Rhoi sylw i arwyr addysg oedolion – dathlu’r tiwtoriaid sy’n ysbrydoli, cefnogi a thrawsnewid bywydau bob dydd

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn cyhoeddi lansio Gwobr Ysbrydoli! Tiwtoriaid 2026, sy’n dathlu ymroddiad, angerdd ac effaith tiwtoriaid addysg oedolion ledled Cymru.

Mae’r gwobrau hyn yn gydnabod tiwtoriaid eithriadol sy’n mynd yr ail filltir i rymuso oedolion sy’n ddysgwyr, trawsnewid bywydau a chryfhau cymunedau. Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw 16 Ionawr 2026.

Gwahoddir enwebiadau gan ddysgwyr, cydweithwyr a sefydliadau ar draws Cymru ar gyfer tiwtoriaid eithriadol sy’n ysbrydoli hyder, meithrin sgiliau ac agor drysau i gyfleoedd newydd. Caiff y gwobrau eu cydlynu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru ac fe’u cefnogir gan Colegau Cymru, Partneriaeth Addysg Oedolion Cymru, Prifysgolion Cymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Dywedodd Vikki Howells, Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: “Gall addysg newid bywydau ar unrhyw oedran ac mae’r gwobrau hyn yn dathlu’r tiwtoriaid ymroddedig sy’n helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu nodau addysg bob dydd.

“Sgil ac ymroddiad tiwtoriaid sy’n grymuso dysgwyr drwy eu hysbrydoli a hefyd drwy feithrin hyder dysgwyr a dileu rhwystrau. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod gwaith caled ein tiwtoriaid addysg oedolion a hoffwn ddiolch iddynt am eu holl waith ar gyfer eu cymunedau a dysgu gydol oes yng Nghymru.”

Ychwanegodd Kay Smith, Pennaeth Ymgyrchoedd, Datblygu a Pholisi y Sefydliad Dysgu a Gwaith: “Bob blwyddyn, mae’r gwobrau hyn yn rhoi sylw i’r tiwtoriaid ymroddedig sy’n hollbwysig wrth gyrraedd cymunedau, gan gefnogi oedolion i gynyddu eu hyder fel dysgwyr a sicrhau eu bod yn ffynnu a sicrhau cynnydd.

“Gwyddom fod tiwtoriaid a mentoriaid sy’n ysbrydoli ledled Cymru yn allweddol i yrru’r sector addysg drydyddol ymlaen. Maent yn dileu rhwystrau, arloesi ac yn ysbrydoli mwy o bobl i deimlo eu bod wedi eu cysylltu mewn cymunedau, gan adeiladu’r sgliau a all arwain at swyddi gwell, mynd i’r afael â thlodi a diogelu iechyd a llesiant.”

Pam enwebu?

  • Dathlu rôl hanfodol tiwtoriaid mewn addysg oedolion a dysgu gydol oes.
  • Rhoi sylw i ddulliau addysgu arloesol sy’n ymgysylltu â dysgwyr ac yn eu cymell.
  • Cydnabod tiwtoriaid sy’n creu amgylcheddau dysgu cynhwysol, cefnogol a chroesawgar.
  • Arddangos straeon llwyddiant sy’n dangos grym trawsnewidiol addysg oedolion.

Pwy all gael ei enwebu?

  • Tiwtoriaid sy’n gweithio mewn addysg oedolion, addysg bellach ac uwch, allgymorth cymunedol, ysgolion bro, Cymraeg i Oedolion a dysgu yn y gweithle.
  • Unigolion sy’n dangos ymroddiad, creadigrwydd a thosturi yn eu haddysgu.
  • Rhai a wnaeth wahaniaeth amlwg yn hyder, sgiliau a chynnydd dysgwyr.

Sut i enwebu:

I gael y meini prawf ac i gyflwyno enwebiad, ewch i: https://www.sefydliaddysguagwaith.cymru/maer-hyn-a-wnawn/gwobrau-ysbrydoli/mae-gwobrau-ysbrydoli-tiwtoriaid-ar-agor-ar-gyfer-enwebiadau/

Dyddiad cau enwebiadau: Mae enwebiadau ar agor tan 16 Ionawr 2026.

id before:17537
id after:17537