
Gorffennol Gwahanol: Rhannu Dyfodol
Lianne Walley - Tiwtor yng Ngholeg Cambria
Tua 850,000 o bobl yn Lloegr a Chymru ‘heb fod yn hyddysg’ mewn Saesneg yn ôl cyfrifiad 2011
Mae tua 850,000 o bobl yn Lloegr a Chymru ‘heb fod yn hyddysg’ mewn Saesneg yn ôl cyfrifiad 2011. Gall oedolion gyda lefelau gwael o sgiliau yn y Saesneg ei chael yn anodd cael mynediad i addysg, canfod gwaith, cymryd rhan yn eu cymunedau neu gefnogi addysg eu plant. Mae hyn yn cyfyngu eu cyfleoedd bywyd yn ogystal â gwneud cydlyniaeth gymunedol yn anos a chynyddu gofynion ar wasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae pawb ohonom eisiau oedolion a fedrai gael budd o wella eu Saesneg i gael cyfleoedd i wneud hynny. Byddai hyn o fudd iddyn nhw a’u teuluoedd ond hefyd ein heconomi, cymdeithas a gwasanaethau cyhoeddus eraill.
Mae ein gwaith yn cynnwys adeiladu’r dystiolaeth o botensial Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) i gael effeithiau cadarnhaol ar iechyd, cyflogaeth ac addysg pobl a’u cyfranogiad mewn cymunedau.
Yng Nghymru, rydym yn gweithio i sicrhau cyfleoedd dysgu mwy integredig, cydlynol ac effeithlon mewn ESOL a datblygu arfer effeithlon wrth gyflenwi ESOL, gan ganolbwyntio ar ddulliau sy’n sicrhau cynnydd a deilliannau cadarnhaol ar lefel genedlaethol, rhanbarthol, lleol a chymdogaeth.
Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rydym yn cydlynu fforwm ar gyfer ymarferwyr ar draws Cymru i rannu ymarfer a datblygu datrysiadau ar gyfer darpariaeth anffurfiol a ffurfiol well ar gyfer ESOL a datblygu adnoddau.
Mae’r fforwm yn cwrdd yn chwarterol ac yn cynnwys Diwrnod Datblygu blynyddol i staff gael gwybodaeth ar yr ymchwil, syniadau a datblygiadau diweddaraf o bob rhan o’r sector.