar safle'r DU

id before:6745
id after:6745