Cyflenwi marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru

Gan Catherine Marren, Rheolwr Ymchwil, y Sefydliad Dysgu a Gwaith.

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae cymorth cyflogaeth yng Nghymru yn newid, gyda Llywodraeth Lafur y DU yn ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth ac eithrio rhai y Ganolfan Byd Gwaith.

Dengys dadansoddiad y Sefydliad Dysgu a Gwaith y darperir amcangyfrif o £47 miliwn drwy ddatganoli i gyflenwi cymorth cyflogaeth ychwanegol yng Nghymru. Mae hwn yn amser allweddol i Lywodraeth Cymru gynllunio a chyflenwi cymorth cyflogaeth sydd wedi ei deilwra i anghenion cymunedau ledled y wlad.

Daw’r newid hwn ar amser hollbwysig pan fo pobl yng Nghymru yn wynebu heriau sylweddol a rhyng-gysylltiedig yn y farchnad lafur:

  • Mae Cymru yn profi cyfraddau uwch o anweithgarwch economaidd (16%) o gymharu â Lloegr (14%). Anabledd ac iechyd gwael yw prif achos hyn yng Nghymru, gyda 7% o’r boblogaeth oedran gwaith yn economaidd anweithgar am y rheswm hwn.
  • Mae menywod yn sylweddol fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na dynion (cyfradd o 19% o gymharu ­â 13%), a gaiff ei yrru yn rhannol gan fenywod yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am ofalu am y cartref a’r teulu.
  • Mae anweithgarwch economaidd hefyd yn fwy tebygol o effeithio ar bobl o grwpiau ethnig lleiafrifol o gymharu â rhai o gefndiroedd Gwyn, ar gyfraddau o 18% a 16% yn yr un drefn.
  • Mae gwahaniaethau rhanbarthol yn effeithio ar ddeilliannau pobl, gyda chyfuniad o ffactorau economaidd, demograffig a strwythurol yn effeithio ar gyfraddau cyflogaeth. Er enghraifft, mae’r bylchau cyflogaeth mwyaf ar gyfer pob anabl a chyflyrau iechyd hirdymor yng Nghanolbarth Cymru, sydd efallai yn gysylltiedig â’i economi wledig a heriau seilwaith.

 

Mae’r symud tuag at ddatganoli yn rhoi cyfle i strategaeth cyflogaeth Llywodraeth nesaf Cymru i fynd i’r afael â heriau penodol ar lefel ranbarthol a hefyd y lefel leol. Fel sail ar gyfer y strategaeth newydd hon, bu Dysgu a Gwaith yn cynnal ymchwil gyda ffocws ar hybu cyflogaeth a chau’r bylchau sy’n wynebu menywod, pobl o grwpiau lleiafrif ethnig, pobl anabl a rhai gyda chyflyrau iechyd hirdymor."

Er mwyn deall y ffordd orau y gall y system cymorth cyflogaeth gyflawni anghenion y rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur, cynhaliwyd grwpiau ffocws gyda phobl â phrofiad bywyd o anweithgarwch economaidd. Fe wnaethant ddweud wrthym fod y rhwystrau allweddol i ganfod a chynnal gwaith yn cynnwys:

  • Diffyg opsiynau gofal plant fforddiadwy, a methu sicrhau trefniadau gweithio hyblyg
  • Diffyg cyfleoedd swyddi lleol, a waethygir gan seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus wael
  • Profiadau negyddol yn y gorffennol o gymorth cyflogaeth ffurfiol
  • Cyflyrau iechyd meddwl a chorfforol, gyda rhestri aros hir am gymorth
  • Gwahaniaethu yn ystod y broses recriwtio oherwydd rhagfarn hiliol dybiedig neu stigma am faterion iechyd meddwl

Fe wnaethom hefyd gynnal gweithdai gyda rhanddeiliaid sy’n cynrychioli grwpiau poblogaeth sy’n wynebu heriau ychwanegol. Soniwyd am newidiadau allweddol sydd eu hangen i wneud y farchnad lafur yn fwy cynhwysol:

  • Mwy o integreiddio rhwng gwasanaethau gwaith, iechyd a sgiliau i ddarparu cymorth mwy holistig a mwy hirdymor i’r rhai sydd ei angen
  • Cymryd dull gweithredu sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan gydnabod anghenion amrywiol a chymhleth unigolion
  • Hysbysebu ehangach sy’n sicrhau fod pobl yn deall pa gymorth sydd ar gael a sut i gael mynediad i hynny

Bydd cyfnod olaf y gwaith hwn yn gosod opsiynau ar sut y gall Cymru fanteisio i’r eithaf ar ddatganoli, gyda chamau gweithredu ymarferol ar gyfer llywodraeth, darparwyr cymorth cyflogaeth a chyflogwyr. Caiff canfyddiadau ymchwil ac argymhellion polisi eu cyhoeddi ym mis Tachwedd 2025.

Data o Gyfrifiad 2021.

Ar gyfer yr ymchwil yma, mae anweithgaredd economaidd yn cyfeirio at oedolion (16-64 oed) a gaiff eu rhestru fel bod yn economaidd anweithgar oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor, gofalu ar ôl y cartref neu deulu, neu am resymau ‘Eraill’. Nid yw’n cynnwys myfyrwyr neu bobl sydd wedi ymddeol.

 

id before:17323
id after:17323