Grymuso Llysgenhadon Dysgwyr

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae ymgysylltu a chymell mwy o oedolion i gael yr hyder i ymuno ag addysg oedolion a gwrando ar ddysgwyr am yr hyn sy’n gweithio yn hanfodol i gynyddu lefelau sgiliau ar draws Cymru. Mae Cynllun Strategol Medr yn dynodi bod llais dysgwyr ac ymgysylltu â dysgwyr yn flaenoriaethau allweddol.

Bu darparwyr ar draws y sector addysg drydyddol yn adolygu dulliau o ymgysylltu â dysgwyr ac allgymorth. Gyda chyllid gan Taith, gwnaed cysylltiadau gyda Aontas yn Iwerddon a nifer o Bartneriaethau Dysgu Oedolion yn y Gymuned ledled Cymru i ddysgu a rhannu ymarfer ar adeiladu fframwaith ar gyfer llais dysgwyr a llysgenhadon dysgu.

Mae’r adnodd yn codi cwr y llen ar gynnwys dysgwyr wrth gynllunio, cyflenwi a hyrwyddo addysg oedolion. Mae galluogi eu lleisiau i gael eu clywed wrth ddatblygu cwricwlwm, gwella ansawdd, deall  mwy am y rhwystrau i ymgysylltu a chreu polisi wedi adeiladu ar adborth ystyrlon. Mae’r adnodd hefyd yn cydnabod effeithlonrwydd eiriolaeth cymheiriaid, rôl rymus dysgwyr presennol wrth gymell eraill i ymgysylltu, gan ddefnyddio eu profiadau i roi cymorth dibynadwy i eraill ac i gyfeirio at gyfleoedd.

Grymuso Llysgenhadon Dysgwyr

Cafodd yr adnodd hwn ei greu gan bartneriaeth o ddysgwyr a darparwyr. Mae’n codi cwr y llen ar adeiladu llais dysgwyr, ymgysylltu ac eiriolaeth.
Taith Resource - Front cover for webpage_Welsh

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Taith:

  • Taith-Fundedby-Primary
id before:16913
id after:16913