“Mae’r berthynas rhwng disgyblion wedi gwella hefyd. Mae mwy o blant Sipsi, Roma a Theithwyr yn cael mynd ar gynllun Dug Caeredin, sy’n dangos llawer o ymddiriedaeth ar ran rhieni.”
Mae Ellie Murphey, 16 oed, yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn cynrychioli pobl ifanc Sipsi, Roma a Theithwyr yng Nghymru.
Dywedodd: “Nid dim ond disgyblion ac athrawon sydd yn ein dosbarth, rydym yn un teulu mawr. Oni bai am y Priordy, fyddwn i ddim lle’r wyf i heddiw; fyddwn i ddim yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru neu’n hyderus yn siarad yn gyhoeddus.”