Ein pobl

Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru

  • 4-Dave-Hagendyk-LoRes-1939-300x200

    David Hagendyk

    Cyfarwyddwr Cymru

    David Hagendyk

    Cyfarwyddwr Cymru

    Dave yw cyfarwyddwr Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae Dave yn gyfrifol am arwain gwaith y sefydliad yng Nghymru a hyrwyddo gwerth addysg oedolion a’r angen i fuddsoddi a chael polisïau i gynyddu cynhyrchiant, gwella datblygiad o dâl isel a lleihau anghydraddoldeb. Mae wedi gweithio ym maes arweinyddiaeth, ymgyrchu a datblygu polisi ers deunaw mlynedd. Cyn ymuno â Dysgu a Gwaith Cymru, gweithiodd am bron saith mlynedd fel Ysgrifennydd Cyffredinol Llafur Cymru. Cyn hyn, gweithiodd fel Swyddog Cyswllt Gwleidyddol i Undeb Prifysgolion a Cholegau Cymru, fel Pennaeth Polisi Llafur Cymru, ac fel ymchwilydd i Huw Lewis AC a Lynne Neagle AC.
  • Kay

    Kay Smith

    Pennaeth Ymgyrchoedd, Polisi a Datblygu

    Kay Smith

    Pennaeth Ymgyrchoedd, Polisi a Datblygu

    Mae Kay yn bennaeth ymgyrchoedd, polisi a datblygu i L&W yng Nghymru. Mae gan Kay arbenigedd yn gweithio gyda darlledwyr ar ymgyrchoedd gweithredu cymdeithasol a gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid ar draws Cymru. Mae’n arwain gweithgaredd hyrwyddo ar gyfer gŵyl Wythnos Addysg Oedolion a Gwobrau Ysbrydoli! i godi ymwybyddiaeth ac ehangu mynediad i ddysgu gydol oes. Ynghyd â hyn, mae gwaith datblygu a pholisi arall yn cynnwys Addysg i Deuluoedd, ESOL, Sgiliau Hanfodol a Dysgu Cymunedol.
  • Calvin

    Calvin Lees

    Swyddog Prosiect

    Calvin Lees

    Swyddog Prosiect

    Ymunodd Calvin ag L&W o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf lle’r oedd yn Brif Swyddog Addysg Oedolion. Mae gan Calvin 15 mlynedd o brofiad rheoli prosiectau gyda phrosiectau Ewropeaidd ESF ac ERDF, ac roedd yn aelod o fwrdd y Bartneriaeth Ddysgu, bwrdd rhwydwaith Dysgwyr Hŷn a chafodd brofiad o ddatblygu prosiectau ar draws y sectorau addysg 14-19 ac ôl-16, addysg a sgiliau. Ar hyn o bryd, Calvin sy’n gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno prosiectau ar draws Cymru yn cynnwys gwaith cyfredol ar gynllun Peilot Cyfrifon Dysgu Personol, Cronfa Datblygu Sgiliau A.B a gwerthuso ‘Gweithio dros Gymru’ i Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn arwain prosiect Symudedd KA1 Erasmus+ Cymru i rannu arfer gorau ar ymgyrchoedd Addysg Oedolion a Llysgenhadon Dysgwyr ar draws Ewrop.
  • qw

    Wendy Ellaway-Lock

    Rheolwr Swyddfa a Chydlynydd Digwyddiadau

    Wendy Ellaway-Lock

    Rheolwr Swyddfa a Chydlynydd Digwyddiadau

    Wendy yn Rheolwr Swyddfa a Chydlynydd Digwyddiadau.  Mae Wendy yn cynorthwyo cynllunio logisteg prosiectau a rheoli cyllid, yn ogystal â bod yn gyfrifol am systemau swyddfa, strategaethau adeiladau, adeiladau a chynnal a chadw a rheoliadau iechyd a diogelwch. Mae Wendy’n gyfrifol am gydlynu a dosbarthu papurau ar gyfer grŵp Strategaeth Cymru a rhwydweithiau ehangach ac mae’n chwarae rôl allweddol yn cydlynu a gwerthuso pob digwyddiad allanol yn cynnwys cynadleddau a rhaglenni hyfforddiant.
  • Nisha 4

