Dod yn gefnogwr

Mae cefnogwyr y Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru yn bobl neu sefydliadau sydd ag ymroddiad i gynyddu dysgu, sgiliau a chyfleoedd cyflogaeth ac sydd eisiau dangos eu cefnogaeth a chymryd rhan yn ein cenhadaeth.

Mae’n rhad ac am ddim i ddod yn gefnogwr. Rydym eisiau iddi fod yn broses ddwy-ffordd, yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf ac yn gweld ein gwaith a’r datblygiadau diweddaraf ar gam cynnar, a defnyddio eich arbenigedd i helpu llunio’r hyn a wnawn.

Pwy all fod yn gefnogwr Dysgu a Gwaith?

Unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu, sgiliau a chyflogaeth neu’n dymuno gwybod mwy. Gall unigolion a sefydliadau ymuno â’n rhwydwaith. Mae ar agor i’r cyhoedd, cyrff preifat a thrydydd sector, a phobl o ymarferwyr rheng-flaen i wneuthurwyr polisi.

 

Sut mae dod yn gefnogwr?

Gallwch gofrestru drwy lenwi ein ffurflen ar-lein islaw neu i gael mwy o wybodaeth anfonwch e-bost at supporters@learningandwork.org.uk.

id before:7268
id after:7268