
Llwyfan Wythnos Addysg Oedolion
Ewch i lwyfan yr Wythnos Addysg Oedolion i gael mwy o wybodaeth – dod o hyd i ddigwyddiadau ar-lein, cyrsiau ac adnoddau, straeon i ysbrydoli, podlediadau, blogiau, gwybodaeth i ddarparwyr a mwy.
Cynhelir wythnos yr ymgyrch rhwng 15 – 21 Medi 2025 gyda gweithgaredd drwy gydol y mis.
Nod yr ymgyrch yw cysylltu pobl gydag ystod eang o gyfleoedd dysgu, dangos manteision addysg oedolion a dathlu llwyddiannau pobl, prosiectau a sefydliadau yng Nghymru sy’n hyrwyddo ac yn cymryd rhan mewn dysgu a sgiliau.
Bydd yr ymgyrch yn ysbrydoli ac yn ennyn diddordeb oedolion i gymryd cam yn ôl i ddysgu i wella eu hyder a’u llesiant, newid gyrfaoedd a sicrhau cynnydd yn y gwaith, darganfod hobïau newydd a chysylltu gyda phobl eraill neu geisio cyngor ac arweiniad ar y llwybrau presennol sydd ar gael iddynt. Caiff hyn ei gyflawni drwy gydweithio gyda’n partneriaid ymgyrch ar draws y sector i hyrwyddo digwyddiadau, cyrsiau a sesiynau blasu ar-lein, byw ac wyneb yn wyneb, dyddiau agored, adnoddau a chyngor ac arweiniad ar yrfaoedd. Bydd ein gwefan Wythnos Addysg Oedolion a gwefan Cymru’n Gweithio yn cyfeirio at y cynnwys drwy gydol mis Medi gyda ffocws ar ddigwyddiadau arbennig a gynhelir yn ystod wythnos yr ymgyrch.
Ynghyd â’n partneriaid rydym yn ymroddedig i hyrwyddo cynhwysiant mewn dysgu gydol oes.
Ymuno â’n rhwydwaith o bartneriaid
Gyda’n gilydd gallwn gynyddu’r sylw i ddysgu gydol oes a’r momentwm yng Nghymru ac ysbrydoli mwy o oedolion i symud ymlaen yn hyderus i fywydau gwell a mwy bodlon. Rydym eisiau gweithio gyda chi i hyrwyddo eich darpariaeth a chysylltu gyda chynulleidfaoedd newydd a phresennol drwy gynnig cyfleoedd i ddysgu a chyfeirio’n well at wybodaeth ac arweiniad.
Gyda’n gilydd gallwn gynyddu’r sylw i ddysgu gydol oes a’r momentwm yng Nghymru ac ysbrydoli mwy o oedolion i symud ymlaen yn hyderus i fywydau gwell a mwy bodlon. Rydym eisiau gweithio gyda chi i hyrwyddo eich darpariaeth a chysylltu gyda chynulleidfaoedd newydd a phresennol drwy gynnig cyfleoedd i ddysgu a chyfeirio’n well at wybodaeth ac arweiniad.
Ewch i lwyfan yr Wythnos Addysg Oedolion i gael mwy o wybodaeth – dod o hyd i ddigwyddiadau ar-lein, cyrsiau ac adnoddau, straeon i ysbrydoli, podlediadau, blogiau, gwybodaeth i ddarparwyr a mwy.
Mae ein podlediadau newid dy stori gyda Nia Parry yn ymchwilio ein gwaith gyda llais dysgwyr. Cewch glywed straeon i ysbrydoli am bobl sy’n ennill cymwysterau ac yn dysgu sgiliau newydd yn nes ymlaen mewn bywyd.