    Nisha Patel

    Cynorthwyydd Cymorth Marchnata a Chyfathrebu

    Nisha Patel

    Cynorthwyydd Cymorth Marchnata a Chyfathrebu

    Nisha yw cynorthwyydd ymgyrchoedd, marchnata a chyfathrebu Dysgu a Gwaith Cymru. Mae’n ymwneud â chydlynu, cynllunio creadigol a chyflwyno gwobrau blynyddol Ysbrydoil! a’r ymgyrch Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o fanteision dysgu gydol oes. Mae Nisha hefyd yn gyfrifol am ac yn cynnal yr holl lwyfannau cyfathrebu digidol tebyg i’r wefan, sianeli cyfryngau cymdeithasol a marchnata drwy e-bost, a datblygu ffyrdd i arddangos ein gwaith mewn modd creadigol er mwyn ymestyn cyrraedd ac effaith ein gwaith. Mae Nisha hefyd yn cefnogi cynllunio a chyflenwi digwyddiadau Dysgu a Gwaith Cymru.

Uwch dîm rheoli

  • Stephen Evans

    Stephen Evans

    Prif Weithredwr

    Stephen Evans

    Prif Weithredwr

    Mae Stephen wedi bod yn brif weithredwr ers 2016, ar ôl treulio dwy flynedd cyn hynny fel dirprwy brif weithredwr. Ymunodd o Working Links, lle’r oedd yn arwain ar bolisi, strategaeth a datblygu busnes. Cyn hyn, gweithiodd yn y London Development Agency fel cyfarwyddwr cyflogaeth a sgiliau, yn comisiynu rhaglenni ac yn arwain gwaith y London Skills and Employment Boaard; roedd yn brif economydd yn y Social Market Foundation; a threuliodd chwe blynedd fel uwch gynghorydd polisi yn Nhrysorlys EM yn gweithio ar bolisi ar gyfer sgiliau, cynhyrchiant a thlodi plant.
  • Samantha

    Sam Windett

    Dirprwy Gyfarwyddwr

    Sam Windett

    Dirprwy Gyfarwyddwr

    Fel Dirprwy Gyfarwyddwr, mae Sam yn canolbwyntio ar sicrhau effaith ar bolisi ac ymarfer drwy ymchwil Dysgu a Gwaith ar ddysgu, sgiliau a chyflogaeth. Yn flaenorol, roedd Sam yn Gyfarwyddwr Polisi Impetus, gan arbenigo mewn addysg a chymorth cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Ar ddechrau pandemig COVID-19 yn 2020, cyd-sefydlodd Sam y Grŵp Cyflogaeth Ieuenctid gan ddod ag arweinwyr allweddol ac arbenigwyr o’r sector cyflogaeth ieuenctid ynghyd i helpu gyrru ymateb y Deyrnas Unedig. Cyn hynny roedd Sam yn Bennaeth Polisi ERSA, corff cynrychioli’r sector cymorth cyflogaeth ac yn arwain y timau materion cyhoeddus ar gyfer darparwyr cyflogaeth a sgiliau yn y sectorau preifat ac elusennol. Mae Sam yn Gymrawd Ymarfer GoLab 20921 ac yn Berson Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
  • Rob

    Rob Gill

    Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

    Rob Gill

    Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau

    Ymunodd Rob â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn 2014 ac mae’n mwynhau ei waith yn fawr.   Yn benodol mae’n llunio tîm gwasanaethau mewnol o unigolion galluog iawn sy’n gweithio’n barhaus i wella Technoleg Gwybodaeth, Adnoddau Dynol, Cyllid, Llywodraethiant a Swyddfeydd Dysgu a Gwaith.  Cymhwysodd Rob yn wreiddiol fel cyfrifydd siartredig gydag EY, ac yna treuliodd ychydig flynyddoedd ar waith ailstrwythuro yna nifer o flynyddoedd mewn diwydiant.
  • naomi

    Naomi Clayton

    Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu

    Naomi Clayton

    Dirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil a Datblygu

    Mae Naomi Clayton yn ddirprwy gyfarwyddwr ymchwil a datblygu. Mae gan Naomi dros 14 blynedd o brofiad mewn ymchwil a pholisi gydag arbenigeddau mewn cyflogaeth, sgiliau a materion anfantais y farchnad lafur. Cyn ymuno â L&W, Naomi oedd dirprwy gyfarwyddwr Canolfan What Works ar gyfer Twf Economaidd Lleol, a’r rheolwr polisi ac ymchwil yn y Ganolfan ar gyfer Dinasoedd lle’r oedd yn gyfrifol am ddatblygu a goruchwylio rhaglenni i gynorthwyo polisi ac ymarfer effeithiol. Mae wedi gweithio gyda phartneriaid ar draws y DU i’w cynorthwyo i ddefnyddio tystiolaeth ac arddangos effaith trwy weithredu strategaethau sgiliau, cymorth cyflogaeth ieuenctid a chynlluniau cynnydd mewn gwaith, a datblygu strategaethau diwydiannol lleol.

