Hawl i ddysgu gydol oes

Mae dysgu gydol oes yn cefnogi cynhwysiant a llesiant cymdeithasol ar gyfer pobl o bob oed, ac yn helpu pobl i addasu i newid fel y gallant ailhyfforddi a ddiweddaru eu sgiliau ar hyd eu bywydau. Gall helpu i ffurfio sail cymdeithas deg, lewyrchus a chynhwysol yng nghyd-destun newid economaidd byd-eang, poblogaeth sy’n heneiddio gyda disgwyliad oes hirach, newid mewn patrymau gwaith, newid gwleidyddol a thwf mewn awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial (AI).

Dros y degawd olaf bu gostyngiad sylweddol mewn buddsoddiad a chwymp mewn cyfranogiad oedolion mewn dysgu yng Nghymru. Mae ein harolwg cyfranogiad oedolion mewn dysgu hefyd yn dangos diffyg cydraddoldeb mawr mewn mynediad, gyda chyfranogiad ar ei isaf ymysg unigolion a fedrai gael y budd mwyaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei bwriad i ddatblygu hawl i ddysgu gydol oes i gefnogi unigolion, cymunedau a’r economi. I fod yn ystyrlon mae’n rhaid i’r hawl newydd hwn fod â ffocws nid yn unig ar yr hawl i ddysgu ond hefyd ar y seilwaith angenrheidiol i’w wneud yn realaeth i unigolion. Mae hyn yn cynnwys mynediad i gyngor ac arweiniad, buddsoddiad mewn gwasanaethau cymunedol, aliniad gyda gwasanaethau iechyd, a phwyntiau mynediad hyblyg i ddysgwyr.

Sut mae oedolion yn gwneud penderfyniadau am ddysgu [hyperlink to report]. Fe wnaethom ymchwilio gydag oedolion sy’n ddysgwyr sut yr oedd eu hamgylchiadau personol, cymdeithasol ac economaidd wedi dylanwadu ar eu cymhellion ar gyfer dysgu, yn ogystal â phrofiadau’r gorffennol o addysg. Gan weithio gydag Adran Addysg Gymunedol  Oedolion, yn y dyfodol agos byddwn yn cyhoeddi ymchwil ar gymhellion dysgwyr ar Lefelau 2 a 3 a’u rhesymau dros benderfynu dysgu.

Cymhellion a rhwystrau i ddysgu [hyperlink to report]. Fe wnaethom ymchwilio rhwystrau, cymhellion a sbardunau dysgu ymysg oedolion drwy gyfweliadau manwl gyda dysgwyr presennol a diweddar, a rhai nad ydynt yn ddysgwyr, yn cynnwys cyfranogwyr gyda nodweddion demograffig a gysylltir fel arfer gyda chyfranogiad is mewn dysgu, i gael gwybodaeth ar y ffordd orau i dargedu’r grwpiau hyn. Gan weithio gydag Adran Addysg Gymunedol Oedolion, byddwn yn cyhoeddi ymchwil yn y dyfodol agos ar gymhellion dysgwyr ar Lefelau 2 a 3 a’u rhesymau dros benderfynu dysgu.

Adolygiadau gyrfa [hyperlink to project Page]. Fe wnaethom dreialu Adolygiadau Gyrfa gan gymryd dull gweithredu holistig i helpu oedolion bwyso a mesur ble maent yn awr a’r hyn maent eisiau ei gyflawni yn ystod eu bywyd gwaith. Mae hyn yn gynyddol bwysig gan fod bywyd gwaith yn newid, gyda llawer o bobl yn aros mewn gwaith yn hirach,  yn newid gyrfaoedd, yn dod yn hunangyflogedig, neu’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael plant.

  • Ymchwil ac Adroddiadau 09 11 2022

    Arolwg cyfranogiad mewn addysg oedolion 2022

    Dengys arolwg eleni fod tua dau ym mhob pump (42%) oedolyn wedi cymryd rhan mewn dysgu yn y tair blynedd ddiwethaf
  • Ymchwil ac Adroddiadau 27 05 2022

    Profiadau dysgwyr o ddysgu mewn cyfnod clo

    Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o’r cyfweliadau a gynhaliwyd gyda phump o oedolion sy’n ddysgwyr yng Nghymru. Cafodd y dysgwyr a gyfwelwyd eu recriwtio drwy’r Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu a darparwyr dysgu.

Mae diwygio’r cwricwlwm yn cynnig rhaf fywyd i ddysgu gydol oes

Mae David Hagendyk yn gweld ffenestr wleidyddol i weithredu ar ddysgu gydol oes
id before:6722
id after:6722