
Ein pobl
Mwy o wybodaeth am y bobl sy’n gweithio yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, ac am yr ymddiriedolwyr a’r cymrodyr sy’n ein cefnogi. Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Chaerlŷr a gweithiwn ar draws y pedair cenedl.
Home | Amdanom ni
Rydym ni’n sefydliad polisi ac ymchwil annibynnol sy’n canolbwyntio ar ddysgu gydol oes a gwaith gwell.
Ein gweledigaeth yw cymdeithas deg a llewyrchus lle mae dysgu a gwaith yn galluogi pawb i wireddu eu potensial. Rydym ni’n ymchwilio i’r hyn sy’n gweithio, yn dylanwadu ar bolisi ac yn datblygu syniadau newydd i wella ymarfer.
Ein blaenoriaethau ar gyfer 2024-29 yw:
Cymdeithas Addysg Oedolion y Byd (WAAE)
Gellir olrhain gwreiddiau L&W i ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf pan sefydlwyd Cymdeithas Addysg Oedolion y Byd (WAAE) yn 1918-19 gan grŵp yn cynnwys Dr Albert Mansbridge, sefydlydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr.
Roedd y rhan fwyaf o aelodau WAAE yn dod o Brydain gyda’i ddimensiwn rhyngwladol yn dod yn bennaf o diriogaeth y cyn Ymddiriedolaeth Brydeinig. Roedd yn cynnal cynadleddau, cyhoeddi Journal of the World Association for Adult Education a sefydlodd Biwrô Canolog Gwybodaeth (ar Addysg Oedolion) yn Lloegr.
Sefydliad Addysg Oedolion Prydain (BIAE)
Yn 1921 sefydlwyd Sefydliad Addysg Oedolion Prydain (BIAE) ar wahân. Yn wreiddiol yn gangen o’r WAAE, daeth ar wahân yn gyfansoddiadol yn 1925.
Roedd y BIAE yn gymdeithas o aelodau unigol a’i brif nod oedd bod yn ganolfan ar gyfer syniadau cyffredin gan bersonau o brofiadau amrywiol yn y mudiad addysg oedolion. Nid oedd ganddo ei adeilad ei hun ac roedd yn llogi ystafelloedd ar gyfer cyfarfod. Y cyfeiriad a roddwyd weithiau – 28 St Anne’s Gate, Llundain – oedd cyfeiriad preifat ei Lywydd cyntaf, yr Is-iarll ldane.
The Journal of Adult Education
Lansiwyd The Journal of Adult Education fel cyfnodolyn hanner blwyddyn. Daeth yn gyhoeddiad chwarterol Adult Education in 1934, a ddaeth yn Adults Learning yn 1989.
Mentrau Newydd mewn Darlledu
Yn 1928 sefydlodd y BIAE a’r BBC Bwyllgor Ymchwiliad ar y cyd, a gynhyrchodd adroddiad New Ventures in Broadcasting. Arweiniodd hyn at ffurfio Cyngor Canolog Darlledu Addysg Oedolion, fel fforwm ar gyfer cydweithrediad sefydliadau addysg oedolion gyda’r BBC.
BFI (Sefydliad Ffilm Prydain)
Yn 1929 roedd gan y BIAE ran flaenllaw wrth sefydlu Comisiwn anffurfiol ar Ffilmiau Addysgol a Diwylliannol. Cynhyrchodd hyn adroddiad The Film in National Life yn 1932, a arweiniodd at greu’r Sefydliad Ffilm Prydain yn 1933.
Biwrô Materion Cyfoes y Fyddin (ABCA)
Sefydlwyd Biwrô Materion Cyfoes y Fyddin (ABCA) yn 1941 gan Gorfflu Addysg y Fyddin dan gyfarwyddyd Syr William Emrys Williams (Ysgrifennydd BIAE). Cynhaliodd ABCE raglen o addysg gyffredinol ar gyfer dinasyddiaeth a dywed rhai iddo gael effaith ar ganlyniad etholiad cyffredinol 1945.
Cyngor y Celfyddydau
Yn 1935 sefydlodd y BIAE gynllun Celf i’r Bobl i roi cyfle i bobl gyffredin ym mhob rhan o Brydain i weld gwaith celf gwych.
Cytunodd llawer o gasglwyr preifat i fenthyca eu paentiadau i’r Sefydliad. Arweiniodd Celf at y Bobl at sefydlu Cyngor Annog Cerddoriaeth a’r Celfyddydau (CEMA) yn 1939 gyda help y BIAE, ac yn arbennig ei Ysgrifennydd WE Williams. Daeth CEMA y Cyngor Celfyddydau yn 1946.
