Chwyddo Lleisiau Dysgwyr: Cipolwg ar Gydweithio Rhyngwladol

gan Calvin Lees, Swyddog Prosiect, Sefydliad Dysgu a Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae dylanwad cyd-ddysgwyr a phrofiadau bywyd yn werthfawr ar gyfer cynyddu cyfranogiad mewn dysgu gydol oes. Yr egwyddor hon yw sylfaen rhaglen Llysgennad Dysgwyr, cynllun a ddatblygwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith ar y cyd ag aelodau o Bartneriaeth Addysg Oedolion Cymru. Ffocws y rhaglen yw grymuso dysgwyr a sicrhau y caiff eu safbwyntiau eu clywed drwy gydweithio rhyngwladol ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol.

Roedd rhaglen Taith, a gynlluniwyd yn benodol i hyrwyddo cyfnewid dysgu rhyngwladol, yn fframwaith delfrydol ar gyfer y prosiect. Y nod oedd grymuso dysgwyr o Gymru i gynrychioli eu cyd-ddysgwyr drwy gyswllt uniongyrchol gydag addysg a hyfforddiant yn Iwerddon.

Hwyluswyd ymweliadau i Ddulyn a Chorc gan bartneriaeth gyda AONTAS, sefydliad Addysg Oedolion Cenedlaethol Iwerddon, a Bwrdd Addysg a Hyfforddiant Corc (CETC). Rhoddodd yr ymweliadau hyn brofiadau i bartneriaid a llysgenhadon dysgwyr, gan godi cwr y llen i ddarparwyr dysgu yng Nghymru. Defnyddiwyd yr hyn a ddysgwyd i ddatblygu canllawiau ymarferol wedi’i llywio gan egwyddorion “Yr Hyn sy’n Gweithio”.

Dechreuodd y daith yn Nulyn yn 2024 gyda phartneriaid yn astudio system addysg oedolion Iwerddon. Rhoddodd cysylltiad gyda sefydliadau fel AONTAS, NALA (Asiantaeth Genedlaethol Llythrennedd Oedolion) a SOLAS (Asiantaeth Addysg Bellach a Gwasanaeth Sgiliau) ddealltwriaeth ar bolisi cenedlaethol addysg oedolion, eiriolaeth a chyflenwi rhaglen. Rhoddodd cymryd rhan mewn gweithdai ac arsylwi arferion safbwynt cymharol ar dirlun addysg oedolion Iwerddon.

Yn 2025, symudodd y ffocws i Corc i arsylwi gweithredu dysgu a hyfforddiant rhanbarthol. Dangosodd ymweliadau safle i’r CETB a chysylltiadau gyda Llysgenhadon Dysgu a staff Corc i lysgenhadon Cymru sut y cynigir cefnogaeth i ddysgwyr mewn gwahanol sectorau. Gwelsant effaith rôl llysgennad, sut yr oedd gwahanol raglenni yn gweithio a systemau cefnogi. Roedd y cyswllt hwn yn gyfle i ymchwilio dulliau addysgeg, deall heriau a llwyddiannau darparydd rhanbarthol a dynodi arferion y gellid eu trosglwyddo i Gymru.

Cymerodd Llysgenhadon Dysgu o Gymru ran weithgar mewn trafodaethau, rhannu eu profiadau a chasglu gwybodaeth yn ystod yr ymweliadau hyn. Buont hefyd yn llysgenhadon diwylliannol i Gymru, gan feithrin dealltwriaeth ac adeiladu cysylltiadau.

Fe wnaeth y prosiect hwyluso cyfnewid syniadau, safbwyntiau ac arferion, yn cynnwys cwblhau canllawiau ar gyfer darparwyr ledled Cymru. Bydd yr adnodd hwn yn cynnig argymhellion ymarferol ar gyfer cynyddu ymgysylltiad a chynrychiolaeth dysgwyr o fewn addysg oedolion yng Nghymru.

Mae’r canllawiau yn rhoi sylw i ganfyddiadau dulliau effeithlon a welodd Llysgenhadon Dysgwyr yn Iwerddon, yn cynnwys dulliau arloesol ar gyfer casglu adborth ystyrlon gan ddysgwyr, modelau llwyddiannus a chynaliadwy ar gyfer cynrychiolaeth dysgwyr ar gyrff gwneud penderfyniadau allweddol a strategaethau effeithlon ar gyfer maethu ymdeimlad cryf a chefnogol o gymuned ddysgwyr.

Gall darparwyr ddefnyddio hyn i gefnogi datblygu eu rhaglen llysgennad dysgwyr eu hunain a grymuso unigolion ar eu teithiau dysgu.

Grymuso Llysgenhadon Dysgwyr – Sefydliad Dysgu a Gwaith

Gan weithio’n agos yn y dyfodol gyda Medr a Llywodraeth Cymru, mae’r adnodd yn nodi’r cam cyntaf wrth gynyddu llais dysgwyr mewn addysg oedolion ledled Cymru a meithrin cymdeithas ddysgu fwy cynhwysol, sydd wedi ymgysylltu’n well ac yn y pen draw fydd yn fwy llwyddiannus ar gyfer pawb yng Nghymru.

Mae rhaglen Llysgennad Dysgwyr Taith yn dangos potensial cydweithio rhyngwladol i hybu arloesedd mewn addysg. Drwy roi’r profiadau hyn i lysgenhadon dysgwyr a’u trosi yn ganllawiau ymarferol ar gyfer darparwyr yng Nghymru, bydd y rhaglen yn cyfrannu at ddyfodol mwy grymus fydd yn canolbwyntio ar ddysgwyr ar gyfer addysg oedolion.

Gall rhannu gwybodaeth ar draws ffiniau arwain at systemau dysgu mwy effeithlon sy’n gwasanaethu anghenion ac uchelgeisiau amrywiol pob dysgwr.

Grymuso Llysgenhadon Dysgwyr

Digwyddiad lledaenu prosiect Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith

id before:16986
id after:16986