
Prentisiaethau
Our work on apprenticeships focuses on improving quality and widening participation.
Sut mae gwneud yn siŵr fod y prentisiaethau o’r ansawdd uchaf ac ar gael i bawb a allai fanteisio o un?
Sut y gallwn adeiladu addysg alwedigaethol ansawdd uchel sy’n gweithio i bobl a chyflogwyr?
Mae prentisiaethau ac addysg alwedigaethol yn ffyrdd pwysig i oedolion wella sgiliau ac adeiladu gyrfa, ac i gyflogwyr ddiwallu anghenion sgiliau. Mae hyn yn neilltuol o wir ar gyfer pobl ifanc a’r rhai sy’n dymuno ailhyfforddi neu ddiweddaru eu sgiliau. Fodd bynnag, mae mynediad i brentisiaethau yn anghyfartal.
Er ymrwymiadau dilynol gan llywodraethau olynol yng Nghymru, mae’r nifer sy’n derbyn addysg dechnegol a galwedigaethol yn is nag mewn llawer o wledydd eraill. Mae angen llwybrau ansawdd uchel y gellir eu deall yn rhwydd er mwyn newid hyn. Mae angen ymgysylltu gyda phobl ifanc, rhieni a gwarcheidwaid, oedolion, cyflogwyr a darparwyr addysg er mwyn eu hadeiladu.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddeall yr heriau a’r cyfleoedd, yn cynnwys ymchwil ar anghydraddoldeb presennol mewn cyfranogiad, profi sut i wneud gwahaniaeth, a helpu i lunio polisi ac ymarfer ar gyfer llwybrau hygyrch ansawdd uchel.
Our work on apprenticeships focuses on improving quality and widening participation.
Dengys ein hymchwil y gall hyfforddeiaethau ansawdd uchel fod â rhan hanfodol wrth gefnogi pobl ifanc i gael mynediad i waith neu astudiaeth bellach ac i gyflawni eu potensial.
Mae addysg galwedigaethol yn rhan hanfodol o’r system addysg a sgiliau. Ar ei gorau, gall helpu pobl gyda’r sgiliau maent eu hangen i adeiladu gyrfa lwyddiannus a hefyd helpu cyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion sgiliau