
Cymorth Cyflogaeth
Mae ein gwaith ar gymorth cyflogaeth i ddarparu gwell cymorth a sut y defnyddiwn y dystiolaeth a gasglwn i helpu llunio polisi, yn neilltuol ar gyfer pobl ifanc, pobl anabl ac eraill sy’n wynebu rhwystrau.
Sut fedrwn ni sicrhau fod pawb yn cael mynediad teg i waith da sy’n werth chweil, yn rhoi boddhad ac sydd â chyfleoedd ar gyfer cynnydd?
Sut y gall y system nawdd cymdeithasol drechu tlodi a rhoi cefnogaeth i’r rhai sydd ei angen?
Heddiw mae Cymru’n wynebu her ailadeiladu ein heconomi fel canlyniad i bandemig Covid-19. Ar ôl blynyddoedd o gynnydd cymharol a welodd lefelau anweithgaredd economaidd yn gostwng a diweithdra’n cynyddu, rydym heddiw’n wynebu ymateb i lefelau uchel iawn o ddiweithdra.
Mae effaith y pandemig hefyd wedi dangos diffyg cydraddoldeb oedd yn bodoli eisoes, yn neilltuol ar gyfer pobl ifanc, menywod a’r rhai gyda lleiaf o gymwysterau. Mae heriau hirdymor yn parhau, tebyg i fynediad pobl anabl i waith ac anghydraddoldeb rhanbarthol rhwng rhannau o Gymru.
Mae gan gymorth cyflogaeth a’r system nawdd cymdeithasol, yn cynnwys Credyd Cynhwysol, rôl bwysig wrth ddarparu cymorth ar gyfer pobl pan maent ei angen, gostwng tlodi a darparu help i ganfod gwaith ac adeiladu gyrfa.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ddeall y farchnad lafur, crynhoi’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer yr hyn sy’n gweithio wrth helpu pobl i waith, a ymchwilio’r ffordd orau i’r system nawdd cymdeithasol roi cefnogaeth i bobl a threchu tlodi.
Mae ein gwaith ar gymorth cyflogaeth i ddarparu gwell cymorth a sut y defnyddiwn y dystiolaeth a gasglwn i helpu llunio polisi, yn neilltuol ar gyfer pobl ifanc, pobl anabl ac eraill sy’n wynebu rhwystrau.
Mae ein dadansoddiad rheolaidd o ystadegau’r farchnad lafur yn dangos beth maent yn ei olygu i fyd gwaith yn gyffredinol ac ar gyfer cyfleoedd cyflogaeth ar gyfer gwahanol grwpiau ac ardaloedd.
Mae ein gwaith yn gwerthuso effaith y system nawdd cymdeithasol ar bobl ac yn datblygu syniadau am sut y gall roi cymorth gwell.
Mae ein gwaith ar gynnydd mewn gwaith yn dangos pwysigrwydd rhoi mynediad i bobl i’r cymorth maent ei angen i sicrhau cynnydd yn eu gyrfa, i wella eu tâl, ac i gyflawni eu potensial.