Tîm ymchwil a datblygu

  • jubair

    Jubair Ahmed

    Ymchwilydd Economaidd

    Jubair Ahmed

    Ymchwilydd Economaidd

    Ymunodd Jubair a L&W fel ymchwilydd economaidd.  Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddadansoddi ar gyfer ein Huned What Works ac ar faterion addysg bellach a chyflogaeth lawn. Yn flaenorol, gweithiodd yn y Resolution Foundation, yn canolbwyntio ar ddyledion aelwydydd a dadansoddi’r farchnad lafur. Mae gan Jubair MSc mewn Economeg Datblygu o’r Ysgol Astudiaethau Dwyreiniol ac Affricanaidd.
  • Ekateria

    Ekaterina Aleynikova

    Researcher

    Ekaterina Aleynikova

    Researcher

    Ekaterina is a Researcher at L&W. Ekaterina works on a range of in research and evaluation projects around essential skills and English for Speakers of Other Languages learning provision, Community Learning, learning for health and wellbeing and youth employment. Prior to joining L&W, Ekaterina worked at Chatham House on a range of research projects on social trends, gender and equality in Russia. Ekaterina holds an MPhil in Education, Globalisation and International Development from the University of Cambridge.
  • Asli Atay

    Asli Atay

    Ymchwilydd

    Asli Atay

    Ymchwilydd

    Mae Asli yn ymchwilydd cymdeithasol yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Fel ymchwilydd, mae Asli yn gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau ymchwil a gwerthuso ar draws meysydd polisi Dysgu a Gwaith, yn cynnwys Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, cyflogaeth pobl gydag anabledd a chyflogaeth a chymorth i bobl gyda chyflyrau iechyd. Cyn ymuno â Dysgu a Gwaith, bu Asli yn gweithio fel ymchwilydd yn Demos a melin drafod arall seiliedig yn Istanbul, Twrci. Mae ganddi brofiad o weithio gyda ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn sefydliad cymorth dyngarol. Mae ganddi ddiddordeb mewn integreiddio’r farchnad lafur, ymfudiad a chydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae gan Asli MPhil mewn Cymdeithaseg Wleidyddol ac Economaidd o Brifysgol Caergrawnt.
  • nicola

    Nicola Aylward

    Pennaeth Dysgu ar gyfer Pobl Ifanc

    Nicola Aylward

    Pennaeth Dysgu ar gyfer Pobl Ifanc

    Mae Nicola yn arwain rhaglen L&W o waith ymchwil a datblygu yn ymwneud â mynediad pobl ifanc at ddysgu a chyflogaeth. Gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad yn y sector, mae Nicola’n gyfrifol am ystod o brosiectau yn ymwneud â chyn-brentisiaethau a gwella canlyniadau ar gyfer y bobl ifanc mwyaf difreintiedig. Cyn ymuno â’r sefydliad, gweithiodd Nicola yn yr Asiantaeth Genedlaethol Ieuenctid, gan arwain y Bartneriaeth Dysgwyr sy’n Oedolion Ifanc.
  • paul

    Paul Bivand

    Cyfarwyddwr Cyswllt Ystadegau a Dadansoddi

    Paul Bivand

    Cyfarwyddwr Cyswllt Ystadegau a Dadansoddi

    Mae Paul yn ystadegydd y farchnad lafur gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad yn cynnwys cyflogaeth, sgiliau, pennu tâl a materion cysylltiedig. Gweithiodd i ragflaenwyr L&W yn y Ganolfan Cynhwysiant Economaidd a Chymdeithasol a’r Uned Ddiweithdra, ac yn flaenorol yn y Coleg Nyrsio Brenhinol, Cymdeithas Cyflogwyr Llywodraeth Leol, Sefydliad Newid Micro-gymdeithasol Prifysgol Essex, Gwasanaethau Data Incwm, ymysg eraill. Mae Paul yn cynhyrchu delweddau data o newidiadau i’r farchnad lafur bob mis ym mriff ystadegau’r farchnad lafur L&W, delweddau data eraill mewn perthynas â phrosiectau penodol ac mae hefyd yn arbenigo mewn asesiadau effaith. Mae ganddo MBA o Brifysgol Lerpwl ac MA (Cantab) mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Caergrawnt.
  • Daniela