Sefydliad Cenedlaethol Addysg Oedolion
Cafodd Sefydliad Cenedlaethol Addysg Oedolion ei sefydlu yn 1946 fel fforwm ar gyfer sefydliadau sy’n darparu addysg oedolion. Yn 1949 unodd gyda BIAE i ddod y Sefydliad Cenedlaethol Addysg Oedolion. Edward Hutchinson, ysgrifennydd sefydlu NFAE, oedd Ysgrifennydd cyntaf NIAE.
Ar yr un pryd sefydlwyd Sefydliad Addysg Oedolion yr Alban (SIAE) – yn ddiweddarach SIACE – a oroesodd nes iddo golli cyllid y Llywodraeth yn 1991.
Studies in Adult Education
Lansiwyd cyfnodolyn Studies in Adult Education.
Cyngor Ymgynghorol Addysg Barhaus Oedolion (ACACE)
Roedd ACACE yn gorff annibynnol a ariannwyd gan y Llywodraeth yn gweithio yn yr un adeilad â NIAE/NIACE rhwng 1977 a 1983, dan gadeiryddiaeth Dr Richard Hoggart.
Youthaid
Lansiwyd Youthaid yn 1977 fel elusen genedlaethol ar gyfer pobl ifanc ddiwaith.
Uned Diweithdra
Sefydlwyd yr Uned Diweithdra gan Clare Short (Cyfarwyddwr Youthaid) i ddarparu ymchwil ac ymgyrchu annibynnol ar gyfer pobl ddiwaith, ar adeg pan oedd diweithdra yn cynyddu’n gyflym. Rhwng 1983 a 2001 sefydlodd David Taylor, Dan Finn a Paul Convery enw da’r Uned fel darparydd blaenllaw o ymchwil annibynnol.
Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus Oedolion (NIACE)
Newidiodd NIAE ei enw yn 1984 i’r Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus Oedolion. Roedd hwn yn adlewyrchiad mwy cywir o’r cylch gorchwyl oedd yn cynnwys, ond ymestyn tu hwnt, tiriogaeth prif ffrwd traddodiadol darpariaeth efrydiau allanol prifysgolion, agendâu gwasanaethau addysg oedolion a chymunedol awdurdodau addysg lleol a phryderon cyrff gwirfoddol pwysig fel WEA.
Uned ar gyfer Datblygu Addysg Barhaus Oedolion (UDACE)
Bu’r olynydd a gyllidir gan y llywodraeth i ACACE yn gweithredu rhwng 1984 a 1992. Yn 1992, daeth yr Uned Addysg Bellach yn gyfrifol am UDACE.
NIACE Cymru
Wedi’i alw’n wreiddiol yn Bwyllgor Cymru NIACE, sefydlwyd NIACE Cymru yn 1985 i gynghori’r Swyddfa Gymreig, Cydbwyllgor Addysg Cymru, NIACE a darparwyr addysg oedolion yng Nghymru.
Uned Diweithdra a Youthaid
Mae’r Uned Diweithdra yn ffurfio trethiant cydweithio gyda Youthaid.
Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol (BSA)
Roedd yr Uned Llythrennedd Oedolion a Sgiliau Sylfaenol (gynt yr Uned Llythrennedd Oedolion a’r Asiantaeth Adnoddau Llythrennedd Oedolion) yn uned a gyllidwyd gan y llywodraeth yn NIACE, a arhosodd yn Llundain pan symudodd NIACE i Gaerlŷr. Daeth yn annibynnol yn 1990 fel yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol. Unodd NIACE a BSA fel un sefydliad.
Canolfan Cynhwysiant Cymdeithasol (CSI)
Cafodd CSI ei sefydlu gan Mike Stewart a Dave Simmonds OBE fel menter gymdeithasol i ddarparu cefnogaeth polisi ac ymarfer i gyflenwi rhaglen newydd y Llywodraeth ar gyfer pobl ddi-waith.
Yr Uned Diweithdra ac Youthaid yn uno'n ffurfiol.
Canolfan Cynhwysiant Economaidd a Chymdeithasol (Inclusion)
Daeth yr Uned Diweithdra a Youthaid a’r Ganolfan Cynhwysiant Economaidd ynghyd i ffurfio Inclusion.
Sefydliad Dysgu a Gwaith
Yn dilyn cyfnod o gydweithio mewn perthynas strategol, unodd NIACE ac Inclusion i ffurfio’r Sefydliad Dysgu a Gwaith. Penodwyd Stephen Evans, y prif weithredwr presennol, yn 2016.
