Adeiladu Marchnad Lafur fwy cynhwysol yng Nghymru
Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, gyda chefnogaeth Serco, yn dechrau ar brosiect blaengar sy’n anelu i drawsnewid cymorth cyflogaeth yng Nghymru. Nod cynllun Dylunio Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau i Gymru yw cyfarch y bylchau cyflogaeth parhaus mewn amrywiol grwpiau demograffig, yn cynnwys unigolion anabl, menywod a lleiafrifoedd ethnig, gan helpu i feithrin economi decach a mwy ffyniannus yng Nghymru.
Mae’r cynllun yn adeiladu ar yr ymchwil ddechreuol a gynhaliwyd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith Pa ffordd nawr ar gyfer cymorth cyflogaeth yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2024. Nod y prosiect yw ymchwilio’n ddyfnach i ddeinameg y farchnad lafur yng Nghymru, asesu darpariaeth bresennol cymorth cyflogaeth a defnyddio dealltwriaeth o arfer gorau rhyngwladol. Drwy fod â ffocws ar grwpiau sydd dan anfantais a’u bylchau cyflogaeth, mae’r cynllun yn anelu dynodi a chyfarch y rhwystrau i gyflogaeth gyda’r brif nod o lunio strategaeth y dyfodol ar gyflogaeth yng Nghymru, yn canoli o amgylch gwaith, iechyd a sgiliau.
Mae’r prosiect hwn yn cyrraedd at foment dyngedfennol gan alinio gydag ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddatganoli cymorth cyflogaeth tu allan i’r Ganolfan Byd Gwaith i Lywodraeth Cymru. Mae’r newid hwn yn rhan o strategaeth ehangach a amlinellwyd ym Mhapur Gwyn Get Britain Working White ,a gyhoeddwyd yn ddiweddar ac sy’n anelu i symleiddio a gwella mecanweithiau cymorth cyflogaeth ar draws y Deyrnas Unedig.
Bydd datganoli cymorth cyflogaeth yn rhoi mwy o reolaeth ac adnoddau i Lywodraeth Cymru, gan alluogi dull gweithredu mwy pwrpasol i gyfarch heriau cyflogaeth leol.. Disgwylir y bydd y newid deinamig hwn yn meithrin amgylchedd o gydweithredu, lle mae dealltwriaeth leol a pholisi datganoledig yn uno i greu polisïau cyflogaeth dylanwadol.
Bydd y prosiect yn cynnal cyfres o archwiliadau dwfn i’r heriau cyflogaeth sy’n wynebu grwpiau penodol gan nodi’r materion canlynol:
Cynhelir y dadansoddiadau hyn ar y cyd gyda sefydliadau sy’n cynrychioli pob demograffig, gan sicrhau y caiff yr ymchwil ei lywio gan rai gyda phrofiadau bywyd. Daw’r canfyddiadau i ben mewn adroddiad cynhwysfawr fydd yn darparu argymhellion y gellir eu gweithredu ar gyfer datblygu polisi.
Bydd y prosiect yn defnyddio methodoleg amlagweddog, yn cynnwys ymgysylltu â rhanddeiliaid, adolygiadau desg, dadansoddiad data a grwpiau profiad bywyd. Drwy ddod â rhwydwaith amrywiol o randdeiliaid ynghyd, mae’r prosiect yn anelu i greu sylfaen tystiolaeth cadarn i lywio argymhellion polisi.
Anelwn lansio’r adroddiad terfynol mewn digwyddiad proffil-uchel yn Senedd Cymru, yn cynnwys gwneuthurwyr polisi a rhanddeiliaid a gyfrannodd at y cynllun. Bydd y digwyddiad yn llwyfan i eirioli dros y newidiadau a gynigir ac ysgogi cefnogaeth ar gyfer marchnad lafur fwy cynhwysol yng Nghymru.
Drwy gyfarch yr heriau unigryw sy’n wynebu grwpiau sydd dan anfantais a symbylu dealltwriaeth leol a hefyd ryngwladol, gallai’r cynllun hwn drawsnewid cymorth cyflogaeth yng Nghymru.