Paid Stopio Dysgu: Dathlu Llwyddiant yng Ngwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion Eleni

gan Aimee Cleminson, Intern Ymchwil, Sefydliad Dysgu a Gwaith.

 

 

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Fis diwethaf roedd Abertawe yn llawn dathlu wrth i ni anrhydeddu llwyddiannau anhygoel dysgwyr sy’n oedolion yn y seremoni wobrwyo. Roedd yr ystafell yn llawn emosiwn, cynhesrwydd a straeon grymus am ddyfalbarhad a llwyddiant. Mae pob stori yn enghraifft wych o effaith dysgu gydol oes fel catalydd ar gyfer newid sy’n agor drysau, yn meithrin hyder ac yn sbarduno gwir drawsnewid.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Addysg Oedolion yn uchafbwynt yr Wythnos Addysg Oedolion, ymgyrch genedlaethol sy’n hyrwyddo addysg oedolion ac effaith hynny ar yrfaoedd, iechyd a chymunedau ledled Cymru drwy ddigwyddiadau a chymorth rhad ac am ddim.

Fe wnaeth Gina Powell, enillydd Gwobr Llais Dysgwyr, grynhoi ysbryd y digwyddiad yn berffaith,

“Drwy fod yn llysgennad dysgu, rwy’n dangos nad yw bywyd yn dod i ben gyda bod yn rhiant – gallant ddod yn beth bynnag maent eisiau bod! Rwyf wedi cerdded yn yr un esgidiau â llawer o’r teuluoedd rwy’n eu cefnogi.”

Dyma enillwyr 2025

Dysgu ar gyfer Iechyd Gwell – Mandy Price

Er ei bod wedi wynebu heriau epilepsi a llawer o gyfrifoldebau gofalu, mae Mandy yn llwyddo i barhau â’i hastudiaethau ei hun ac yn dangos sgil wrth drin ei bywyd cymhleth. Mae hefyd yn gwirfoddoli fel mentor darllen gyda Daisy, ei chi cymorth. Gan osod o’r neilltu amheuon dechreuol am eu gallu academaidd, mae wedi ennill Gradd Sylfaen mewn Gwyddor Anifeiliaid a nawr yn gweithio am BSc, gyda chynlluniau i wneud gradd Meistr mewn Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc. Does dim pall ar angerdd Mandy dros ddysgu a helpu pobl eraill!

Mandy Price – Enillydd Gwobr Dysgu ar gyfer Gwell Iechyd 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Siaradwr Cymraeg Newydd – Foo Seng Thean 

Ers cyrraedd Abertawe yn 2015, mae Foo Seng wedi croesawu’r Gymraeg gydag angerdd a diben. Yn benderfynol i oresgyn y rhwystr iaith, aeth ati i ddysgu ac mae’n awr yn ysbrydoli eraill i wneud yr un fath. Drwy’r Gymdeithas Tsieineaid yng Nghymru, mae’n hyrwyddo’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn digwyddiadau ac yn ei fywyd bob dydd, gan brofi fod iaith yn wirioneddol ddod â chymunedau ynghyd.

Mae hefyd yn rhan o Gôr Dysgwyr, gan ddefnyddio ei hoffter o ganu i gryfhau ei sgiliau iaith a chysylltu gydag eraill drwy gerddoriaeth.

Foo Seng Thean – Enillydd Gwobr Siaradwr Cymraeg Newydd 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Heneiddio’n Dda – Gloria Beynon 

Ni wnaeth ymddeol arafu dim ar Gloria – fe ddechreuodd bennod newydd lawn o ddysgu a rhoi yn ôl. Yn gyn gynorthwyydd addysgu, mae bellach yn graig yn y gymuned, yn gofalu am ei hwyrion ac yn gwirfoddoli yn lleol Wedi’i sbarduno gan angerdd am dwf personol, mae Gloria wedi cwblhau chwe cwrs gydag achrediad, gan brofi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, arwain ac ysbrydoli.

Gloria Beynon – Enillydd Gwobr Heneiddio’n Dda 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

 

Gwobr Sgiliau Gwaith – Will Hougham 

Manteisiodd Will i’r eithaf ar ei brentisiaeth yn Real SFX, gan ddangos gwytnwch, egni ac angerdd gwirioneddol ar gyfer y diwydiannau creadigol. Daeth yn llysgennad gwych, gan gynrychioli’r cwmni mewn digwyddiadau gyrfa ac ysbrydoli talent y dyfodol. Bellach yn mentora prentisiaid newydd ei hun, mae taith Will yn enghraifft ddisglair o ddysgu ar y swydd – ac arwain drwy esiampl.

Will Hougham – Enillydd Gwobr Sgiliau Gwaith 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol – Grŵp Dysgu Rhieni Ysgol Uwchradd Cathays

Mae’r grŵp aml-ddiwylliannol gwych hwn yn trawsnewid bywydau yng Nghaerdydd – gan ennill tua 120 cymhwyster y flwyddyn ac yn helpu bron hanner ei aelodau i waith. Tu hwnt i ddysgu, maent yn mynd i’r afael benben ag anghydraddoldeb iechyd, gan godi ymwybyddiaeth o glefyd siwgr ac anhwylderau’r galon, a mwy na dyblu’r nifer o bobl mewn cymunedau mewn risg sy’n derbyn brechiadau  – gwir rym dros newid.

