Gwobrau Ysbrydoli! Dysgu Oedolion 2023 - y rhai sy'n cyrraedd y rownd derfynol.

Llongyfarchiadau i’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni…

Mae rhaglen Gwobrau Ysbrydoli! Dysgu Oedolion yn dathlu cyflawniadau unigolion, grwpiau, prosiectau cymunedol a sefydliadau eithriadol yng Nghymru. Maent wedi dangos angerdd, ymrwymiad ac egni rhagorol i wella eu hunain, eu cymuned neu weithle trwy ddysgu. 

Derbyniodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith amrywiaeth eang o straeon gwych ar gyfer gwobrau eleni, felly roedd yn anodd dewis ein henillwyr.

Buom yn gweithio gyda phanel annibynnol o feirniaid ar draws y sector dysgu oedolion ar gyfer y rownd ddethol derfynol. Llwyddodd straeon yr unigolion, prosiectau cymunedol a sefydliadau a restrir isod gyrraedd y rownd derfynol ac fe’u cyflwynwyd i’r panel. Er na enillodd yr enwebeion isod wobr gyffredinol y categori, hoffem ni yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith a’n panel o feirniaid arbenigol eu cydnabod a’u llongyfarch am eu cyflawniadau rhyfeddol mewn dysgu a sgiliau, a gobeithiwn y byddant yn parhau i gymryd camau cadarnhaol ar eu taith.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yn y Sefydliad Dysgu ar Waith, Joshua Miles:
Mae llawer o’r enwebiadau a gawsom am y gwobrau yn dangos, yn wyneb anawsterau a gwrthdaro, mai addysg yw’r allwedd I oresgyn rhwystrau, meithrin hyder a symud ymlaen I arwain bywyd mwy iach a llewyrchus. Rydym yn byw mewn byd sy’n newid yn gyflym, rhwng effaith y pandemig, yr argyfwng costau byw a dyfodiad technolegau newydd, nid oes dim yn aros yn llonydd am hir. Mae dysgu yn ein helpu i addasu i’r newid hwn ac yn y pen draw i fanteisio ohono. Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw hi i ddal ati I ddysgu. Hoffwn ddiolch i’r rhai a enwebodd dysgwyr , prosiectau cymunedol a sefydliadau ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! eleni. Mae angen eiriolydd mewn enwebydd i adnabod potensial, talentau a llwyddiannau mewn eraill."

Roedd deg categori ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli! Dysgu Oedolion.

Llongyfarchiadau i’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni:

Gwobr Dysgwr Cymraeg

Julie Hitchings – enwebwyd gan: Prifysgol De Cymru

Carol Hoskins – enwebwyd gan: Dysgu Cymraeg Morgannwg

Magali Nougarede – enwebwyd gan: Prifysgol De Cymru

Gwobr Heneiddio’n Dda

Kristen Francis – enwebwyd gan: Swyddi Gwell, Gwell dyfodol

Tony Watkins – enwebwyd gan: Groundwork Ggoledd Cymru

Gwobr Oedolyn Ifanc sy’n ddysgwr

Kornchanut Uttamamoon – enwebwyd gan: Grŵp Colegau NPTC

Niquita Mace – enwebwyd gan: Dysgu Oedolion Cymru

Katie Pearce – enwebwyd gan: Sgiliau a Chyflogaeth Itec

Gwobr Sgiliau Hanfodol am Oes   

Sabrina Fortune – enwebwyd gan: Coleg Cambria

Daniel Morgan – enwebwyd gan: Gwasanaeth Tân De Cymru

Gema Borrego – enwebwyd gan: Grŵp dysgu rhieni: Ysgol Uwchradd Cathays

Gwobr Sgiliau Gwaith         

Iryna Yemets – enwebwyd gan: GRŴP NPTC – Coleg Bannau Brycheiniog

Louise Wilford – enwebwyd gan: Y Brifysgol Agored yng Nghymru

Stacey Blackwell – enwebwyd gan: Dysgu Oedolion yn y Gymuned NPT

Thomas J Lodge – enwebwyd gan: Coleg Caerdydd a’r Fro

Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd

Charlene Gronow – enwebwyd gan: Canolfan Dysgu Cymunedol Palmerston

Christy Williams -enwebwyd gan: Coleg Sir Gar

Gareth Morgan –  enwebwyd gan: Y Wallich

Rebecca Evans – enwebwyd gan:ACT Training / HC-One, Church View

Thomas Jones – enwebwyd gan: Coleg Caerdydd a’r Fro

Karrina and Demi Haywood – enwebwyd gan: CCAF

Gwobr Rhannu Dyfodol, Gorffennol Gwahanol   

Anwar Alrahal   – enwebwyd gan: Tîm Sir Ddinbych yn Gweithio – Cyngor Sir Ddinbych

Mona Hosseiny – enwebwyd gan: Canolfan Ddysgu’r Fro

Jose Hernan Godoy Nunez – enwebwyd gan: Addysg Oedolion Cymru

Germaine Ngoy Kyabu  – enwebwyd gan: Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Ehangu Mynediad)

Gwobr Hywel Francis am Effaith Cymunedol      

Sefydliad Ymgysylltiad Cymunedol

Groundwork Gogledd Cymru

Prosiect Siarad â Fi

Gwobr Gwneuthurwyr Newid Gweithle

Myfyrwyr Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Tracey Wells HC-One Church View

Graddedigion Menter

Gwobr Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell

Eleri Owen – enwebwyd gan: Coleg Menai

Eve Salter – enwebwyd gan: Coleg Caerdydd a’r Fro

John Johnson – enwebwyd gan: Addysg Oedolion Cymru

Bydd hanes enillwyr gwobrau eleni yn cael eu datgelu yn y digwyddiad Ysbrydoli! Seremoni Gwobrau Dysgu Oedolion ar 14eg Medi 2023, yng Nghaerdydd.

Dilynwch ymgyrch Ysbrydoli! Gweithgaredd Gwobrau ar ein tudalen Twitter a defnyddiwch yr hashnod #InspireCymru23 i gymryd rhan.

Bydd pob un o’r deg stori fuddugol i’w gweld ar ein tudalen enillwyr.

id before:12270
id after:12270