Dathlu 100 mlynedd o ddysgu
Byddwn yn dathlu ein canmlwyddiant yn 2021, yn nodi canrif o ymgyfraniad mewn addysg oedolion gan un o’n cyrff sefydlu.
Mwy o wybodaeth am y bobl sy’n gweithio yn y Sefydliad Dysgu a Gwaith, ac am yr ymddiriedolwyr a’r cymrodyr sy’n ein cefnogi. Mae gennym swyddfeydd yng Nghaerdydd, Llundain a Chaerlŷr a gweithiwn ar draws y pedair cenedl.
Mae Dysgu a Gwaith wedi ennill dyfarniad Arian Buddsoddwr mewn Pobl, yn ymroddedig i gyfle cyfartal a datblygu staff. Mae Dysgu a Gwaith yn ymfalchïo mewn bod yn gyflogwr cefnogol a hyblyg.
Dod o hyd i’n
Swyddfa Caerdydd
Canolfan Cyfryngau S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU
Ar y Ffordd
O’r M4 neu o’r Gogledd ar yr A470
Dilyn cyffordd 32 o’r M4, gan gymryd y troad am Ganol Caerdydd, neu os yn dod i Gaerdydd ar yr A40, byddwch yn dod i ardal cyflymder 40mya, yna:
O ganol y ddinas
Dilyn yr arwyddion ar gyfer yr A470 a Merthyr. Ar y drosffordd (yn Gabalfa) cadw i’r lôn dde a dilyn yr arwyddion am A469 a Chaerffili (o amgylch Cross Inn). Dyma Heol Caerffili. Dal i fynd nes cyrhaeddwch y gylchfan. Dilyn y cyfarwyddiadau 4-7 fel uchod.
Ar y trên
Mae swyddfa Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru tua 5 munud ar droed o orsaf Tŷ Glas Llanisien.
Cyfeiriad cofrestredig swyddogol
4th llawr, Ty Arnhem, 31 Waterloo Way, Caerlŷr, LE1 6LP
Ar y trên
Mae un orsaf drên yn gwasanaethu dinas Caerlŷr gyda gwasanaethau uniongyrchol i Lundain, Birmingham, Coventry a Sheffield. Ar ôl cyrraedd Caerlŷr, dilynwch y cyfarwyddiadau islaw.
Cyfeiriad: 4ydd Llawr, Arnhem House, 31 Waterloo Way, Caerlŷr/Leicester LE1 6LP.
Defnyddiwch y groesfan cerddwyr yn syth tu allan i’r orsaf drên i groesi London Road tuag at adeilad KPMG (brics oren gyda ffenestr glas llachar): Arnhem House yw’r adeilad brown tywyll i chwith swyddfa KPMG. Mae ein swyddfeydd ar y 4ydd Llawr.
Ar y ffordd
Rydym yn annog pob ymwelydd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, os na fedrir osgoi teithio mewn car, dilynwch y cyfarwyddiadau islaw i’r maes parcio talu ac arddangos mawr agoraf – 10 munud ar droed i’n swyddfeydd newydd ar Waterloo Way. Mae meysydd parcio eraill ar gerllaw – mwy o wybodaeth parcio islaw.
O’r M1: Gadael yng Nghyffordd 21 a mynd tuag at Gaerlŷr. Troi i’r dde yn y gylchfan gyntaf, ac yna droi i’r chwith ar yr ail gylchfan i’r A563 (de a dwyrain) gyda chanolfan siopa Fosse Park ar y chwith i chi.
Dilyn yr arwyddion am Wigston a Oadby, ac ar ddiwedd yr A563 troi i’r chwith i gylchfan fawr ar yr A6 (cae rasio ar y dde). Mynd yn syth ymlaen, dilyn arwyddion am ganol y ddinas, yna syth ymlaen ar draws cylchfan fach (Victoria Park ar y chwith). Yn y set nesaf o oleuadau traffig, ger clwydi haearn bwrw mawr Victoria Park, troi i’r chwith i Granville Road. Mae maes parcio cyhoeddus talu ac arddangos ar y chwith.
O’r M69: Daw’r M69 i ben yn yr un gylchfan â Chyffordd 21 yr M1. Mynd yn syth ar draws y gylchfan a throi i’r dde yn yr ail gylchfan. Troi i’r chwith yn y trydydd cylchfan i’r A563 (de a dwyrain) gyda chanolfan siopa Fosse Park i’r chwith. Dilyn cyfarwyddiadau fel y nodir uchod.
