Aelodau ein bwrdd a’n cymrodyr

Bwrdd y Cwmni

  • Maggie Galliers CBE

    Maggie Galliers CBE

    Llywydd

    Maggie Galliers CBE

    Llywydd

    Maggie yw Cadeirydd Bwrdd y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae hefyd yn Aelod o Gyngor y Brifysgol Agored a phanel cynghori ar addysg bellach y Royal Anniversary Trust. Yn gyn-lywydd Cymdeithas y Colegau, yn Brifathro Coleg am 16 mlynedd ac yn fwy diweddar, yn Gadeirydd yn llywio coleg allan o gamau ymyrraeth ac i mewn i uniad, mae ganddi brofiad eang a manwl o golegau a’u partneriaid cyflenwi. Fel cyn-aelod y byrddau noddwyr, rheoleiddwyr a chyrff gwella  cenedlaethol mae ganddi ddiddordeb brwd hefyd mewn polisi a’i effaith. Gwnaed Maggie yn CBE yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer gwasanaethau i addysg bellach lleol a chenedlaethol.
  • jeremy m

    Jeremy Moore CB

    Ymddiriedolwr

    Jeremy Moore CB

    Ymddiriedolwr

    Tan yn ddiweddar, Jeremy oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Polisi yn yr Adran Gwaith a Phensiynau.  Bellach mae ganddo yrfa portffolio. Yn flaenorol, yn yr Adran Addysg, gweithiodd ar bolisi ysgolion ac AU ac am 4 blynedd roedd yn gyfarwyddwr anweithredol y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Treuliodd 2 flynedd ar secondiad i Drysorlys EM yn arwain y tîm Tai, Trefol a Thrafnidiaeth. Gweithiodd hefyd am sawl blwyddyn yn y Cyngor Ymchwil Economaidd y Chymdeithasol. Mae gan Jeremy ddiddordeb mawr mewn materion cyfalaf dynol a phwysigrwydd hanfodol dysgu gydol oes.  Mae hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio tystiolaeth a dadansoddi wrth wneud polisïau.
  • jeff-297x300

    Jeff Greenidge

    Cadeirydd, Grŵp Strategaeth Cymru

    Jeff Greenidge

    Cadeirydd, Grŵp Strategaeth Cymru

    Mae gan Jeff Greenidge dros 25 mlynedd o brofiad o arweinyddiaeth a rheolaeth strategol ar lefel uwch yn y sectorau cyhoeddus, masnachol a di-elw yn y DU ac Ewrop. Yn flaenorol, roedd yn gyfrifol am gyflwyno contract learndirect yng Nghymru a Lloegr a gwasanaethodd ar Fwrdd WEA De Cymru ac Agored Cymru a Rubicon Dance. Dechreuodd ei yrfa fel athro mewn Ysgol yng Ngwent ac yna fel Pennaeth Adran yn ysgol Uwchradd Llanrhymni yng Nghaerdydd. Dilynwyd hyn gan dair blynydd yn y Gwasanaeth Sifil yn dylunio a gweithredu’r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer ieithoedd tramor modern mewn ysgolion a dwy flynedd fel Hyfforddwr Athrawon Ôlraddedig yng Ngholeg Prifysgol Abertawe. Mae hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd i Awdurdod Addysg Lleol Caerdydd yn datblygu’r cwricwlwm, ac yn CBAC roedd yn gyfrifol am ddatblygu portffolio o brosiectau hyfforddiant galwedigaethol Ewropeaidd. Mae’n gredwr cryf mewn cysylltiadau partner cryf fel dull o gael mwy o werth o wasanaethau llinell a sicrhau ymatebion prydlon i flaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
  • Christopher-Banks-450x300 L&W Trustee CBE

