Chloe Young

Enillydd Gwobr Mewn i Waith
Enwebwyd gan: WeMindTheGap

Ddwy flynedd yn ôl, roedd Chloe Young o’r Wyddgrug yn rhy ofnus i adael ei chartref ei hun oherwydd gorbryder ac iselder difrifol ac anhwylder bwyta yr oedd wedi bod yn brwydro yn ei erbyn ers pan oedd yn 17 oed. Meddai: “Mae fy mywyd wedi bod fyny ac i lawrr. Ar fy ngwaethaf, byddwn yn ei chael hi’n anodd dod allan o’r gwely i fynd â fy merch i’r ysgol. Doedd gen i ddim hyder – doedd gen i ddim byd ar ôl i’w roi. Doeddwn i ddim yn gweld pwrpas siarad am fy iechyd meddwl achos roeddwn i’n teimlo nad oedd unrhyw beth a fyddai’n gallu cael gwared ar fy mhrofiadau.”

Cafodd Chloe ei chyfeirio at raglen WeMindTheGap, cynllun sy’n darparu mentora bywyd, profiad gwaith a mynediad at gyflogaeth. Meddai:

"Pan ddechreuais fy hyfforddiant, roeddwn i’n teimlo fel bod rhywun wedi aildanio’r golau yn fy mywyd. Cefais gyfleoedd yn ystod y chwe mis hynny a newidiodd fy mywyd. Roeddwn i eisiau bywyd gwell i fi a’m merch. Fe ddeallais yn fuan iawn bod rhaid derbyn y gorffennol er mwyn symud ymlaen. Gallwn deimlo’r cyffro’n tyfu gyda phob lle newydd roeddwn i’n gweithio ynddo a gyda phob sgil newydd roeddwn i’n ei dysgu, a hynny ar ôl bod mor swil wrth gerdded i mewn i’m lleoliad gwaith cyntaf.”

Pan raddiodd Chloe, gofynnwyd iddi rannu ei phrofiadau gyda menywod ysbrydoledig eraill ar ei chwrs, noddwyr elusennau, rheolwyr lleoliadau, ffrindiau a theulu. “Roeddwn i’n ysgwyd, ac yn methu ynganu fy ngeiriau’n iawn wrth i mi ddarllen fy araith i ystafell o tua 200 o bobl. Roeddwn i mor emosiynol, fe ddechreuais i grio – allwn i ddim credu bod gen i’r hyder i’w wneud. Roeddwn i’n gwybod y gallwn ddangos yr hyn oedd yn bosib i’r bobl a oedd yn fy amau, a dwi wedi llwyddo i wneud hynny.

Arweiniodd ei lleoliad ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol fel gweithiwr cymorth i’r henoed at swydd barhaol.

“Dwi wrth fy modd gyda’r gwaith ac mae wedi bod yn newid byd i fi. Mae gan fy merch tua 20 o neiniau a theidiau anrhydeddus, maen nhw wrth eu boddau’n clywed amdani. Fe wnaeth hyn i mi sylweddoli fy mod i eisiau gofalu am bobl. Mae fy mos yn dweud fod gen i’r potensial i fod yn uwch reolwr, ond dwi eisiau mynd i’r brifysgol ac astudio nyrsio. Es i draw i weld fy nain yr wythnos diwethaf ac roedd hi’n dweud pa mor iach dwi’n edrych. Dwi’n bwyta’n well, dwi’n cymdeithasu, mae gen i swydd dwi wrth fy modd â hi, mae gen i gar a dwi’n aros am ddyddiad ar gyfer fy mhrawf gyrru.”

Categori Into Work wedi'i noddi gan:

  • Welsh Government
id before:6908
id after:6908