Mae prentisiaethau yn swyddi gyda hyfforddiant sylweddol a buont ers amser maith yn ffordd i bobl gyfuno dysgu ac ennill cyflog.
Gall prentisiaethau fod yn ffordd wych i ddiwallu anghenion sgiliau cyflogwyr, gyda thystiolaeth yn dangos y gallant gynyddu cynhyrchiant a hybu ysbryd a chadw staff. Gallant hefyd helpu pobl i gyfuno dysgu ac ennill cyflog i wella eu sgiliau a’u rhagolygon gyrfa.
Mae ein gwaith ar brentisiaethau yn canolbwyntio ar fynediad ac ansawdd i sicrhau bod:
Ond mae anghydraddoldebau sylweddol yn y defnydd o brentisiaethau. Rydym yn ymchwilio achosion sylfaenol yr anghydraddoldebau yma a beth fedrir ei wneud i’w trin.
Mae canfyddiadau ein hymchwil yn cynnwys galwadau am y dilynol:
Safon fyd-eang
Nid oes neb yn amau fod ein prentisiaethau gorau o safon fyd-eang, ond gwyddom hefyd nad yw llawer o brentisiaid yn cael yr hyfforddiant ansawdd uchel a haeddant. Rydym wedi galw am ffocws ar godi ansawdd darparwyr a chanlyniadau, yn ogystal â gweithredu i gynyddu niferoedd ac ehangu mynediad.
Sicrhau fod prentisiaethau yn talu
Mae dilyn prentisiaeth ansawdd uchel yn fuddsoddiad yn y dyfodol. Ond mae angen i ni hefyd sicrhau eu bod yn fforddIadwy nawr. Dengys ein hymchwil nad yw llawer o gyflogwyr yn deall y rheolau am dâl prentisiaid, gan adael gormod o brentisiaid ar dâl islaw’r isafswm cyfreithiol. Pan ychwanegir yr angen am weithredu ar gostau teithio a chymhlethdodau’r system budd-daliadau at hyn, yna daw’n amlwg ein bod angen strategaeth ehangach i wneud i brentisiaethau dalu.
Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb
Mae llawer o’n hymchwil ar brentisiaethau wedi canolbwyntio ar fynd i’r afael â than-gynrychiolaeth – caiff pobl o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrif ethnig, ymadawyr gofal a phobl gydag anableddau eu tan-gynrychioli, ac mae gwahaniaethau sylweddol mewn canlyniadau yn ôl rhywedd a grŵp economaidd-gymdeithasol. Mae gwella hyn yn hanfodol os ydym eisiau sicrhau fod pawb yn cael cyfle teg i fanteisio o brentisiaeth a bod gan gyflogwyr y gronfa dalent ehangaf i dynnu ohono.