Dysgu gydol oes

Sut mae sicrhau fod pawb yn cael cyfle teg i gael mynediad i ddysgu gydol oes?

 

Beth yw’r ffyrdd mwyaf effeithlon i ennyn diddordeb pobl a’u hysbrydoli i ddysgu?

Mae gan dysgu gydol oes lawer o fanteision, yn cynnwys helpu pobl i ganfod gwaith ac adeiladu gyrfa; gwella iechyd a llesiant; cefnogi cenedlaethau’r dyfodol a helpu pobl i fod yn ddinasyddion gweithgar yn eu cymunedau. Mae ei bwysigrwydd yn cynyddu wrth i ddisgwyliad oes hirach gyfuno gyda newidiadau cyflym yn yr economi a chymdeithas.

Fodd bynnag mae cyfranogiad mewn dysgu gydol oes wedi gostwng yng Nghymru dros y degawd diwethaf gyda llawer o anghydraddoldeb mewn mynediad i ddysgu yn ôl oedran, grŵp economaidd-gymdeithasol a chyrhaeddiad addysgol blaenorol. Ffocws ein gwaith yw deall patrymau o gyfranogiad mewn dysgu, ymchwilio’r manteision a datblygu ffyrdd i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl.

Ein meysydd gwaith mewn dysgu gydol oes

Eisiau gwybod mwy?

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar ddysgu gydol oes cysylltwch â: Joshua Miles, Cyfarwyddwr Cymru.
id before:6488
id after:6488