Cyn y pandemig, roedd y gyfran o bobl mewn gwaith yng Nghymru wedi gwella’n gyson ond mae tlodi mewn gwaith hefyd wedi cynyddu. Mae Covid-19 wedi creu her uniongyrchol o gynnydd mewn diweithdra, ond cafodd problemau hirdymor tâl ac ansicrwydd gwaith eu gwaethygu. Mae tystiolaeth yn awgrymu fod llawer gormod o weithwyr yn aros yn eu hunfan neu’n symud yn barhaus i mewn ac allan o waith tâl isel, yn hytrach na medru symud i swyddi ar gyflog gwell.
Mae system diweithdra y Deyrnas Unedig yn helpu’r rhan fwyaf o bobl yn ôl i’r gwaith yn gyflym pan gollant eu swyddi ac mae’r system dysgu a sgiliau yn cefnogi ystod o ddysgu pwysig. Fodd bynnag, mae ffocws y system cyflogaeth yn bennaf ar fynd i mewn i swyddi a chynaliadwyedd, a’r system sgiliau yn bennaf ar bobl ifanc a’r rhai gyda llai o gymwysterau.
Mae hyn yn gadael llawer mewn gwaith tâl isel heb ddigon o gefnogaeth i symud ymlaen neu newid gyrfaoedd, her cynyddol mewn oes o fywydau gwaith hirach a newidiadau parhaus ym myd gwaith.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar feithrin dealltwriaeth o sut y gallwn wella ansawdd gwaith a chefnogi pobl i sicrhau cynnydd mewn gwaith. Gwnawn hyn drwy ddadansoddiad, gwerthuso a rhannu arfer gorau.
Mae Dysgu a Gwaith yn galw am i bawb gael mynediad i Gyfrif Dysgu Personol, gan roi hawl i gyllid i’w wario ar unrhyw ddysgu cymeradwyo, cofnod o’u cyflawniad, a mynediad i gyngor ac arweiniad i’w helpu i wneud dewisiadau gwybodus.
Mae dysgu yn ganolog i gymdeithas deg a llewrchus. Mae’r cysylltiadau rhwng dysgu gydol oes a ffyniant cymdeithasol, llwyddiant busnes, cydlyniaeth gymdeithasol, a chyfleoedd unigol a chyfleoedd bwyd yn glir ac wedi hen ennill ei blwyf. Mae dysgu yn eich helpu i ennill mwy o gyflog, byw’n iachach a chwarae rôl lawnach mewn cymdeithas.
Mae wedi sefydlu yr un mor dda fod sylfaen sgiliau y Deyrnas Unedig yn llusgo tu ôl i lawer o wledydd tebyg ac mae cyfranogiad mewn dysgu yn anghyfartal. Mae angen ymyriad gweithgar ar lefel genedlaethol a lleol i drin hyn.