    Christopher Banks CBE

    Ymddiriedolydd

    Christopher Banks CBE

    Ymddiriedolydd

    Mae Chris yn ddyn busnes ac wedi gweithio i gorfforaethau rhyngwladol mawr (fel Mars, Allied Domecq, Grand Met a Coca-Cola, lle roedd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Prydain Fawr) a busnesau bach newydd lleol, yn cynnwys ei fusnesau bwyd a diod ei hun. Bu hefyd yn Ddirprwy Gadeirydd y Panel Cyflogaeth Cenedlaethol, oedd yn cynghori’r Llywodraeth ar ddiwygio Llesiant i Waith ac ef oedd awdur yr adroddiad dylanwadol ‘Welfare to Workforce Development’. Bu’n aelod sefydlu ac wedyn yn Gadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Cyngor Dysgu a Sgiliau. Cynhaliodd adolygiad annibynnol o ffioedd a chyd-gyllido mewn Addysg ac Uwch, ar ran yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau. Bu Chris yn Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Birmingham ac wedyn yn Gadeirydd yr Asiantaeth Sicrwydd Ansawdd, gyda chyfrifoldeb am oruchwylio ansawdd Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig. Bu’n Gadeirydd Ysgol Prifysgol Birmingham ac mae’n parhau’n aelod o’r Ysgol. Mae yn Llywodraethwr Ysgol Rydd Cobham a grŵp ACS o Ysgolion Rhyngwladol. Cafodd CBE yn 2003 am wasanaethau i bobl ifanc a’r diwaith.
  • Paul-Greening - L&W Board member

    Paul Greening

    Aelod annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio

    Paul Greening

    Aelod annibynnol o’r Pwyllgor Archwilio

    Mae Paul wedi ymddeol fel gwas sifil ar ôl gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau fel cyfrifydd cyllid cyhoeddus siartredig am 19 ohonynt. Gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Cyllid dau gorff hyd braich yr Adran (NEST a BPDTS) yn ogystal ag uwch swyddog cyllid o fewn yr adran graidd. Ers ymddeol mae wedi gwasanaethu fel trysorydd elusen leol yn Harrogate, yn ogystal â swyddi anweithredol yn y sector nid er elw.
  • Lauren-Harris-450x300 L&W Trustee

    Lauren Harris

    Ymddiriedolydd

    Lauren Harris

    Ymddiriedolydd

    Mae Lauren Harris yn gyfarwyddwr swyddogaeth Archwiliad Mewnol y Standard Chantered Group. Cyn hyn, treuliodd y rhan fwyaf o’i gyrfa yn darparu gwasanaethau archwilio ac ymgynghori yn KPMG yn y sectorau gwasanaethau ariannol ac elusennol. Mae’n gweithio’n agos gyda byrddau a phwyllgor archwilio i hyrwyddo arfer gorau mewn llywodraethiant corfforaethol a rheoli risg. Bu ganddi hefyd rolau allweddol mewn datblygu strategaethau dysgu ac mae’n gadeirydd rhwydwaith byd eang gyda chenhadaeth i ddarparu a chyflymu gyrfaoedd menywod.
  • haf

    Hâf Merrifield

    Ymddiriedolwr

    Hâf Merrifield

    Ymddiriedolwr

    Hâf Merrifield yw Cyfarwyddwr Cynllunio, Perfformiad a Newid Strategol ym Mhrifysgol Nottingham ar hyn o bryd. Cyn ymuno â’r sector Prifysgolion, treuliodd Hâf lawer o’i gyrfa yn y gwasanaeth Sifil, yn cynnwys swydd Cyfarwyddwr Plant a Dysgwyr ar gyfer Dwyrain Canolbarth Lloegr i’r Adran Addysg gyda swyddi blaenorol yn yr Adran Diwydiant a Masnach, Swyddfa’r Cabinet, ac am gyfnod byr, y Comisiwn Ewropeaidd. Mae ganddi hefyd brofiad fel uwch reolwr llywodraeth leol. Mae ganddi ddiddordeb hirsefydlog yng ngrym addysg a sgiliau i drawsnewid cyfleoedd bywyd.
  • tim R