    Daniela Cabral

    Rheolwr Ymchwil

    Daniela Cabral

    Rheolwr Ymchwil

    Mae gan Daniela brofiad helaeth o gynllunio ac arwain prosiectau gwerthuso ac ymchwil mewn llywodraeth leol i lywio cynllunio strategol, dylunio gwasanaeth a datblygu polisi. Mae wedi arwain ar werthuso rhaglenni cydlyniaeth gymunedol a chymorth cyflogaeth ac wedi cynnal ymchwil ar fynediad i ddarpariaeth Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Mae ganddi gefndir mewn hawliau dynol, gyda diddordeb neilltuol mewn hawliau ymfudwyr, a bu ganddi swyddi polisi ym Mhrydain a Mecsico. Yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith mae wedi gweithio ar werthuso rhaglenni cymorth cyflogaeth a anelwyd at bobl ifanc ac ar ymchwil parthed ansawdd swyddi a’r galw am hyfforddiant technegol.
  • L&W logo

    Corin Egglestone

    Rheolwr Ymchwil

    Corin Egglestone

    Rheolwr Ymchwil

    Mae Corin yn rheolwr ymchwil yn Uned newydd What’s New L&W, sy’n ymwneud â chefnogi a hyrwyddo’r defnydd a chreu tystiolaeth ar draws y sector cyflogaeth a sgiliau. Ymunodd a L&W fel ymchwilydd ar ôl cwblhau PhD mewn Gwybodeg Iechyd Defnyddwyr. Yn ystod ei gyfnod yn L&W, mae Corin wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau ymchwil ansoddol a meintiol; er enghraifft, mae wedi arwain ein gwerthusiad diweddar o fodel YIACS o gymorth ariannol ar gyfer pobl ifanc. Tra’i fod yn L&W, mae Corin hefyd wedi arwain y gwaith o ddylunio a dadansoddi ein Harolwg blynyddol Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu.
  • jess

    Jess Elmore

    Rheolwr Ymchwil

    Jess Elmore

    Rheolwr Ymchwil

    Ymunodd Jess â L&W fel ymchwilydd, gydag arbenigedd penodol mewn ymchwil ansoddol, cynhwysol a chreadigol. Ar hyn o bryd, mae Jess yn rheoli prosiectau datblygu hyfforddeiaeth ar gyfer yr Adran Addysg a gwerthusiad o gynllun peilot Dinasoedd Dysg Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau yn ogystal â chyfrannu at werthusiad ar raddfa fawr o dreialon wedi eu harwain gan iechyd. Cyn ymuno â L&W, gweithiodd mewn addysg, datblygu cymunedol ac ymchwil academaidd. Cwblhaodd PhD yn 2017 oedd yn archwilio rhannu gwybodaeth ac integreiddio yn ystafell ddosbarth ESOL.
  • Harry Fox

    Harry Fox

    Ymchwilydd

    Harry Fox

    Ymchwilydd

    Ymunodd Harry â Dysgu a Gwaith fel Ymchwilydd yn Ebrill 2021 ac mae wedi gweithio ar ystod o brosiectau ymchwil ansoddol, yn ymwneud â phrentisiaethau a’r Gronfa Sgiliau Genedlaethol yn benodol. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar brosiect ar ran yr Adran Addysg yn archwilio sut y mae darparwyr wedi addasu’r modd y cyflwynir prentisiaethau i leoliad o bell neu ar-lein. Cyn ymuno â Dysgu a Gwaith, treuliodd Harry 3 blynedd yn gweithio i BMG Research lle’r oedd wedi gweithio ar ystod eang o brosiectau yn ymwneud â chyflogaeth, addysg, a sgiliau, gan gynnwys gwerthusiad o waith Central London Works a’r rhaglen iechyd a phrosiectau amrywiol yn ymwneud â sgiliau, cynnydd a symudedd cymdeithasol yn y diwydiant adeiladu.
  • emily j

