Enillydd Gwobr Newid Bywyd a Chynnydd
Enwebwyd gan: The Wallich
Am dros 40 mlynedd bu The Wallich yn lletya a chefnogi pobl a brofodd ddigartrefedd. Yn ogystal â helpu ei ddefnyddwyr gwasanaeth i ganfod cartrefi, mae’n creu cyfleoedd dysgu a chyflogaeth i helpu torri cylch digartrefedd.
Mae’r tîm Cyfranogiad a Chynnydd yn cynnal pedair rhaglen i helpu defnyddwyr gwasanaeth i ennill sgiliau hanfodol a phrofiad gwaith – prosiect BOSS, rhaglen cyflogadwyedd a llesiant ar gyfer rhai gyda record droseddol yn Ne Cymru, Cynllun Mentora Cymheiriaid i gymell defnyddwyr gwasanaeth; WISE, rhaglen gyflogadwyedd wedi ei strwythuro a rhaglen Celfyddydau Creadigol. Mae defnyddwyr gwasanaeth blaenorol yn ymwneud yn helaeth â chynllunio a chyflwyno’r rhaglen a gaiff ei rhedeg gan y tîm Cyfranogiad a Chynnydd. Dywedodd David Bennett, sy’n rheoli prosiect BOSS, fod hyn yn allweddol i’w llwyddiant.
“Gall pobl sydd â phrofiad o gysgu ar y stryd ac o fod yn ddigartref fod yn amheus iawn o bobl eraill – yn arbennig bobl mewn swyddi o awdurdod. Caiff ein holl rhaglenni ei rhedeg o leiaf yn rhannol neu darparu gan bobl sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd. Rydym yn canfod fod hyn yn helpu i ennyn diddordeb defnyddwyr gwasanaeth ac adeiladu ymddiriedaeth, ond mae hefyd yn ysbrydoli.
“Hwn oedd un o’r sbardunau ar gyfer sefydlu’r Cynllun Mentora Cymheiriaid. Rydym ar hyn o bryd yn cyflogi chwech o fentoriaid cymheiriaid ar draws Cymru. Drwy gynnig cefnogaeth i ddefnyddwyr gwasanaeth gan rywun sydd wedi ‘cerdded yn eu hesgidiau’ ac sy’n deall y rhwystrau sy’n eu wynebu, gwelsom gynnydd mewn ymgysylltu cadarnhaol a chanlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, Yn yr un modd, caiff prosiect BOSS ei ddarparu gan bobl gyda phrofiad byw o’r system cyfiawnder troseddol sy’n cefnogi cleientiaid i ganfod cyflogaeth, cwblhau cymwysterau a chael mynediad i wasanaethau cwnsela. Mae hyn hefyd yn helpu i greu llwybr cyflogaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth blaenorol. Mae cyflogi pobl sydd â phrofiad o ddigartrefedd neu gysgu ar y stryd, neu sydd â phrofiad o’r system cyfiawnder troseddol, yn wirioneddol bwysig i ni.”
Aeth David ymlaen: “Cawsom ganlyniadau gwych o WISE. Yn y ddwy flynedd diwethaf, mae 15 o bobl wedi cael swyddi sefydlog ar ôl cwblhau’r rhaglen gyda 11 arall yn edrych am waith. Mae bron 80 o bobl wedi dod i gael eu cynnwys yn ddigidol neu wella eu sgiliau cyfrifiadur a 28 wedi ennill cymwysterau safon diwydiant.
“Mae llawer o fanteision i ddysgu ac mae’r ‘canlyniadau meddal’ yr un mor bwysig. Fel y 44 o bobl a ddywedodd fod yn dywedodd eu bod yn fwy sefydlog a fwy mewn rheolaeth, a’r 15 sydd wedi gwella iechyd a lles meddwl. Mae Danielle, 39, wedi cwblhau rhaglen WISE a dywedodd, “Rhoddodd The Wallich gyfle i mi pan na fyddai neb arall yn gwneud hynny. Fe wnethon nhw weld fy mhotensial er gwaethaf fy ngorffennol, a fy helpu i ddod y fenyw yr ydw i heddiw. Hoffwn i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb yr wyf wedi gweithio gyda nhw. Rydych i gyd yn bobl ryfeddol, daliwch ati i wneud yr hyn rydych yn ei wneud!”