Amy Rattenbury
Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

82EC4E26-8B80-4CF9-9B1F-3D27B6031149

Mae Amy Rattenbury yn uwch ddarlithydd mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac yn angerddol am ddarparu cyfleoedd dysgu hygyrch a hyrwyddo addysg gwyddoniaeth, yn arbennig i ferched.

“Daw fy myfyrwyr o bob math o gefndiroedd, llawer ohonynt heb gymwysterau mewn gwyddoniaeth ond dyw hynny ddim yn rhwystr, maent yn cael canlyniadau rhagorol. Rwy’n hollol angerddol i gefnogi mwy o fenywod i yrfaoedd mewn gwyddoniaeth.”

Dywedodd y fyfyrwraig Paige Tynan: “Wrth edrych yn ôl, roeddwn yn swil, roeddwn yn ddihyder. Dywedwyd wrthyf yn yr ysgol y byddwn yn methu yn fy arholiadau gwyddoniaeth; roedd yn bwnc roeddwn bob amser wedi ei hoffi ac eisiau gwneud gradd ynddo. Cofrestrais ar gyfer gradd sylfaen ac ar ôl dechrau anodd dechreuais deimlo fod hyn yn union lle’r oeddwn i fod. Mae gen i bellach radd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Gwyddoniaeth Fforensig ac heb edrych yn ôl. Rwyf wedi dechrau ar ddoethuriaeth ac mae Amy wedi fy ysbrydoli i ddysgu wrth ei hochr hi.”

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd hefyd yn ffocws mawr yng ngwaith Amy, gan hyrwyddo addysg wyddonol gyda’r gymuned leol ac annog myfyrwyr i gymryd rhan mewn gwaith allanol hefyd. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau byr a darlithoedd cyhoeddus i sbarduno diddordeb a chwalu rhwystrau.Dywedodd Amy, “Rwy’n ymfalchïo yn fy strategaethau hyblyg, cynhwysol a hygyrch at addysgu a dysgu. Rwyf hefyd yn rhoi cefnogaeth ehangach i Glyndŵr fel Cynrychiolydd Dysgu Undeb. Fi yw Swyddog Menywod UCU Cymru ac yn fentor i archeolegydd a darpar athrawon.

“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried dychwelyd i ddysgu i fanteisio i’r eithaf ar yr hinsawdd presennol. Mae cymaint ar gael ar-lein, yn aml am ddim, felly manteisiwch i’r eithaf arno.  Gall dod o hyd i bwnc yr ydych yn ei garu newid eich bywyd.”

Diolch i'n partneriaid

  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Agreed logo
  • AC-FC-Port-no-strap-300x355
  • Logo_Porffor_RGB-Centre-for-Learning-Welsh-300x121
  • Unis Wales
  • Welsh Government
id before:8150
id after:8150