    Emily Jones

    Pennaeth Ymchwil

    Emily Jones

    Pennaeth Ymchwil

    Mae Emily Jones yn bennaeth ymchwil yn L&W, yn gyfrifol am arwain prosiectau ymchwil a datblygu er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bolisi ac ymarfer. Mae gwaith Emily’n canolbwyntio ar ddysgu gydol oes a sgiliau, ac mae’n arwain ein prentisiaethau a’n rhaglen addysg dechnegol. Mae Emily hefyd yn arwain ein hymchwil ar y Cynllun Ailhyfforddi Cenedlaethol.
  • H Klenk

    Hazel Klenk

    Ymchwilydd

    Hazel Klenk

    Ymchwilydd

    Ymunodd Hazel â L&W ar ôl cwblhau MA mewn Addysg a Datblygu Rhyngwladol. Fel ymchwilydd, mae Hazel yn gweithio ar ac yn rheoli ystod eang o brosiectau ymchwil, gwerthuso a datblygu ar draws meysydd polisi L&W yn cynnwys dysgu gydol oes, sgiliau sylfaenol oedolion, Saesneg i Siaradwyr Ieiethodd Eraill, addysg i droseddwyr, cynnydd mewn gwaith a chymorth cyflogaeth ar gyfer grwpiau agored i niwed. Cyn ymuno â L&W, gweithiodd Hazel fel athrawes mewn cyd-destunau gwahanol yn cynnwys Mecsico, Bangladesh a Ffrainc. Mae ganddi ddiddordeb arbennig yn rôl dysgu mewn perthynas ag integreiddio a llesiant ffoaduriaid a mudwyr.
  • Abigail

    Abigail Lagou

    Ymchwilydd

    Abigail Lagou

    Ymchwilydd

    Ymchwilydd cymdeithasol yn Dysgu a Gwaith yw Abbie. Gweithiodd ar ystod eang o brosiectau ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys canolbwyntio ar brentisiaethau a chefnogi datblygiad y Gronfa Sgiliau Genedlaethol. Ar hyn o bryd mae Abbie yn gweithio ar brosiect sy’n cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol sy’n anelu at wella’r gefnogaeth i ofalwyr sy’n oedolion ifanc mewn Addysg Bellach, a gwerthusiad o’r Gronfa Gweithlu’r Dyfodol, sy’n rhaglen gan Ymddiriedolaeth y Tywysog sy’n ceisio cefnogi pobl ifanc i hyfforddiant a gwaith.
  • Beccy

    Beccy Packer

    Ymchwilydd (Cyfnod Mamolaeth)

    Beccy Packer

    Ymchwilydd (Cyfnod Mamolaeth)

    Mae Beccy Packer yn ymchwilydd ansoddol ac mae wedi gweithio ar ystod o brosiectau Cynllun Ailhyfforddi Cenedlaethol a phrentisiaethau ers ymuno â L&W. Cyn ymuno â L&W, gweithiodd mewn rôl addysg a chyflogadwyedd gyrfaoedd mewn AB. Mae Beccy yn gynghorydd gyrfaoedd cymwys ac mae ganddi MA mewn Gyrfaoedd, Addysg a Hyfforddi.
  • sarah

    Sarah Perry

    Rheolwr Prosiect – Gŵyl Ddysgu

    Sarah Perry

    Rheolwr Prosiect – Gŵyl Ddysgu

  • alex

    Alex Stevenson

    Pennaeth Saesneg, Mathemateg ac ESOL

    Alex Stevenson

    Pennaeth Saesneg, Mathemateg ac ESOL

    Mae Alex Stevenson yn bennaeth Saesneg, Mathemateg ac ESOL yn L&W, yn arwain rhaglenni’r sefydliad mewn ymchwil a datblygu sgiliau sylfaenol oedolion, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ac addysg gymunedol. Yn L&W, mae wedi cyflwyno prosiectau niferus i gefnogi datblygu polisi ac ymarfer effeithiol mewn sgiliau sylfaenol i oedolion ar gyfer cleientiaid fel yr Adran Addysg, Awdurdod Llundain Fwyaf a’r Sefydliad Addysg a Hyfforddiant. Cyn ymuno ag L&W, addysgodd Alex, rheolodd a datblygodd ddarpariaeth sgiliau sylfaenol oedolion ac ESOL am fwy na 13 blynedd, gan weithio’n amrywiol mewn colegau AB, gwasanaeth addysg oedolion awdurdod lleol ac i ddarparwr hyfforddiant annibynnol. Ar hyn o bryd, mae’n aelod gweithredol o fwrdd Cymdeithas Addysg Oedolion Ewrop.
  • connor

