Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ymgyrch flynyddol sy’n dathlu a hyrwyddo cyfleoedd dysgu i bawb. Bydd yr wythnos ffocws rhwng 9 – 15 Medi 2024, gyda gweithgaredd hyrwyddo drwy gydol y mis.
Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, arddangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru.
Byddwn yn arddangos y llu o fanteision a chyfleoedd i fynd yn ôl i ddysgu, p’un ai ar gyfer gwaith, bywyd, iechyd, neu gysylltiadau cymunedol.
Rydym eisiau gweithio gyda sefydliadau ar draws y sector i gyflwyno rhaglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer pobl ledled Cymru. Byddwn yn gweithio i gyfeirio a hyrwyddo digwyddiadau cymunedol, cyrsiau byr, sesiynau blasu, darpariaeth ar-lein, dyddiau agored, cyngor a gwybodaeth.
Mae grantiau o hyd at £750 ar gael i sefydliadau sy’n gweithio yng Nghymru sy’n cyflwyno dysgu gydol oes. Nod y gronfa grantiau yw cefnogi creu sesiynau blasu byr, digwyddiadau dysgu, gweithgaredd yn y gymuned, dosbarthiadau meistr, llais dysgwyr neu ddysgu fel teulu am ddim, ac i ddatblygu cynnwys y gellir ei addasu i amgylchedd ar-lein. Gallech hefyd fod â diddordeb mewn cyflwyno dyddiau agored ar-lein/wyneb i wyneb.
16 Awst 2024
Argymhellwn eich bod yn cyflwyno eich cynnig cyn gynted ag sydd modd i roi digon o amser i’ch hunan i gynllunio eich rhaglen gweithgareddau. Ar ôl ei lenwi anfonwch eich cais at alwevents@learningandwork.org.uk.