Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu 2021

Dengys arolwg eleni fod 44% o oedolion wedi cymryd rhan yn y tair blynedd ddiwethaf. Mae hynny’n gynnydd ar y niferoedd isel iawn yn 2019 ac yn nodi’r cynnydd cyntaf mewn cyfranogiad ers 2015.

Fodd bynnag, mae’r data hefyd yn dangos anghydraddoldeb dybryd ym mhwy sy’n cymryd rhan mewn dysgu.

  • Mae oedolion mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is (DE) ddwywaith mor debygol i beidio wedi cymryd rhan mewn dysgu ers gadael addysg lawn-amser na’r rhai mewn grwpiau economaidd uwch (AB).
  • Mae ymatebwyr a arhosodd mewn addysg tan o leiaf 21 oed ddwywaith mor debygol o fod yn dysgu â’r rhai a adawodd yn 16 oed neu iau (56% o gymharu â 28%).
  • Mae mwyafrif (55%) gweithwyr llawn-amser yn cymryd rhan mewn dysgu, o gymharu gyda 45% o oedolion diwaith yn ceisio gwaith.

Mwy o wybodaeth ar Safle'r DU

id before:9250
id after:9250