Taith allan o “dir neb” - Scott Jenkinson

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Homepage Collage 4

Pan adawais rehab ar ôl oes o fod yn gaeth i heroin, digartrefedd a charchar, doedd gen i ddim syniad beth fyddai’r dyfodol. Doeddwn i erioed wedi clywed am Erasmus, NIACE na Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru. Doedd gen i ddim syniad y byddwn yn cymhwyso fel athro, y byddwn yn ennill Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn 2015 ond y byddwn yn treulio amser yn teithio o amgylch Ewrop fel Llysgennad Addysg Oedolion!

Heb obaith a dechreuad newydd

Roedd 18 mlynedd o fod yn gaeth i gyffuriau ac yn ddigartref wedi tynnu unrhyw obaith oddi arnaf, roeddwn yn wir yn meddwl mai dyna beth oedd fy mlaen – y byddai fy nyddiau’n dod i ben ar y strydoedd un ai drwy or-ddos neu drwy salwch. Felly roedd eistedd ar awyren ar y ffordd i Iwerddon fel rhan o ymweliad Symudedd Erasmus+, yn meddwl sut oedd fy mywyd yn troi o gwmpas, gallech ddeall pe byddwn wedi fy mhinsio fy hunan, i wneud yn siŵr fod y cyfan yn iawn.

Symud allan o “dir neb”
Yn aml pan rannaf fy stori, rwy’n siarad am gyfnod yn dilyn rehab pan oeddwn yn yr hyn a alwaf yn ‘dir neb’, y gofod a’r amser rhwng cael fy nerbyn gan gymdeithas ‘normal’ a gadael hen gymdeithas cyffuriau a throseddu ar ôl. Roedd y teimlad yn wahanol i un a gefais o’r blaen fy mod yn y gymdeithas ‘normal’ newydd.

Wrth i mi eistedd ar yr awyren honno ar y ffordd i Iwerddon ar gyfer Gwobrau Aontas, sy’n cyfateb i’r wobr a gefais i yng Nghymru, sylweddolais ei fod yn un o’r adegau hynny pan oeddwn yn meddwl wrthyf fy hun ‘Rydw i yma go iawn, rydw i go iawn yn aelod arferol o gymdeithas”, ymddiheurwch yr ystrydeb ond roeddwn yn teimlo mod i wedi cerdded.

Ddaeth taith Symudedd Erasmus+ ddim i ben yno. Cyn hir roeddwn yn hedfan ar y ffordd i Slofenia ac wedyn i’r Iseldiroedd.

O ddifrif, rwy’n teimlo fel pinsio fy hunan wrth i mi deipio’r geiriau hynny. Fi? Cyn adict a chyn droseddwr yn cael fy ngwahodd i fod yn llysgennad? Ar gyfer Addysg Oedolion? Ar gyfer Gwobrau Ysbrydoli, ar gyfer Cymru? Ar gyfer y Sefydliad Dysgu a Gwaith? WOW! Mae’n anhygoel – a DYNA i fi yw’r dystiolaeth o rym Addysg Oedolion ac i fod ar fy ffordd i weld sut maen yn ei wneud mewn gwledydd arall oedd yr eisen ar deisen fawr iawn!

Ymweliadau Astudio Erasmus+

Roedd ymweliadau Erasmus i bob gwlad yn WYCH! Fe wnaethom deithio gyda chydweithwyr o bob rhan o’r sector Addysg Oedolion, myfyrwyr, enillwyr, tiwtoriaid, – pob un ohonynt yn bobl sy’n ysbrydoli. Nid oedd dim ni a nhw – roeddem gyda’n gilydd, yn mwynhau’r daith ac yn dysgu sut maent yn dathlu addysg oedolion ac yn cynnwys dysgwyr yn eu sefydliadau. Cawsom ein croesawu gyda breichiau agored ban bobl sy’n cymryd rhan yn yr hyn rydym mor angerddol amdano; pobl sydd bellach wedi dod yn ffrindiau da iawn.

Syniadau newydd, ffrindiau newydd, byw bywyd

Ar ôl pob ymweliad, roeddwn yn dod adre gyda syniadau newydd, strategaethau newydd i roi cynnig iddynt yn y gwaith. Mae gen i gysylltiadau newydd yn Ewrop nawr ac yn gobeithio gweithio gyda nhw eleni ar brosiect ar y cyd.

Rwyf wedi profi diwylliannau newydd a ffyrdd newydd o fyw. Rwyf wedi gweld drosof fy hun sut roedd ymweliad Erasmus yn newid bywyd ar gyfer un dyn arbennig a gwelais ei hyder yn cynyddu’n enfawr wrth i’r ymweliad fynd yn ei flaen.

O ddifri, ni fedraf ddiolch digon i’r bobl a wnaeth hyn yn bosibl. Diolch i chi am brofiad oedd i fi yn bersonol yn brofiad sydd wedi fy helpu i sylweddol o’r diwedd fy mod ymhell o dir neb ac yn byw bywyd yn llawn! DIOLCH!

id before:7356
id after:7356