Addysg alwedigaethol

Mae addysg galwedigaethol yn rhan hanfodol o’r system addysg a sgiliau. Ar ei gorau, gall helpu pobl gyda’r sgiliau maent eu hangen i adeiladu gyrfa lwyddiannus a hefyd helpu cyflogwyr i ddiwallu eu hanghenion sgiliau. Gall system addysg alwedigaethol effeithlon, ar sail gyfartal â chymwysterau academaidd, helpu i hybu cynhyrchiant a hybu cyfiawnder cymdeithasol.

Y realaeth, fodd bynnag, yw nad oes digon o bobl yn cymryd rhan mewn addysg dechnegol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Mae bylchau ar wahanol lefelau o ddysgu o gymharu gyda gwledydd eraill, yn cynnwys y canol coll hanfodol o gymwysterau technegol a galwedigaethol uwch ar lefelau 4 a 5.

Rhan o’r esboniad am hyn yw strwythur y farchnad lafur, buddsoddiad hanesyddol is mewn dysgu a hyfforddiant a ffocws polisi llai cyson ar ddysgu galwedigaethol.

Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wella’r system addysg alwedigaethol, yn cynnwys ar y lefelau mynediad a chyn-mynediad, i helpu unigolion sicrhau sgiliau hanfodol. Gan weithio gyda dysgwyr, darparwyr a chyflogwyr, rydym yn helpu gwneuthurwyr polisi i ddeall yr hyn sy’n gweithio wrth gynllunio a chyflwyno addysg dechnegol safon fyd-eang.

Cyfrifon Dysgu Personol

Eisiau gwybod mwy?

I gael mwy o wybodaeth am ein gwaith ar brentisiaethau neu addysg alwedigaethol yng Nghymru neu i siarad gyda ni am sut y gallwch gymryd rhan, cysylltwch â: Calvin Lees, Swyddog Prosiect
id before:6709
id after:6709