Ceisiadau ar gyfer 2025 yn awr ar agor
Enwebwch diwtor neu fentor sy’n ysbrydoli yng Nghymru.
Mae’r gwobrau yn dathlu ymdrech ac ymroddiad rhagorol tiwtoriaid a mentoriaid i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu huchelgais, oherwydd fod mentoriaid a thiwtoriaid sy’n ysbrydoli tu ôl i ddysgwyr llwyddiannus.
Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn bartneriaeth yn cynnwys y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Cymru, NTFW, Colegau Cymru a Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru.
Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.
Edrychwn am diwtoriaid a mentoriaid sy’n rhagori yn eu maes sy’n mynd yn ‘uwch a thu hwnt’ i’r hyn a ddisgwylir ganddynt.
Addysg Uwch
Addysg Bellach
Lleoliad Gweithle
Addysg Gymunedol
Cymraeg i Oedolion
Ysgol neu leoliad arall
Gofynnir i chi anfon eich enwebiad ac unrhyw wybodaeth gefnogi am y tiwtor at:
Rhannu gwybodaeth am y gwobrau:
Croesawn eich cefnogaeth a’ch cymorth i rannu’r galwad am enwebiadau gyda’ch cydweithwyr a rhwydweithiau ehangach. Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cylchredeg y ddolen i’n taflen gyda’ch rhwydweithiau.