Cwricwlwm Dinasyddion

Yn ystod 2023 a 2024, mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac ystod o bartneriaid eraill ar brosiect cyffrous i dreialu Cwricwlwm Dinasyddion i Gymru. Mae hyn yn dilyn ymrwymiad cyhoeddus i Genedl Ail Gyfle a wnaed gan y Gweinidog Addysg Jeremy Miles AS, yng Nghynhadledd Addysg Oedolion, 2022.
ESOL

Arolwg cyfranogiad mewn addysg oedolion 2022

Dengys arolwg eleni fod tua dau ym mhob pump (42%) oedolyn wedi cymryd rhan mewn dysgu yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae hyn yn ostyngiad bach (-3 pwynt canran) o gymharu ag arolwg y llynedd, ond mae’n debyg i gyfraddau dechrau’r 2000au ac ar ôl blynyddoedd o gyfranogiad llawer is yn ddiweddar. Mae cynnydd diweddar wedi ei hybu gan fwy o bobl yn dysgu’n anffurfiol yn cynnwys ar-lein, ar ôl i doriadau gan y Llywodraeth arwain at ostyngiad yn y nifer yn cymryd rhan mewn cyrsiau.
Learn-English-at-Home-13

Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith

Ym mis Mehefin 2022, penododd Llywodraeth Cymru Sefydliad Dysgu a Gwaith i werthuso cam diweddaraf eu Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith (IWS), gwasanaeth a oedd â’r nod o helpu pobl i reoli eu hiechyd ac aros mewn gwaith. Yr amcanion oedd mynd i'r afael â thlodi ac allgáu cymdeithasol trwy gyflogaeth gynaliadwy mewn rhannau o Ogledd a De Cymru. Mae ein hadroddiad yn taflu goleuni ar yr argymhellion a'r canfyddiadau allweddol sy'n dweud wrthym sut roedd cyfranogwyr a chyflogwyr yn gwerthfawrogi'r gwasanaeth ac yn nodi mewnwelediad a dysg gwerthfawr ar gyfer gwasanaethau tebyg.
photo-1590650516494-0c8e4a4dd67e

Cyfleoedd a all newid bywyd ar gyfer dysgwyr a staff o fewn y sector addysg oedolion

Mae Taith yn rhaglen newydd sy’n galluogi pobl yng Nghymru i astudio, hyfforddi, gwirfoddoli a gweithio ym mhedwar ban byd, ac yn galluogi sefydliadau yng Nghymru i wahodd partneriaid a dysgwyr rhyngwladol i wneud yr un fath yma yng Nghymru. Bydd yn creu cyfleoedd i ehangu gorwelion, profi ffyrdd newydd o fyw a dod â gwersi yn ôl i’w rhannu gyda phobl gartref. Mae’n golygu y gall Cymru a’i phartneriaid rhyngwladol barhau i fanteisio o gyfleoedd cyfnewid mewn ffordd debyg i’r cyfleoedd a lifodd o Erasmus+ yn Ewrop a hefyd ymhellach i ffwrdd. Rydym eisiau cynyddu’r cyfleoedd ar gyfer y sector addysg oedolion a gweithio gyda chi i roi cefnogaeth i fanteisio i fanteisio i’r eithaf o’r cyfleoedd o fewn Taith.
Taith promo image

Archwiliwch faes o'n gwaith yn fanwl ac ymunwch â'n rhwydwaith cefnogwyr i dderbyn diweddariadau rheolaidd

Arhoswch yn wybodus, cymerwch ran, daliwch ati. Cofrestrwch nawr i ymuno â'n Rhwydwaith Cefnogwyr.
IMG_5023-300x150
id before:4455
id after:4455