Cychwyn Arni – Enillydd Gwobr Dechreuwyr Cymraeg
Enwebwyd gan: Dysgu Cymraeg Caerdydd
Collodd Liz Day ei swydd ym mis Awst 2020 ar ôl i’w chyflogwr gyhoeddi y byddai’n torri 12% o’i weithlu oherwydd y pandemig coronafeirws.
Er ei fod yn gyfnod anodd, roedd Liz yn benderfynol i droi sefyllfa negyddol yn rywbeth cadarnhaol. Felly ar ôl colli ei swydd, dechreuodd ar gwrs dwys yn y Gymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd ddyddiau yn unig ar ôl gadael ei chyn gyflogwr.
Ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, mae Liz yn siarad Cymraeg yn hyderus ac enillodd Wobr Ysbrydoli! ‘Dechrau Arni – Dechreuwr Cymraeg’ i gydnabod ei hymroddiad i feistroli’r Gymraeg mewn cyfnod byr.
Dywedodd Liz: “Roeddwn wedi bod eisiau dysgu Cymraeg ers amser maith ond yn oedi rhag mynd amdani. Roedd fel petai rhywbeth yn y ffordd drwy’r amser. Roeddwn wrth fy modd gyda fy swydd ond roeddwn yn barod am her newydd. Pan ddaeth fy swydd i ben meddyliais, ‘does dim amser gwell na’r presennol’.
Dechreuodd Liz ar ei thaith yn dysgu Cymraeg pan aeth ar y cwrs dwys gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd. “Roeddwn yn amau fy hunan i ddechrau am ymuno â’r cwrs dwys o bell a heb unrhyw wybodaeth flaenorol o’r Gymraeg. Er hynny, roeddwn wrth fy modd.”
“Am y tro cyntaf ers amser maith roedd gen i ddigon o amser rhydd ac roeddwn eisiau gwneud defnydd da ohono. Roeddwn yn gwybod pa mor hir y byddai’n ei gymryd i ddod yn rhugl ac roeddwn eisiau cyrraedd yno cyn gynted ag oedd modd.”
Ar ôl cychwyn ar ei chwrs yn Gymraeg, dechreuodd Liz ei phodlediad a’i blog ei hun ‘Lz Learns Welsh’, i ddogfennu ei thaith ac ysbrydoli eraill i ddysgu Cymraeg.
Wrth ystyried ei thaith ddysgu hyd yma, dywedodd Liz: “Rwy’n awr yn teimlo fod gennyf lawer mwy o gysylltiad gyda diwylliant y wlad wych yma. Er fod colli fy swydd wedi bod yn amser pryderus a thrist, rwyf mor ddiolchgar am y cyfle i fod yn dysgu eto ac yn edrych ymlaen at ddal i ddefnyddio fy sgiliau yn y Gymraeg.”
“Mae’n rhwydd meddwl fod dysgu yn dod i ben pan fyddwch yn gadael yr ysgol, coleg neu brifysgol – ond ni ddylai fod felly. Beth bynnag y mae gennych ddiddordeb ynddo, peidiwch ofni rhoi cynnig arni.”