Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith (L&W) yn cymryd y pandemig coronafeirws o ddifrif ac yn gwybod am y pryderon cynyddol gan gwsmeriaid am y pandemig a’r effaith bosibl ar weithrediadau busnes ar draws y Deyrnas Unedig.
Felly, mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i rai sy’n mynychu digwyddiadau L&W yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Rydym wedi gweithredu nifer o gynlluniau rhagweithiol o fewn contractio cyflenwyr digwyddiadau a thelerau ac amodau yn ogystal â rhoi ystyriaeth i argymhellion y Llywodraeth a byddwn yn parhau i fonitro canllawiau’r llywodraeth yng nghyswllt y mater hwn.
Ateb eich cwestiynau:
Bydd L&W yn asesu pob digwyddiad ar sail achos wrth achos. Byddwn yn ymdrechu i hysbysu cyfranogwyr (drwy e-bost) lle mae digwyddiad yn mynd rhagddo fel y bwriadwyd, ei ohirio neu ei ganslo cyn gynted ag y gallwn.
Cwestiynau Cyffredin
A ddylwn ohirio archebu lle mewn digwyddiadau?
Na, y peth gorau yw sicrhau fod gennych le yn un o’n digwyddiadau poblogaidd. Os yw’n un o’n digwyddiadau sydd yn rhad am ddim i’w mynychu, mae’r rhain bob amser yn boblogaidd iawn. Os ydych yn archebu lle mewn digwyddiad y codir tâl amdano, mae ein telerau a nodau yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol. Gallai gohirio cofrestru olygu na fedrwch gael lle neu achosi’r digwyddiad i gael ei ganslo.
Beth sy’n digwydd os caiff fy nigwyddiad ei ohirio neu ei ganslo?
Mae gennych hawl i ad-daliad llawn os ydym yn canslo’r digwyddiad. Byddwn yn ymdrechu i roi o leiaf ddwy wythnos o rybudd i chi.
Os caiff y digwyddiad ei ohirio, caiff y rhai sydd wedi archebu eu hysbysu a chyflwynir opsiynau iddynt. Er enghraifft, byddwn yn cynnig trosglwyddo eich archeb i’r dyddiad newydd, digwyddiad rhithiol neu os nad yw’r diwrnod newydd a gynigir yn gyfleus i chi, byddwn yn derbyn enw dirprwy neu’n rhoi nodyn credyd i chi fynychu digwyddiad arall a all fod o ddiddordeb.
A fyddaf yn cael ad-daliad os wyf yn canslo fy archeb?
Gadewch i ni wybod beth yw eich amgylchiadau. Rydym yn hapus i drafod yr opsiynau fel y gallwch wneud penderfyniad gwybodus a chyfrifol. Anfonwch e-bost at Digwyddiadau L&W a byddwn yn eich ffonio’n ôl.