Mae Laura Wheeler yn diwtor ar Learning 4 Life, rhaglen addysg cyn-alwedigaethol sy’n cefnogi pobl ifanc na all gael mynediad i hyfforddiant prif ffrwd neu gyflogaeth oherwydd camddefnydd sylweddau, ymddygiad troseddu, digartrefedd neu broblemau iechyd meddwl.
meddai Lisa Gardiner, a enwebodd Laura.
Mae’r rhai sy’n dysgu gyda Laura wedi sicrhau nifer fawr o gymwysterau, gan symud ymlaen i addysg brif ffrwd a chyflogaeth. Mae’n adeiladu ymddiriedaeth, yn llwyddo
i ganfod yr hyn maent yn angerddol amdano ac yn eu cefnogi i gredu ynddynt eu hunain. Allwedd i’r llwyddiant hwn yw’r ffordd mae Laura wedi creu rhwydwaith gref o weithwyr proffesiynol o’i hamgylch, gan weithio gyda llawer o wasanaethau i gefnogi pob person ifanc mewn ffordd holistig.
Roedd ‘Anna’ yn dawedog ac roedd ei phresenoldeb ysbeidiol yn arwydd fod problemau yn ei bywyd. Datgelodd maes o law ei bod mewn perthynas lle’r oedd yn cael ei cham-drin a chafodd ei chefnogi i symud i loches menywod tra’n parhau i gyflawni ei chymwysterau.
Roedd gan ‘Joe’ broblemau gyda iechyd meddwl a phryder, roedd yn anafu ei hunan ac yn cael cyfnodau o seicosis – cafodd ei gysylltu gyda’r gefnogaeth broffesiynol roedd ei hangen ac mae wedi symud ymlaen o gael ei gadw mewn ysbyty er ei ddiogelwch ei hun i ddechrau yn y coleg a chredu fod ganddo ddyfodol.
Bu ‘Adam’ mewn gofal yn ogystal â symud o amgylch nifer o brosiectau byw â chymorth. Enillodd gymwysterau Sgiliau Hanfodol, er ei fod yn cael problemau gyda pherthnasoedd personol a chamddefnyddio sylweddau. Mae’n awr wedi dod o hyd i swydd ac yn gweithio i gael cymwysterau i’w alluogi i weithio mewn peirianneg sifil. Yn bwysig, mae’n cynnal ei denantiaeth ei hun ac wedi dod yn eiriolydd i bobl ifanc eraill a fu mewn gofal.
Dywedodd Laura, “Rwy’n credu’n gryf y gall pobl ifanc, yn arbennig rai y dywedwyd wrthynt yn y dyfodol na fyddent byth yn gwneud dim ohoni, ddefnyddio dysgu i gyflawni eu potensial a bod yr hyn maent eisiau bod.