    Tim Render

    Trysorydd

    Tim Render

    Trysorydd

    Cafodd Tim yrfa hir gydag awdurdodau lleol, gan ymddeol fel cyfarwyddwr cyllid awdurdod lleol mawr yng Nghanolbarth Lloegr. Ers hynny, mae wedi cael portfolio o weithgareddau yn cynnwys ymgynghoriaeth cyllid a sefydliadol i’r awdurdod lleol, y sectorau preifat, addysg uwch a gwirfoddol, a swyddi anweithredol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Ar hyn o bryd, ef yw Cadeirydd Archwilio i’r awdurdod lleol a’r Grŵp Comisiynu Clinigol yng Ngogledd Ddwyrain Swydd Lincoln, ac mae’n gyfarwyddwr anweithredol cymdeithas dai sy’n cael ei harwain gan denantiaid. Roedd yn llywodraethwr coleg addysg bellach am 17 flynedd, ac mae’n Ymddiriedolwr ac yn llywodraethwr ysgol leol i’r Midland Academies Trust . Mae Tim yn ymddiriedolwr sawl elusen leol yn cynnwys banc bwyd, Worklink Hinckley, sy’n darparu hyfforddiant i mewn i waith ar gyfer pobl ag anableddau dysgu; ac mae’n Drysorydd ei eglwys Anglicanaidd leol.
  • ruth

    Ruth Spellman OBE

    Ymddiriedolwr

    Ruth Spellman OBE

    Ymddiriedolwr

    Ruth Spellman oedd prif weithredwr benywaidd cyntaf WEA – darparwr addysg oedolion gwirfoddol mwyaf y DU yn Lloegr a’r Alban - a’r unig un yn ei hanes dros 116 o flynyddoedd. Yn ddiweddar, ymddiswyddodd o’r rôl i fod yn Llysgenhadwr. Mae Ruth yn defnyddio ei gwybodaeth a’i phrofiad helaeth o’r ffordd y gall addysg newid bywydau pobl, i lunio dyfodol WEA ac yn rhinwedd ei swydd fel Aelod o Fwrdd amrywiaeth o elusennau addysg. Rhoddwyd OBE i Ruth yn 2007 am wasanaethau i ddysgu yn y gweithle ac mae ganddi dair Doethuriaeth Anrhydeddus. Arweiniodd profiad cynnar Ruth yn y sector cyhoeddus ati’n arwain yr ymarfer ymgynghori AD yn Coopers and Lybrand ac yn yr NSPCC fel Cyfarwyddwr AD, yn moderneiddio ymagwedd y sefydliad i ddatblygu ei bobl ac ennill Cyflogwr y Flwyddyn ym 1996. Datblygodd Ruth i arwain Buddsoddwyr mewn Pobl pan drawsnewidiodd brand BmP, a gafodd ei gydnabod fel Uwch Frand ar ôl hynny. Gadawodd wedi cyflawni BmP ar gyfer 33,000 o gyflogwyr, 15,000 ohonynt yn BBaCh. Ruth oedd Prif Weithredwr benywaidd cyntaf y Sefydliad Peirianwyr Mecanyddol, lle’r arweiniodd strategaeth oedd yn canolbwyntio ar gadw doniau benywaidd, datblygu llwybr ar gyfer peirianwyr ifanc, derbyniad i aelodaeth broffesiynol ac ymgysylltodd â pholisi cyhoeddus ar drafnidiaeth, ynni a’r amgylchedd.
  • Ayo-Salam-450x300- L&W Trustee

    Ayo Salam

    Ymddiriedolydd

    Ayo Salam

    Ymddiriedolydd

    Mae gan Ayo dros 20 mlynedd o brofiad mewn gwasanaethau ariannol. Bu ganddo nifer o swyddi uwch mewn llywodraethiant, rheoli risg a rheoleiddio ar gyfer gwahanol gyrff yn y sector cyllid a gwasanaethau ariannol. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg ymddiriedolaeth aml-academi fawr ac mae’n angerddol am addysg a chyrhaeddiad yn neilltuol fel mae’n effeithio ar gymunedau nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol yn y DU.

