Diwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith

Fel rhan o’r Wythnos Addysg Oedolion 2023, bydd y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cydlynu Diwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith ar 21 Medi i ganolbwyntio ar bwysigrwydd darparu cyfleoedd dysgu yn y gweithle.

Cydnabod gwerth sgiliau ar gyfer gwaith:

Mae cyfleoedd i ddysgu yn y gwaith yn hanfodol wrth gyfrannu at greu diwylliant o ddysgu gydol oes, darparu llwybrau i gynyddu sgiliau mwy o bobl a chreu gweithleoedd iachach.

Gall addysg oedolion fod â buddion sylweddol ac eang ar gyfer unigolion, yn cynnwys y rhai sy’n gysylltiedig gyda iechyd, cyflogaeth, bywyd cymdeithasol a’r gymuned. Canfu ein Harolwg Cyfranogiad mewn Dysgu 2022 fod y buddion mwyaf cyffredin a brofir gan ddysgwyr yn gysylltiedig â gwaith. Mae ychydig dros un mewn pump o oedolion yn credu eu bod wedi gwella’r sgiliau sydd eu hangen i wneud eu gwaith.

Mae’r buddion eraill a nodwyd gan yr ymatebwyr hynny yn cynnwys cynyddu hyder yn y gwaith, cael cymhwyster cydnabyddedig a chynhyrchiant uwch yn y gwaith neu wella ansawdd gwaith.

Ar Ddiwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith bydd sefydliadau ar draws Cymru yn rhoi’r sylw ar gyfleoedd i ddysgu ar gyfer gwaith.

Gall trefnu gweithgaredd fel rhan o’r Diwrnod Sgiliau ar gyfer y Gwaith roi ffocws i:

  • Ddathlu a hyrwyddo’r dysgu a’r sgiliau a gynigir a llwyddiannau pobl yn y gwaith i arddangos effaith
  • Darparu cyrsiau blasu anffurfiol, sesiynau rhoi cynnig arni neu gyfleoedd gloywi sgiliau i fireinio sgniliau ar gyfer e.e. sgiliau hanfodol, technoleg i gynnig adolygiadau canol bywyd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
  • Rhannu sgiliau, darganfod talent ac angerdd cudd – cael hwyl, bod yn greadigol ac ysgogi brwdfrydedd dros ddysgu rhywbeth newydd.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o gyfleoedd gweithle i ddysgu ac adeiladu mwy o ymgysylltu.
  • Ysgogi strategaethau dysgu a datblygu.
  • Rhannu eich ymchwil diweddaraf, adroddiadau neu flogiau gyda ffocws ar sgiliau.

Cysylltwch

Mae Dysgu a Gwaith yn croesawu sylwadau a syniadau ar gyfer y Diwrnod Sgiliau ar gyfer Gwaith. Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb yn y cyfle hwn, cysylltwch yn uniongyrchol gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn uniongyrchol.
id before:12074
id after:12074