Grŵp Dysgu Rhieni – Enillydd Gwobr Hywel Francis am Effaith Gymunedol – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Sgiliau Hanfodol Bywyd – Janine Price 

Dechreuodd taith ddysgu Janine gyda chwrs coginio syml – a sbardunodd hynny angerdd am dwf. Ers hynny, mae wedi cwblhau cyrsiau mewn Seicoleg Plant, Cymorth Mathemateg a Chymorth Cyntaf i Blant. Bellach yn gwirfoddoli fel cynorthwyydd addysgu, mae gan Janine ran hanfodol wrth helpu plant i ffynnu mewn llythrennedd a rhifedd. Enghraifft rymus o ddysgu yn newid bywydau.

Janine Price – Enillydd Gwobr Sgiliau Hanfodol Bywyd 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Rhannu Dyfodol – Hamdi Abdalkareem 

Dechreuodd angerdd Hamdi am ofal iechyd yn Sudan wledig, lle roedd mynediad yn brin. Ers symud i Gymru, mae wedi canolbwyntio ar feithrin ei sgiliau busnes ac arweinyddiaeth – gan gwblhau cyrsiau rheoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n awr yn astudio Rheoli Prosiectau. Mae awydd Hamdi i wella arferion meddygol yn dangos sut y gall dysgu newid bywydau a chymunedau. 

Hamdi Abdalkareem Abdalla Abdalrhman – Enillydd Gwobr Rhannu Dyfodol 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Newid Bywyd – Ida Aldred 

Bu taith ddysgu Ida i gyd am dwf a darganfod. Drwy ennill ei chymhwyster Agored mewn Datblygu Dysgu, mae wedi sylweddoli ar ei chryfderau a’i sgiliau o brofiad gwaith a bywyd. Ni wnaeth Ida roi’r gorau iddi yno – fe wnaeth gwblhau Goresgyn Rhwystrau i Waith, dechrau dysgu Cymraeg gyda ‘Croeso Cymraeg Gwaith’ a hyfforddi fel gwirfoddolwr ar gyfer cyrsiau ESOL yn y gymuned. Mae stori Ida yn dangos sut y gall dysgu agor drysau a meithrin hyder.

Ida Aldred – Enillydd Gwobr Newid Bywyd 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Newid Bywyd – Michael Cook 

Dechreuodd taith Michael yn y gegin, lle’r oedd ei greadigrwydd a’i allu i arwain fel chef yn amlwg iawn. Wedi’i sbarduno gan angerdd dros addysgu, penderfynodd newid gyrfa yn nes ymlaen yn ei fywyd. Mae Michael yn credu fod dyslecsia wedi bod yn anhawster yn ei yrfa ym maes coginio, ond mae bob amser wedi bod yn ei fodd yn rhannu ei sgiliau. Mae’n awr yn awyddus iawn i helpu eraill, yn arbennig bobl ifanc gydag anawsterau dysgu tebyg, gan ddangos o gael y gymorth gywir a dileu rhwystrau, nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddilyn eich calon a gwneud gwahaniaeth.

Michael Cook – Enillydd Gwobr Newid Bywyd 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Llais Dysgwyr – Gina Powell 

Mae Gina yn eiriolydd angerddol dros addysg oedolion, ac yn gweithio bellach fel swyddog ymgysylltu â theuluoedd. Mae’n cysylltu rhieni ac oedolion gyda chyfleoedd dysgu drwy bartneriaethau gyda Choleg Caerdydd a’r Fro ac Addysg Oedolion Caerdydd. Drwy ei gwaith ymroddedig, mae 52 o oedolion wedi cwblhau cyrsiau yn y ddwy flynedd ddiwethaf – gyda rhai hyd yn oed wedi symud ymlaen i brifysgol. Mae gwaith Gina yn agor drysau ac yn newid dyfodol pobl.

Gina Powell – Enillydd Gwobr Llais Dysgwyr 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Gwobr Oedolyn Ifanc – Osian Lloyd 

Mae Osian yn enghraifft go iawn o sut y gall addysg oedolion drawsnewid bywydau a helpu i oresgyn adfyd. Drwy brosiect Y Stori gyda The Wallich, bu’n gweithio gyda phobl broffesiynol mewn theatr i greu drama am ddigartrefedd – ac fe wnaeth ddarganfod angerdd am actio, gan hyd yn oed sicrhau’r brif ran. Mae nerth ac ymroddiad Osian yn dangos grym dysgu i ddatgloi talent newydd a hyder.

Osian Lloyd – Enillydd Gwobr Oedolyn Ifanc 2025 – Wythnos Addysg Oedolion

Diolch i bob un o’r 11 enillydd gwobr. Caiff llwyddiant Gwobrau Ysbrydoli! ei adeiladu’n uniongyrchol ar sylfaen gref cydweithio ac ymroddiad gan ein partneriaid a noddwyr gwerthfawr. Diolch o galon hefyd i’r holl sefydliadau sy’n hyrwyddo dysgu gydol oes drwy roi’r amser i enwebu’r bobl a phrosiectau gwych, gan roi sylw i’w hymroddiad a’u llwyddiannau ar draws Cymru.

Os ydych yn barod i enwebu ar gyfer gwobrau 2026, bydd y sefydliad Dysgu a Gwaith yn gwahodd cynigion yn yr hydref.

 

Neges llongyfarchiadau Michael Sheen

Michael Sheen - thumbnail
id before:17372
id after:17372