Dysgu mewn Cymunedau

Mae newidiadau yn ein heconomi, cymdeithas a phoblogaeth yn ei gwneud yn bwysicach nag erioed i adeiladu cymdeithas dysgu gydol oes. I gyflawni hyn bydd angen diwylliant lletach a dyfnach o ddysgu, gwell cyfathrebu ar ei fuddion gydol oes, a grymuso pobl. Unwaith yr oedd diffyg sgiliau yn cloi pobl allan o gynnydd gyrfa, yn gynyddol bydd yn cloi pobl yn llwyr allan o’r farchnad swyddi.

Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru

Ar ran Llywodraeth Cymru rydym yn rheoli ac yn cefnogi partneriaeth ledled Cymru o ddarparwyr dysgu oedolion yn y gymuned. Mae hyn yn helpu i ddod â rheolwyr a chomisiynwyr ynghyd i rannu adnoddau a syniadau, yn ogystal ag i sicrhau cyfathrebu effeithlon rhwng y llywodraeth a’r sector.

Mae gwaith diweddar yn cynnwys diwygiadau a gynigir i strwythur a chyllido’r sector yng Nghymru. I gael mwy o wybodaeth ar waith y bartneriaeth, cysylltwch â Kay Smith os gwelwch yn dda.

Dysgu, gwaith a iechyd

Fe wnaethom nodi manteision dysgu i waith ac iechyd, sy’n cynyddu oherwydd y cyfuniad o ddisgwyliad oes hirach, a newidiadau cyflym yn ein heconomi a chymdeithas. Fe wnaethom ddadlau dros i ddysgu, gwaith a iechyd i gydweithio, ac i ddysgu fod yn edau aur yn rhedeg drwy ystod o wasanaethau cyhoeddus.

I gefnogi datblygu’r hawl i ddysgu gydol oes rydym wedi galw am bartneriaeth strategol newydd rhwng GIG a’r sector addysg ôl-16, yn ogystal ag Uned Gwaith a Iechyd newydd i Gymru i helpu gyrru arloesedd a chynyddu rhaglenni i cefnogi cyflogi pobl anabl a phobl gyda chyflyrau iechyd.

Addysg oedolion mewn ysgolion

Mae ymgyfraniad rhieni mewn ysgolion fwy na phedair gwaith mor bwysig â dosbarth economaidd-gymdeithasol wrth gefnogi datblygiad blynyddoedd cynnar a dylanwadu ar berfformiad economaidd.

Fodd bynnag, gall ennyn diddordeb rhieni yn nysgu eu plant fod yn her, yn arbennig rhieni mewn cymunedau anodd eu cyrraedd. Mewn ymateb, mae rhai ysgolion wedi canolbwyntio ar gynnig rhaglenni addysg oedolion i rieni a chymunedau lleol. Mae tystiolaeth gan yr ysgolion a gymerodd ran wedi dangos effaith gadarnhaol ar rieni a hefyd ar gyrhaeddiad a phresenoldeb plant a phobl ifanc.

id before:6752
id after:6752