
Saesneg, Mathemateg a Digidol
Mae tua 1 mewn 6 o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn dal i gael trafferthion gyda darllen ac ysgrifennu, ac mae tua 1 mewn 4 oedolyn yn cael mathemateg yn anodd ac mae 33% o bobl yn brin o sgiliau “digidol hanfodol”.
Pa sgiliau a galluoedd mae pobl eu hangen ar gyfer bywyd a gwaith yn y 21ain ganrif?
Sut fedrwn ni annog mwy o oedolion i wella eu sgiliau hanfodol?
Mae llythrennedd, rhifedd, sgiliau digidol, galluedd ariannol, llythrennedd iechyd a dinasyddiaeth yn ganolog i ragolygon swyddi a gyrfa pobl a’u gallu i fod yn weithgar a chymryd rhan yn eu cymunedau.
Dangosodd y pandemig Coronafeirws fod pobl heb sgiliau hanfodol da yn debyg o wynebu anawsterau wrth ganfod a chadw swyddi. Heb sgiliau digidol maent mewn risg o gael eu hallgau o wasanaethau cyhoeddus hanfodol a chysylltiadau cymdeithasol sy’n awr yn digwydd ar-lein, yn cynnwys tasgau bob dydd megis siopa am fwyd, cysylltu gyda ffrindiau a pherthnasau, a chael mynediad i ofal iechyd heb fod yn argyfwng tebyg i apwyntiadau gyda meddygon teulu.
Mae llawer gormod o bobl heb fod â’r sgiliau maent eu hangen. Llythrennedd neu rifedd isel sydd gan fwy na naw miliwn o oedolion ar draws Prydain. Canfu arolwg sgiliau oedolion 2010, y data diweddaraf ar gyfer Cymru, fod gan sgiliau llythrennedd 12% o bobl oedran gwaith – tua 216,000 – dan lefel 1. Roedd gan tua 50% o oedolion, tua 918,000, sgiliau rhifedd dan lefel 1. Mae Cymunedau Digidol Cymru yn awgrymu nad yw 10% o oedolion Cymru ar-lein, gan golli cyfleoedd i arbed arian, canfod gwaith, dysgu sgiliau a chael mynediad i wasanaethau pwysig.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar sicrhau mwy o wybodaeth ar anghenion cyfredol oedolion yn meysydd llythrennedd, rhifedd a sgiliau digidol, gan ddynodi manteision adeiladu sgiliau hanfodol, deall sut i gysylltu oedolion mewn dysgu ac ymchwilio’r dulliau mwyaf effeithlon o ddarparu sgiliau hanfodol.
Mae tua 1 mewn 6 o oedolion yn y Deyrnas Unedig yn dal i gael trafferthion gyda darllen ac ysgrifennu, ac mae tua 1 mewn 4 oedolyn yn cael mathemateg yn anodd ac mae 33% o bobl yn brin o sgiliau “digidol hanfodol”.
Mae tua 850,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr heb fod yn hyddysg mewn Saesneg yn ôl cyfrifiad 2011.
Mae ein Cwricwlwm Dinasyddion yn ddull gweithredu blaengar ac arloesol i sicrhau fod gan bawb y sgiliau maent eu hangen mewn Saesneg, mathemateg, digidol, dinesig, iechyd a gallu ariannol maent eu hangen.