gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Mae 15 – 21 Medi yn nodi’r Wythnos Addysg Oedolion, dathliad blynyddol sy’n rhoi sylw i bwysigrwydd dysgu gydol oes ac yn annog oedolion i ymchwilio sgiliau a chyfleoedd addysg newydd i gefnogi eu twf personol.
Mae buddion dysgu gydol oes yn hysbys iawn ac yn mynd ymhell tu hwnt i gael sgiliau newydd neu wella rhagolygon gyrfa, er mor bwysig yw’r rhain.
Mae dysgu gydol oes hefyd yn ein helpu i addasu i fyd sy’n newid yn barhaus – gan hybu ein hyder a’n gwytnwch – ac yn cefnogi lles meddwl drwy gadw’r meddwl yn weithgar ac yn annog cysylltiadau cymdeithasol drwy brofiadau dysgu a gaiff eu rhannu.
Caiff hyn ei adlewyrchu yn y sgyrsiau a gefais gyda llawer o ddysgwyr hŷn a ddywedodd wrthyf fod cyfleoedd dysgu wedi bod â rôl bwysig yn eu cefnogi i heneiddio’n dda, gan gyfoethogi eu bywydau drwy agor drysau i ddiddordebau, safbwyntiau a phobl newydd.
Canfu pôl a gynhaliodd fy swyddfa yn gynharach eleni fod dros 20% o bobl 60+ oed yng Nghymru (tua 180,000 o unigolion) yn cymryd rhan yn gyson mewn gweithgareddau addysg oedolion, p’un ai ffurfiol neu anffurfiol. Mae hyn yn gadarnhaol iawn, o gofio am fuddion sylweddol cyfleoedd dysgu, ond mae angen i ni ofyn i’n hunain sut y gallwn gefnogi ac annog hyd yn oed fwy o bobl hŷn i gymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau.
Rhan allweddol o hyn yw cydnabod a mynd i’r afael â’r rhwystrau a all atal pobl hŷn rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu gydol oes.
Er enghraifft, problemau iechyd tebyg i lai o allu symud a cholli clyw neu olwg, sy’n dod yn fwy cyffredin wrth i ni heneiddio, wneud cyfranogiad yn anos.
Mae allgau digidol yn her arall, gan y bydd llawer o bobl hŷn yn cael eu hunain yn methu cael mynediad i lwyfannau ar-lein a gaiff yn awr ei ddefnyddio’n aml i gyflenwi dysgu, neu gallant fod heb y sgiliau digidol neu’r hyder i’w defnyddio. Yn wir, dylid gweld cynnal a chadw sgiliau digidol fel agwedd allweddol o ddysgu gydol oes o gofio am y ffaith fod technoleg ddigidol a’r sgiliau sydd eu hangen i ddefnyddio’r newid hwn yn newid dros gyfnod.
Yn ychwanegol, gall rhwystrau eraill tebyg i gyllid, mynediad i gludiant ac anawsterau yn dod o hyd i wybodaeth am y cyfleoedd dysgu sydd ar gael hefyd gael effaith neilltuol ar bobl hŷn.
Gall fod yn anodd iawn herio’r mathau hyn o gredoau dwfn, a gaiff yn aml eu cryfhau gan ragfarn neu wahaniaethu ar sail oedran, a dyna pam fod angen i ni ddefnyddio dulliau newydd a blaengar i gefnogi pobl hŷn i gymryd rhan mewn dysgu gydol oes.
Un dull o’r fath yw ‘dysgu fel teulu’, lle caiff cyfleoedd dysgu ar gyfer oedolion eu cysylltu gydag addysg plant yn y teulu. Dengys tystiolaeth fod hyn yn meithrin cymhelliant, hyder ac ymroddiad i ddysgu, a bod y dull hwn yn neilltuol o effeithiol i gyrraedd ac ennyn diddordeb oedolion a fanteisiodd leiaf o’u haddysg ddechreuol.
Fel y dangosir yn Fframwaith Dysgu fel Teulu y Sefydliad Dysgu a Gwaith, adnodd defnyddiol i gefnogi darparwyr addysg i gynnwys aelodau teulu o bob oed yn eu rhaglenni, mae dysgu fel teulu yn rhoi carreg gamu yn ôl i ddysgu ffurfiol a hyfforddiant, yn ogystal â chynyddu cyflogadwyedd a gwella deilliannau addysgol, cymdeithasol ac economaidd teuluoedd cyfan.
Gwelais y mathau hyn o fuddion drosof fy hun pan ymunais mewn sesiwn dysgu fel teulu ar ymweliad diweddar i Ysgol Gynradd Severn View yng Nghaerdydd, gyda tad-cuod a mam-guod yn dweud wrthyf fod cymryd rhan yn y sesiynau yma wedi cynyddu eu hyder mewn sgiliau digidol yn arbennig.
O gofio am eu buddion, mae gweithgareddau rhyng-genhedlaeth fel hyn yn bwysig tu hwnt i greu cyfleoedd i wahanol genedlaethau ddysgu gan, cefnogi ac annog ei gilydd.
Gall cynlluniau gyda ffocws ar ddod â gwahanol genedlaethau ynghyd hefyd greu cyfleoedd ar gyfer pobl iau i ddysgu o bobl hŷn, sydd yn aml â chyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad i’w rhannu.
Enghraifft dda o hyn yw DUO for a JOB, sy’n cynnig rhaglen mentora rhyng-genhedlaeth gyda ffocws ar werthfawrogi profiad pobl hŷn a defnyddiwn hyn i gyfrannu at gymdeithas decach a mwy cynhwysol.
Mae creu a chefnogi cynlluniau fel hyn sy’n agor drysau i ddysgu ar bob cam o’u bywyd, tra hefyd yn cefnogi na chaiff pobl hŷn eu hallgau neu eu gadael ar ôl, yn hanfodol. Drwy fuddsoddi yn y mathau hyn o gynlluniau, gallwn helpu i chwalu’r rhwystrau strwythurol a chymdeithasol sy’n rhy aml yn atal oedolion hŷn rhag cymryd rhan mewn addysg ac yn lle hynny greu amgylchedd lle mae dysgu gydol oes yn wirioneddol bosibl i bawb.
Mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn ein hatgoffa o’n union pa mor drawsnewidiol y gall dysgu fod ac mae thema eleni – ‘Paid Stopio Dysgu’ – yn dangos pam fod dysgu gydol oes mor bwysig.
A gyda grwpiau ar draws Cymru yn darparu ystod eang o ddysgu ffurfiol ac anffurfiol ar gyfer pobl hŷn, mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Mae dysgu am fwy nag addysg: mae’n ymwneud â thwf, cyswllt a llesiant ar bob oedran Drwy ddathlu llwyddiannau dysgwyr a pharhau i chwalu rhwystrau, gallwn helpu i sicrhau fod pobl hŷn ledled Cymru yn cael cyfle i groesawu cyfleoedd newydd, rhannu eu gwybodaeth a’u profiad, a mwynhau buddion niferus dysgu gydol oes.