Gwerthuso Rhaglen Hyfforddiaethau Llywodraeth Cymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mewn partneriaeth gyda Wavehill Research, cynhaliodd y Sefydliad Dysgu a Gwaith werthusiad o raglen Hyfforddiaethau Llywodraeth Cymru am y cyfnod 2015-2019. Nod y rhaglen, ar gyfer cyfnod y gwerthusiad, oedd gostwng y gyfran o bobl ifanc yng Nghymru a gaiff eu dosbarthu heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a’u hwyluso i symud ymlaen i gyflogaeth neu ddysgu pellach.

Cymerodd dros 16,000 o bobl ifanc 16-19 oed ran yn y rhaglen rhwng 2015-19. Ar ôl cwblhau eu hyfforddiaeth, aeth 31% i gyflogaeth gan gynyddu i 52% erbyn 12 mis. Soniodd dysgwyr am amrywiaeth o fuddion yn cynnwys gweithio tîm, ysgrifennu CV, cyfathrebu, llythrennedd, rhifedd a thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Am gost net o £53.1 miliwn, dangosodd y gwerthusiad fod y rhaglen wedi ysgogi amcangyfrif o fudd economaidd a chyflogaeth o hyd at £206.5 miliwn dros 5 mlynedd.

Mae’r adroddiad yn ymchwilio’r effaith a gafodd y rhaglen Hyfforddeiaeth ar ddeilliannau caled a meddal; y cyfanswm gwerth a ychwanegodd y rhaglen drwy ddadansoddiad cost-budd; gwersi a ddysgwyd ar gyfer cyflwyno rhaglenni tebyg yn y dyfodol a sut y gellir atgynhyrchu arfer da a manteisio o hynny.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys cyfres o gasgliadau ac argymhellion ar gyfer dyfodol y rhaglen.

Edrychwch ar uchafbwyntiau’r hyn y gwnaethom ei ganfod:

Adroddiad prosiect

id before:6430
id after:6430