Ym mis Hydref 2018 dechreuodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar Brosiect Symudedd Cam Gweithredu Allweddol 1 Erasmus+ , gyda’r uchelgais o gysylltu gyda phartneriaid Ewropeaidd i ddysgu gan ein gilydd wrth gyflwyno gwyliau dysgu a meithrin ymgysylltu ystyrlon gyda dysgwyr yn ein gwaith eiriolaeth a gweithgareddau hyrwyddo.
Ein dau bartner cynnal oedd Aontas, yn Iwerddon, Learn for Life yn yr Iseldiroedd a Sefydliad Addysg Oedolion Slofenia. Cafodd tri ymweliad astudio eu cynllunio ar gyfer cyfranogwyr o’r sector addysg oedolion yng Nghymru , a ddaeth o blith rhwydwaith Dysgu a Gwaith o Enillwyr Gwobrau Ysbrydoli!
Cymerwch gip ar ein hastudiaethau achos o’r ymweliadau:
Dangosodd asesiad o effaith yr Wythnos Addysg Oedolion er bod cefnogaeth gref yn dal i fod i’r ymgyrch – mae angen adolygu’r dulliau darpariaeth cenedlaethol a lleol ac fe wnaethom ddefnyddio’r ymweliadau astudio i ymchwilio syniadau ar gyfer dulliau newydd o hyrwyddo.