Cymrodyr

  • Alison-wolf

    Yr Athro Barwnes Alison Wolf Cymrawd

    Cymrawd

    Yr Athro Barwnes Alison Wolf Cymrawd

    Cymrawd

    Alison yw Athro Syr Roy Griffiths Rheolaeth Gyhoeddus yn Kings College, ac yn un o’r arglwyddi trawsfeinciol yn Nhŷ’r Arglwyddi. Mae’n arbenigo yn y berthynas rhwng addysg a’r farchand lafur. Ym mis Mawrth 2011 cwblhaodd Adolygiad Wolf o Gymwysterau Galwedigaethol, ac yn 2015/16 roedd yn aelod o’r panel annibynnol ar addysg dechnegol, wedi ei gadeirio gan yr Arglwydd Sainsbury, a ffurfiodd sylfaen Cynllun Sgiliau’r Llywodraeth.
  • carol b

    Y Fonesig Carol Black

    Cymrawd

    Y Fonesig Carol Black

    Cymrawd

    Mae’r Athro y Fonesig Carol Black ar hyn o bryd yn Gadeirydd y Llyfrgell Brydeinig, y Ganolfan Heneiddio’n Well, a Think Ahead, rhaglen hyfforddiant cyflym y Llywodraeth ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Iechyd Meddwl. Mae’n cadeirio Bwrdd Cynghori ar Wella Iechyd a Llesiant Cyflogeion y GIG, ac mae’n Gynghorydd i NHSI a PHE ar Iechyd a Gwaith. Mae hefyd yn aelod o Gynghor Cynghorwyr Ewrop, RAND, a Bwrdd UKActive. Ar 27 Chwefror 2020 cyhoeddwyd Adolygiad Annibynnol y Fonesig Carol o gyffuriau anghyfreithlon ar gyfer y Swyddfa Gartref. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei thymor saith mlynedd fel Prifathro Coleg Newnham, Caergrawnt, lle’r oedd yn Ddirprwy Is-ganghellor. Mae’n dal i eistedd ar Fwrdd Cynghori’r Brifysgol ar gyfer y Ganolfan Gwyddoniaeth a Pholisi Cyhoeddus, a’r Bwrdd Strategol ar Iechyd a Lles Meddwl Myfyrwyr. Mae’n Noddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth Menywod yn Ysgol Fusnes Judge.
  • charlotte p

    Charlotte Pickles

    Cymrawd

    Charlotte Pickles

    Cymrawd

    Charlotte yw cyfarwyddwr melin drafod Reform. Yn flaenorol, hi oedd Golygydd a cholofnydd Capitalism, ac yna Golygydd Rheoli’r cwmni cyfryngau newydd UnHerd.com. Mae Charlotte wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector yn edrych ar ffyrdd o ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus er mwyn cyflawni canlyniadau gwell a gwerth gwell am arian, yn cynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau a’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol.
  • david h

    David Hughes

    Cymrawd

    David Hughes

    Cymrawd

    David yw Prif Weithredwr Cymdeithas y Colegau. Yn flaenorol roedd yn Brif Weithredwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Cyn hynny, o 2001-11, gweithiodd David mewn nifer o swyddi uwch yn yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau. Yn flaenorol, cafodd nifer o swyddi yn y sector gwirfoddol yn y DU ac Awstralia, ac ystod o swyddi Bwrdd a Phwyllgor.
  • ian

    Ian Ashman

    Cymrawd

    Ian Ashman

    Cymrawd

    Ian oedd Llywydd 2016/17 Cymdeithas y Colegau. Roedd yn Brifathro Coleg Hackney rhwng 2007 a 2016 a chyn hynny yn Brifathro ac yn Uwch Reolwr mewn dau Goleg yn Llundain. Gweithiodd yn flaenorol mewn llywodraeth leol a’r sector gwirfoddol ac mae bellach yn gweithio fel hyfforddwr gweithredol mewn ymgynghoriaeth addysgol.
  • john griffiths

    John Griffiths

    Cymrawd

    John Griffiths

    Cymrawd

    John yw aelod y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer Dwyrain Casnewydd. Gweithiodd fel darlithydd mewn Addysg Bellach ac Uwch, cyn dod yn gyfreithiwr ac yna cael ei ethol i Gynulliad Cymru. Yn flaenorol, mae wedi gwasanaethu mewn nifer o swyddi Gweinidogaethol ac mae ar hyn o bryd yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Cymrodyr emeritws