O’r A6 De (Market Harborough): Dilyn yr A6 i ganol y ddinas, yna ddilyn arwyddion am Oadby. Mynd yn syth ar draws y gylchfan fawr (cae rasio ar y chwith). Dal i fynd yn syth ymlaen, dilyn arwyddion am ganol y ddinas, yna syth ar draws cylchfan bach (Parc Victoria ar y chwith). Troi i’r chwith i Heol Granville yn y set nesaf o oleuadau traffig, ger clwydi haearn bwrw mawr Victoria Park, troi i’r chwith i Heol Granville. Mae maes parcio cyhoeddus talu ac arddangos ar y chwith.
O Nottingham (yn lle’r M1): Gadael Nottingham ar yr A606 a dal i fynd yn syth ymlaen i’r A46. Dilyn arwyddion i ganol dinas Caerlŷr i Melton Road yna Belgrave Road. Mynd syth ymlaen yn y cylchfan mawr cyntaf, troi i’r chwith ar yr ail (a’r drosffordd) i St Matthew’s Way. Dal i fynd syth ymlaen i set o oleuadau traffig a chylchfan arall. Cymryd y trydydd allfan i St George’s Way (parc siopa St George ar y chwith). Dilyn yr arwyddion ar gyfer yr orsaf reilffordd. Dilyn y ffordd o amgylch gan gadw yn y lôn ganol, mynd dros y ddwy set nesaf o oleuadau traffig. Yn yr ail set, mae’r orsaf heddlu ar y dde a’r ffordd yn gwyro i’r chwith. Mynd drwy’r ddwy set nesaf o oleuadau traffig heibio’r orsaf rheilffordd ar y chwith. Mae croesiad cerddwyr yn union o flaen eglwys ar gornel University Road, troi i’r dde yn y goleuadau traffig yma.
Dal i fynd lawr University Road a mynd i’r chwith ar ôl cyrraedd y gyffordd gyda Regent Road. Troi i’r chwith yn y goleuadau traffig hyn a dilyn y ffordd i’r top. Mae’r ffordd yn dechrau gwyro i’r chwith ac mae’r fynedfa ychydig cyn y goleuadau traffig ar y dde (nodwch: ar gyfer De Montfort Hall mae’r clwydi mawr ar y dde cyn y drofa ac nid ar gyfer y maes parcio).
Meysydd parcio:
Mae amrywiaeth o feysydd parcio talu ac arddangos o amgylch yr orsaf reilffordd a chanol y ddinas, fodd bynnag cynghorir chi i ddefnyddio’r maes parcio cyhoeddus yn Victoria Park. Mae cyfarwyddiadau i faes parcio Victoria Park o bob cyfeiriad ar gael yn yr adran cyfeiriadau uchod. Mae hefyd leoedd parcio yn yr orsaf reilfordd.
https://www.leicester.gov.uk/transport-and-streets/parking-in-leicester/parking-charges/
Sut mae cyrraedd y Sefydliad Dysgu a Gwaith o’r maes parcio a argymhellir?
O faes parcio talu ac arddangos Victoria Park i swyddfa Waterloo Way (argymhellir)
Croesi Granville Road a symud ymlaen at London Road. Cerdded ar London Road, tuag at yr orsaf reilffordd. Mae Arnhem House gyferbyn â’r orsaf reilffordd, i chwith adeilad bric oren uchel KPMG. Croesi’r ffordd at yr adeilad ac mae’r brif fynedfa o flaen y croesiad cerddwyr.
Mae swyddfa Llundain o fewn pum munud ar droed o orsaf Vauxhall. Ar ôl cyrraedd rhif “Eighty9”, cymryd y lifft i’r trydydd lawr a dilyn arwydd “Learning and Work Institute”.
Hedfan
Tiwb
Car
Rheilffordd
Meysydd parcio
Os ydych angen parcio car ac yn aros mewn gwesty, dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol. Ar gyfer pobl sy’n dymuno parcio’n agos at swyddfa Llundain, mae lleoedd parcio ar gael ychydig funudau i ffwrdd yn Tinworth Street ac yn dibynnu ar argaeledd. Ffioedd yw: £5 am 2-6 awr neu £7 y diwrnod. Mae lleoedd yn gyfyngedig ac ni ellir eu harchebu ymlaen llaw.
Tâl Atal Tagfeydd
Gofynnir i chi nodi ein bod o fewn y parth tâl atal tagfeydd. Gallwch dalu’r tâl atal tagfeydd naill ai ymlaen llaw neu ar ddiwrnod geitho cyn, yn ystod neu ar ôl eich taith. Y tâl yw £8 os talwch erbyn 10.00pm ar y diwrnod teitho neu £10 os talwch rhwng 10.00pm a chanol-nos ar y diwrnod teithio. Mae mwy o fanylion ar wefan Transport for London www.cclondon.com.