
Buddion staff
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cynnig amrywiaeth o fuddion cyflogai i staff yn cynnwys gwyliau hael, pensiwn ac absenoldeb salwch galwedigaethol.
Rydym yn sefydliad annibynnol polisi, ymchwil a datblygu sy’n ymroddedig i hyrwyddo dysgu gydol oes, cyflogaeth lawn a chynhwysiant.
Mae ein ffocws ar y cwestiynau mawr. Sut ydyn ni’n helpu mwy o bobl i ddod o hyd i waith ac adeiladu gyrfaoedd mewn marchnad swyddi sy’n newid? Sut mae helpu pobl i fod yn ddinasyddion egnïol ac wedi ymgysylltu? A sut mae gwneud hyn i gyd ar gyfnod o gyllid cyhoeddus cyfyngedig.
Mae Dysgu a Gwaith wedi ennill dyfarniad Arian Buddsoddwr mewn Pobl, yn ymroddedig i gyfle cyfartal a datblygu staff yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer cymwysterau ffurfiol pan yn berthnasol. Mae Dysgu a Gwaith yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr cefnogol a hyblyg. Sylweddolwn bwysigrwydd cydbwysedd gwaith-bywyd ar gyfer ein staff a byddwn yn ystyried trefniadau gwaith hyblyg.
Rydym yn cynnig amrywiaeth o fudd-daliadau yn ychwanegol at gyflog cystadleuol yn cynnwys: rhwng 35 a 39 diwrnod o wyliau yn dibynnu ar radd a gwasanaeth yn cynnwys gwyliau banc, dyddiau gras a chau dros y Nadolig; cynllun pensiwn budd diffiniedig hael gyda’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (cyfraniadau cyflogwr o fwy na 12%); benthyciad tocyn tymor ac amrywiaeth o fuddion cyfeillgar i’r teulu, iechyd a llesiant yn cynnwys gofal plant, seiclo i’r gwaith a rhaglen cymorth cyflogeion.
Rydym bob amser yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg. Gofynnir i chi nodi ar eich cais os gallwch siarad Cymraeg.
Gofynnir i chi nodi pan ymgeisiwch os ydych angen unrhyw addasiadau i gymryd rhan yn y broses recriwtio.
Nid ydym yn recriwtio ar hyn o bryd.
Rydym bob amser yn dymuno cysylltu gyda gweithwyr proffesiynol o’r un anian i ymuno â’n cofrestr ymgynghorwyr. Bydd gennych hanes cryf o lwyddiant mewn dysgu, sgiliau neu gyflogaeth, gyda sgiliau ymchwil neu ddatblygu rhagorol.
I wneud cais i fod ar gofrestr ymgynghorwyr Dysgu a Gwaith, cysylltwch â ni yn consultants@learningandwork.org.uk.