Gan Rachel Terman, Athro Cyswllt Cymdeithaseg a Chyfarwyddwr Astudiaethau Graddedig, Prifysgol Ohio
I nodi’r Wythnos Addysg Oeddolion yng Nghymru, rwy’n bwrw golwg ar y ngwaith gyda Gweithdy DOVE, profiad grymus a drawsnewidiodd fy nealltwriaeth o addysg gymunedol.
Ym mis Mai eleni daeth Dr. Tiffany Arnold a finnau â grŵp o wyth o fyfyrwyr o Brifysgol Ohio i Gymru i dreulio deg diwrnod yn dysgu am y wlad gan ganolbwyntio yn benodol ar y cymariaethau rhwng cymunedau ôl-glo yn Appalachia a Cymru. Cafodd y rhaglen hon ei hysbrydoli, yn rhannol, gan y gyfnewidfa a gynhaliwyd dros ddegawdau gan academyddion, glowyr ac actifyddion cymunedol o Appalachia a Chymru a gafodd sylw yn y ffilm o 2016 After Coal: Welsh and Appalachian Mining Communities, a gyfarwyddwyd gan Tom Hansell, a’i lyfr dilynol o 2018 After Coal: Stories of Survival in Appalachia and Wales.
Roeddwn i fy hun wedi cymryd rhan yn y gyfnewidfa hon 18 mlynedd yn ôl fel myfyriwr gradd yn astudio gyda Patricia Beaver a Billy Schumann ym Mhrifysgol Talaith Appalachia yn Boone, Gogledd Carolina. Yn ystod yr ymweliad hwnnw i Gymru, fe wnaethom ni fel myfyrwyr dreulio tua mis yn byw mewn cwt sgowtiaid yn Ystradgynlais, yn dysgu am hanes y gweithfeydd glo a hanes cymunedol yng nghymoedd glofaol Cymru a threulio dyddiau yn gweithio gyda mudiadau cymunedol yn yr ardal.
Pan ymunais â’r gyfadran ym Mhrifysgol Ohio fel athro cynorthwyol yn 2015, bûm eto yn ddigon ffodus i fedru gweithio gyda Tiffany Arnold oedd â chefndir mewn Cwricwlwm a Chyfarwyddyd ac effaith lleoedd gwledig yn Appalachia ar brofiadau myfyrwyr coleg cenhedlaeth-gyntaf. Mae gan y ddwy ohonom ddiddordeb mawr mewn meithrin cysylltiadau rhwng myfyrwyr coleg a mudiadau cymunedol lleol ac adeiladu gwybodaeth. Yn 2018 fe wnaethom ddechrau cydweithio gyda Chynllun Ymchwil Colegol Appalachia, rhaglen a noddir gan Gomisiwn Rhanbarthol Appalachia llywodraeth yr Unol Daleithiau, sy’n cefnogi hyfforddiant ymchwil cymwysedig ar gyfer myfyrwyr coleg o Appalachia sy’n gweithio ar gynlluniau datblygu economaidd yn eu cymunedau. Drwy’r rhaglen hon gallwn hyrwyddo dysgu tu allan i’r ystafell ddosbarth a chysylltu myfyrwyr gyda gwybodaeth ac arbenigedd lleol.
Ar yr un pryd, mae ein partneriaid masnachol yn cymryd rôl addysgwyr drwy gydweithio gyda myfyrwyr drwy’r prosiect. Mae ein myfyrwyr wedi gweithio’n bennaf gyda Little Cities of Black Diamonds a Community Food Initiatives, dau fudiad yn ne-ddwyrain Ohio.
Drwy’r partneriaethau hyn gallwn gefnogi cyfnewid gwybodaeth, treftadaeth a diwylliant tra’n meithrin galluedd y gymuned. Mae ein partneriaid yn y gymuned yn ymuno â ni yn yr ystafell ddosbarth i addysgu myfyrwyr am genhadaeth a gwaith eu mudiad. Yna, gall myfyrwyr ymuno yn y gwaith yma a chyfrannu eu sgiliau a’u harbenigedd eu hunain i’n partner cymunedol drwy brosiectau fel cyflwyno sgyrsiau byr ar hanes lleol ar ddiwrnod cymunedol blynyddol, casglu a dadansoddi data arolwg o raglenni cymunedol, a chyfweld â’r sawl sy’n cymryd rhan i fesur effaith rhaglenni cymunedol.
Fe wnaeth dychwelyd i Gymru yn y gwanwyn eleni ac ymweld â Gweithdy DOVE unwaith eto gadarnhau pam fod y gyfnewidfa barhaus hon rhwng Appalachia a Chymru mor ystyrlon. Mae ein cymunedau yn wynebu heriau tebyg ond neilltuol ac yn mwynhau diwylliant cyfoethog yn seiliedig ar hanes o ddatblygu diwydiannol ac ymateb cymunedol ôl-ddiwydiannol.
Yn y Little Cities of Black Diamonds Day blynyddol eleni, a gynhaliwyd yn Nelsonville, Ohio ar 6 Medi, bu’r siaradwyr yn trafod hanes mudo a mewnfudo i ardal Little Cities wrth i’r gweithfeydd glo ddatblygu a ffynnu ddiwedd y 1800au. Roedd llawer o’r ymfudwyr o bentrefi glofaol yng Nghymru a chawsant ddylanwad ar y cymunedau yma nid yn unig fel gweithwyr ond hefyd drwy sefydlu teuluoedd, mudiadau ac addysgu eu cyd-lowyr am lafur cyfundrefnol yn ôl adre. Cymerodd fy myfyrwyr a finnau ran yn y diwrnod hanes lleol yma drwy gynnal arolwg ymysg y rhai oedd yn bresennol am effaith y digwyddiad ac ar ein bwrdd dangosais lawer o’r trysorau a gadwais i fy atgoffa am fy ymweliad i Gymru ym mis Mai, a ddenodd lawer o bobl a sgyrsiau i’n bwrdd.
Thema y Little Cities Day eleni oedd “Mwy i’w Ddweud” gyda ffocws ar gyfnewid straeon yn llafar a sut y caiff hanes newydd ei ddarganfod drwy’r amser. Yn sicr, mae mwy i gael ei ddweud, ei ddysgu a’i ddarganfod drwy’r cysylltiadau rhwng Appalachia a Chymru.
Cyn-fyfyrwyr o Brifysgol Ohio, myfyrwyr cyfredol ac aelodau’r gymuned yn dod ynghyd i ddysgu am hanes lleol yn ystod y Little Cities of Black Diamonds Day blynyddol, Medi 2025.