Mae ein Mynegai Cyfle Ieuenctid yn dod ynghyd â'r deilliannau allweddol yn nhermau addysg a hefyd gyflogaeth ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Mae’n ein galluogi i roi sylw i’r cyfleoedd sydd ar gael i’n pobl ifanc ar lefel leol. Ac mae’n dangos anghydraddoldeb amlwg iawn. Er enghraifft, mae gan breswylwyr Sir Fynwy ddwywaith y gyfradd ymrestru ar gyfer cyrsiau Addysg Uwch ag sydd yn ardal gyfagos Blaenau Gwent, tra bod y gyfradd cyfranogiad mewn prentisiaeth ar gyfer 16-24 oed deirgwaith yn uwch yng Nghastell-nedd Port Talbot nag yw yng Nghaerdydd neu Geredigion.
Dengys y Mynegai mai yng nghymoedd y De Ddwyrain mae’r pedwar awdurdod lleol sydd yn y safle isaf (Torfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chaerffili), sy’n dangos bod cyfleoedd heddiw – mewn addysg a hefyd mewn cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc – yn parhau wedi’u dosbarthu’n anwastad ac yn sefydlu’r anghydraddoldeb sy’n bodoli. Dengys fod gan lle rydych yn byw gysylltiad annerbyniol o uchel gyda lefel cyrhaeddiad a chyfleoedd ar gyfer pobl ifanc, gyda’r rhai sy’n tyfu fyny yn ein cymunedau tlotaf heb fod yn cael chwarae teg.
Ymchwilio data:
Mae’r Mynegai yn rhoi mesur cymharol o addysg a chyfleoedd cyflogaeth ar gyfer pobl ifanc ym mhob un o awdurdodau addysg lleol Cymru. Mae’r sgôr ar gyfer pob ardal yn dangos sut mae ei pherfformiad yn cymharu gyda’r ardal sy’n perfformio orau; po uchaf y sgôr, y gorau y perfformiad. Cyflwynir canlyniadau fel map gwres, gyda lliwiau tywyllach yn cynrychioli sgorau uchel.
Defnyddiwch y bar offer i rannu, lawrlwytho neu ailosod y map. I gymharu safle perfformiad ardaloedd lleol ar gyfer pob mynegai, gweler ein tablau rhyngweithiol a drefnwyd yn ôl awdurdod addysg lleol ac yn ôl rhanbarth.
Defnyddiwch y tabl yma i ymchwilio safleoedd perfformiad ardaloedd lleol ar gyfer pob mynegai.
Defnyddiwch y tabl yma i ymchwilio safleoedd perfformiad rhanbarthol awdurdodau lleol ar gyfer pob mynegai. Defnyddiwch y bar offer i rannu, lawrlwytho neu ailosod y tabl