    Connor Stevens

    Rheolwr Ymchwil

    Connor Stevens

    Rheolwr Ymchwil

    Mae Connor yn rheolwr ymchwil yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae gan Connor rôl flaenllaw yng ngwaith L&W ar dâl a chynnydd. Ar hyn o bryd, mae’n rheoli’r Rhwydwaith Better Work – rhwydwaith polisi ac ymarfer sydd yn dod â mwy na 300 o unigolion a sefydliadau ynghyd i fynd i’r afael â thâl isel ac ehangu’r sail dystiolaeth yn ymwneud â chynnydd mewn gwaith. Mae hefyd wedi gweithio ar ddylunio, datblygu a gwerthuso sawl menter cynnydd mewn gwaith, yn cynnwys rhaglen Step Up Trust for London, rhaglen Skills Escalator y West London Alliance a rhaglen In-Work Progression ar draws Llundain wedi ei noddi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop – treial mwyaf y DU o gymorth sy’n canolbwyntio ar gynnydd ar gyfer gweithwyr tâl isel.
  • L&W logo

    Lovedeep Vaid

    Uwch Ystadegydd y Farchnad Lafur

    Lovedeep Vaid

    Uwch Ystadegydd y Farchnad Lafur

    Ymunodd Lovedeep â L&W fel uwch ystadegydd y farchnad lafur. Cyn ymuno â L&W, gweithiodd fel uwch ddadansoddwr ystadegol yn Awdurdod Llundain Fwyaf a’r Comisiwn Ystadegau. Yn L&W, mae  Lovedeep yn arwain dadansoddiadau buddion cost ac effaith rhaglenni cyflogaeth a dadansoddi ystadegau’r farchnad lafur. Mae wedi modelu a dylunio rhaglenni ar gyfer Llywodraethau Cymru, yr Alban ac Iwerddon ac mae’n defnyddio meddalwedd ddadansoddol i gyflwyno data ar-lein fel canlyniadau’r Arolwg Cyfranogiad Addysg. Mae hefyd yn rhoi cymorth blynyddol i LEP a’u hanghenion data, yn benodol dadansoddi data Prentisiaethau a dysgwyr.
  • jackie

    Jackie Woodhouse

    Rheolwr Ymchwil

    Jackie Woodhouse

    Rheolwr Ymchwil

    Mae Jackie yn rheolwr ymchwil yn L&W. Ar hyn o bryd, mae’n rheoli gwerthusiad ar gyfer Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru o’u rhaglen Cronfa Gweithu’r Dyfodol gyda’r nod o gynorthwyo pobl ifanc i gael hyfforddiant a chyflogaeth a phrosiect a ariennir gan y Loteri Genedlaethol gyda’r nod o wella cymorth ar gyfer gofalwyr sy’n oedolion ifanc mewn Addysg Bellach. Yn L&W mae Jackie wedi arwain prosiectau ymchwil a datblygu ar draws ystod o feysydd polisi yn cynnwys addysg i droseddwyr, sgiliau sylfaenol i oedolion, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) a gwaith i gynorthwyo’r rheiny sydd yn gadael gofal a gofalwyr sy’n oedolion ifanc i gael mynediad at gyfleoedd mewn addysg, hyfforddiant a gwaith. Cyn ymuno â L&W, gweithiodd Jackie mewn amrywiaeth o swyddi ymchwil ar draws y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol.
  • Capture

    Yasmin White

    Rheolwr Ymchwil

    Yasmin White

    Rheolwr Ymchwil

    Mae Yasmin yn rheolwr ymchwil yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae ganddi brofiad eang o ddylunio, rheoli a chynnal prosiectau ymchwil ar raddfa fawr. Cefndir mewn cynnydd yn y gwaith, y wladwriaeth les, a chefnogi polisi ac ymarfer i grwpiau bregus sydd gan Yasmin. Yn fwyaf diweddar, mae wedi rheoli prosiectau i’r Adran Addysg ar y Gronfa Sgiliau Genedlaethol, yn ogystal ag ymchwil i Isafswm Cyflog Cenedlaethol prentisiaid a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar y nifer sy’n gadael gofal sy’n cymryd prentisiaethau. Cyn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, roedd Yasmin yn gweithio i Ipsos MORI, gan reoli ymchwil i gefnogaeth i hawlwyr Credyd Cynhwysol a gwerthusiad o’r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol.