  • alan

    Syr Alan Tuckett OBE

    Cymrawd Emeritws

    Syr Alan Tuckett OBE

    Cymrawd Emeritws

    Mae Syr Alan Tuckett OBE yn Athro Addysg ym Mhrifysgol Wolverhampton, yn Gyn-lywydd Cyngor Rhyngwladol Addysg Oedolion ac yn Gymrawd Anrhydeddus Sefydliad Dysgu Gydol Oes UNESCO. Arweiniodd gwaith rhagflaenydd L&W, NIACE, o 1988-2011, ac ers hynny, mae wedi bod yn aelod oes anrhydeddus ac yn gymrawd ymchwil emeritws. Yn NIACE, dechreuodd Alan Wythnos Addysg Oedolion ym 1992, ac fe’i gwelodd yn cael ei fabwysiadu gan UNESCO ac yn lledaenu i fwy na hanner cant o wledydd. Gweithiodd Alan yn y Friends Centre Brighton 1973-81, gan helpu i ddechrau’r ymgyrch llythrennedd oedolion cenedlaethol; roedd yn yn Brifathro AEI Clapham-Battersea yn ILEA 1981-88, ac yn gynghorydd polisi i Gadeirydd ILEA FHE 1987-8. Mae gan Alan ddoethuriaethau anrhydeddus o wyth prifysgol, mae’n Gymrawd City and Guilds, Coleg yr Athrawon ac Urdd yr Aseswyr. Cafodd ei gynnwys yn Oriel yr Anfarwolion o Addysgwyr Oedolion yn 2006, ac fe’i gwnaed yn Athro Nodedig Sefydliad Rhyngwladol Addysg Oedolion yn Delhi. Mae wedi gweithio’n ddiweddar gydag UNESCO, Fforwm Economaidd y Byd, CREFAL ym Mecsico, OECD a llywodraethau niferus. Ef yw Is-gadeirydd Comisiwn Addysg Oedolion 2019.
  • dan finn

    Dan Finn

    Cymrawd Emeritws

    Dan Finn

    Cymrawd Emeritws

    Mae Dan Finn yn athro emeritws ym Mhrifysgol Portsmouth ac yn arbenigwr rhyngwladol ar gyflwyno gwasanaethau cyflogaeth gyhoeddus, polisïau ysgogi a gwaith partneriaeth rhwng darparwyr cyhoeddus a phreifat. Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae wedi cyhoeddi’n sylweddol ac mae wedi goruchwylio a rheoli ystod eang o brosiectau ymchwil cydweithredol yn canolbwyntio ar bolisi ac adolygiadau tystiolaeth. Mae Dan wedi bod yn gynghorydd arbenigol neu’n ymgynghorydd i gyrff rhyngwladol, yn cynnwys Banc y Byd, y Comisiwn Ewropeaidd a’r ILO, ac i gyrff y DU yn cynnwys y Swyddfa Archwilio genedlaethol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin.
  • dave simmons

    Dave Simmonds

    Cymrawd Emeritws

    Dave Simmonds

    Cymrawd Emeritws

    Dave Simmonds OBE oedd prif weithredwr y Ganolfan Cynhwysiant Economaidd a Chymdeithasol nes iddo uno i ffurfio’r Sefydliad Dysgu a Gwaith. Dave oedd cyd-sylfeinydd Inclusion ym 1996 ac fe’i datblygodd i fod yn llais parchus yn ymchwil a pholisi ‘O fudd-dâl i Waith’ y DU. Mae Dave hefyd wedi gweithio fel cynghorydd arbennig i Bwyllgor Dethol Gwaith a Phensiynau Tŷ’r Cyffredin, a’r OECD. Mae Dave wedi cynghori llywodraethau’r Alban a Chymru, yn ogystal â Gweithgor Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon ar eu gwaith ar ddiweithdra. Rhoddwyd OBE i Dave yn rhestr anrhydeddau haf 2005 ac mae’n Gymrawd Anrhydeddus y Sefydliad Gweithwyr Cyflogadwyedd Proffesiynol. Cyn Inclusion, ef oedd cyfarwyddwr dros dro Lleogr ar Fwrdd Elusennau’r Loteri Cenedlaethol, y Loteri Fawr erbyn hyn, a gwnaeth sawl swydd yn y Cyngor Cenedlaethol Mudiadau Gwirfoddol, lle’r oedd yn gyfrifol am bolisi economaidd a chyfranogiad y sector gwirfoddol yn rhaglenni’r farchnad lafur.
id before:5816
id after:5816