Gall dysgu fel teulu helpu i ddatblygu agweddau cadarnhaol at ddysgu, mwy o hyder a chyflogadwyedd, gwella iechyd a llesiant a gwelliannau i ddatblygiad a chyrhaeddiad pobl ifanc, gan helpu i dorri’r cysylltiad rhwng cyfle a chefndir.
Mae ein gwaith wedi symud ymlaen ag argymhellion ein Hymchwiliad ar Ddysgu fel Teulu i gyflwyno’r achos dros ddysgu fel teulu a chaiff ei gefnogi gan Fforwm Genedlaethol Dysgu fel Teulu, a Grŵp Gweithredu Lleol Dysgu fel Teulu (FLLAG).