Digwyddiad lledaenu prosiect Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith

14 Mai 2025 | 10:00am - 12:30pm | Y Pierhead, Bae Caerdydd

Noddir gan Cefin Campbell, AS

 

Beth all Cymru ei ddysgu gan Weriniaeth Iwerddon am gyfranogiad dysgwyr mewn addysg oedolion?

Ymunwch â ni wrth i ni rannu rhai o’r gwersi a ddysgwyd o’n prosiect Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith yng Ngweriniaeth Iwerddon.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i glywed am ddatblygu’r fframwaith Dysgwyr fel Llysgenhadon a sut y gellir mabwysiadu hyn i ddarparwyr ymgysylltu gyda dysgwyr fel eiriolwyr dysgu lleol.

Mae gan Weriniaeth Iwerddon hanes o ddefnyddio dysgwyr fel llysgenhadon i lunio darpariaeth. Gan weithio wrth ochr AONTAS yn Iwerddon sydd â rhaglen “dysgwyr fel arweinwyr”, rydym wedi datblygu a pheilota fframwaith dysgu ar gyfer darparwyr yng Nghymru i gefnogi dysgwyr i weithredu fel llysgenhadon ar gyfer dysgu gydol oes i gryfhau llais dysgwyr yng Nghymru. Nod y rhaglen Dysgwyr fel Llysgenhadon fydd cefnogi a datblygu sgiliau a gwybodaeth dysgwyr i ymestyn allan i gymunedau i ehangu cyfranogiad, hyrwyddo manteision ac adnabod a llunio cyfleoedd i ehangu darpariaeth.

Ymunwch â ni wrth i ni glywed gan AONTAS am eu gwaith ar lais dysgwyr yn Iwerddon a chlywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr yng Nghymru sydd wedi bod yn ymwneud ac sydd wedi peilota rhan o’r rhaglen ac ymuno â’r bartneriaeth ar symudedd i Ddinas Dysg UNESCO yn Corcaigh/Cork.

Mae Rhaglen Dysgwyr fel Llysgenhadon Taith yn bartneriaeth gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir Ceredigion, Partneriaeth Addysg Oedolion Castell-nedd Port Talbot, Addysg Oedolion Cymru, Dysgu Oedolion yn y Gymuned Sir Gaerfyrddin, Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Conwy a Sir Ddinbych, Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned Gwynedd a Môn, Coleg Caerdydd a’r Fro, Coleg Gwent a’r Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Gallwch gofrestru ar gyfer y digwyddiad drwy glicio ar y botwm archebu islaw.

I gadw eich lle gallwch gofrestru isod

Taith Event - option 8
id before:16734
id after:16734