Tîm polisi a chyfathrebu

  • roisin

    Roisin Sheehy

    Uwch Swyddog Materion Allanol

    Roisin Sheehy

    Uwch Swyddog Materion Allanol

    Roisin yw’r uwch swyddog materion allanol yn L&W, yn gweithio yn y tîm polisi a chyfathrebu ac ar yr ymgyrch Gŵyl Ddysgu. Mae Roisin yn ymdrin â’r gwaith o redeg ein cyfathrebiadau digidol o ddydd i ddydd, ac mae ganddi brofiad o greu a theilwra cynnwys i arddangos ein gwaith i gynulleidfaoedd amrywiol. Mae Roisin yn gweithio ar draws ein meysydd polisi, yn datblygu ffyrdd o ymgysylltu ein cynulleidfaoedd amrywiol a chynyddu cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith.
  • Helen

    Helena Wysocki

    Uwch Swyddog Materion Allanol

    Helena Wysocki

    Uwch Swyddog Materion Allanol

    Ymunodd Helena â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn 2021 ac mae’n canolbwyntio ar ein gwaith polisi, cyfathrebu a chyfryngau i gynyddu effaith a chyrraedd ein hymchwil. Mae ganddi ddiddordeb yn sut y gall gwahanol sefydliadau a rhanddeiliaid gydweithio i wella mynediad i addysg oedolion a gwaith da, yn neilltuol ar gyfer grwpiau sydd yn cael eu hallgau yn rhy aml. Cyn ymuno â’r tîm bu’n gweithio yn yr Ymddiriedolaeth Addysg Carcharorion.

Gwasanaethau mewnol

  • mason

    Mason Heard

    Prentis Cyllid

    Mason Heard

    Prentis Cyllid

    Mason yw’r ifancaf o’r aelodau staff yn L&W. Ymunodd fel prentis cyllid ac mae ar hyn o bryd yn gwneud cymhwyster AST Lefel 2, gyda’r bwriad o ddatblygu trwy’r lefelau i fod yn gwbl gymwys. Yn L&W mae’n cyfrannu at swyddogaethau cyllid cyffredinol ac mae’n enghraifft wych o addysg gydol oes oedolion.
  • L&W logo

    Kamal Kotecha

    Pennaeth TG

    Kamal Kotecha

    Pennaeth TG

    Mae gan Kamal dros 25 mlynedd o brofiad yn y Diwydiant TG, wedi rheoli Gweinyddwyr, HP SANs, Isadeiledd, VOIP, Waliau Tân, a dyfeisiadau pwynt terfynol. Yn L&W mae Kamal yn rheoli darpariaeth cymorth a hyfforddiant TG ar draws ein tair swyddfa. Mae Kamal wedi datblygu polisïau TG L&W a’i gynlluniau adferiad mewn argyfwng. Mae Kamal wedi datblygu Systemau Diogel fel Haciwr Moesegol Ardystiedig (CEH) ac mae’n sicrhau bod L&W wedi ei ardystio ar lefelau priodol (e.e. Hanfodion Seibr).
  • gerri

    Gerri McAughtry

    Pennaeth Adnoddau Dynol

    Gerri McAughtry

    Pennaeth Adnoddau Dynol

    Mae Gerri yn Aelod Siartredig o’r CIPD (MCIPD) gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad AD ac MSc mewn Rheolaeth AD o Ysgol Economeg Llundain. Mae wedi gweithio ar draws sawl sector yn cynnwys Addysg Uwch, y Gyfraith, Arolygu Eiddo a’r Gwasanaethau Ariannol. Mae Gerri yn arwain y weithrediaeth AD yn L&W gan ddatblygu Strategaeth AD a phob agwedd ar AD gweithredol. Roedd Gerri yn allweddol yn sicrhau Achrediad “Arian” Buddsoddwyr mewn Pobl L&W yn 2017 a 2020.
  • tim

    Tim Mitchell

    Cyfrifydd Cynorthwyol

    Tim Mitchell

    Cyfrifydd Cynorthwyol

    Fel aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifo (AAT), ymunodd Tim â L&W ar ôl naw mlynedd o weithio yn y diwydiant pensiynau preifat, tra’n astudio i fod yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA). Mae Tim yn gysylltiedig â’r prosesau ariannol o ddydd i ddydd yn ogystal â rhedeg y gyflogres.
id before:4596
id after:4596