Mae’n fis Medi, mae hi’n ôl i’r ysgol … ac mae’n Wythnos Addysg Oedolion. Rydym yn rhoi’r sylw i ddysgu fel teulu!

gan Kay Smith, Pennaeth Ymgyrchoedd, Polisi a Datblygu, Sefydliad Dysgu a Gwaith

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae mis Medi wedi cyrraedd ac mae fy ffocws ar yr Wythnos Addysg Oedolion a chydlynu ymgyrch gyda channoedd o bartneriaid ledled Cymru. Gyda’n gilydd, rydym yn anelu i annog mwy o oedolion i feithrin eu sgiliau yn hyderus. Ar gyfer yr ymgyrch rydym yn dynodi partneriaid allweddol i gyrraedd cymunedau a llunio negeseuon sy’n taro tant gyda’r rhai a all fod wedi dysgu yn rhy gynnar nad yw addysg ar eu cyfer nhw.

Mae gwaith maes ac ymgysylltu yn ganolog i unrhyw gynnig addysg oedolion. Maent yn helpu i gymryd y camau cyntaf hynny yn ôl i ddysgu i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a chreu amgylchedd lle mae hwyl a chyfeillgarwch yn ailgynnau cariad at ddysgu.

Mae mis Medi hefyd yn dod â theimlad cyfarwydd nôl-i’r-ysgol. Yn gynharach eleni, cafodd y Rhwydwaith Dysgu fel Teulu yng Nghymru ei lansio gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith. Mae dysgu fel teulu yn ymyriad sy’n cyrraedd rhieni drwy waith maes mewn ysgolion. Mewn rhai modelau, mae’n cynnig cyfleoedd addysg oedolion gyda ffocws ynghyd â gweithgareddau hwyliog ar gyfer rhieni a phlant.

Fe wnaethom weithio gyda’r rhwydwaith Ysgolion Bro i ymchwilio a hyrwyddo modelau cyflenwi effeithiol ar gyfer Dysgu fel Teulu ledled Cymru. Mae dechrau yn yr ysgol yn foment hollbwysig ar gyfer rhieni yn ogystal ag ar gyfer plant – mae’n aml yn sbarduno meddwl am eu nodau eu hunain, p’un ai yw hynny’n ddychwelyd i’r gwaith fod eisiau cymryd mwy o ran yn y gymuned. Mae’n amser grymus i ddechrau sgyrsiau am uchelgais, a chaiff lawer o rieni eu hysbrydoli i ymuno â rhaglenni Dysgu fel Teulu oherwydd eu bod eisiau cefnogi addysg a dyfodol eu plentyn.

Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd mewn llawer o ysgolion ledled Cymru ar hyn o bryd. Mae ganddynt rôl hanfodol wrth feithrin perthynas gyda rhieni ac yn gwasanaethu fel cyswllt allweddol rhwng ysgolion a darparwyr addysg oedolion.

 

Bydd Gina Powell, Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd mewn ysgol yng Nghaerdydd, yn derbyn ei Gwobr Ysbrydoli! yn ystod yr Wythnos Addysg Oedolion. Mae’n ganolog wrth gefnogi rhieni i fynd i ddosbarthiadau Dysgu fel Teulu.

Rwyf wedi gweld rhieni yn ailgysylltu gyda dysgwyr ac ennill mwy o ymdeimlad o hunan-werth. P’un ai eu nod yw prifysgol neu ddim ond bod yn ddigon dewr i gymryd y cam cyntaf hwnnw, rwyf yma i gerdded wrth eu hochr, gan fod pob cam ymlaen yn cyfri."

Pan wnaethom ddatblygu’r Fframwaith Dysgu fel Teulu, clywais drosof fy hun gan ddysgwyr am ei effaith arnyn nhw a’u plant. Mae’r ddarpariaeth yn cyrraedd y rhai a fanteisiodd leiaf o’u haddysg ddechreuol a gadael yr ysgol heb fawr o gymwysterau. Caiff y penderfyniad i ymuno yn aml ei ysgogi gan ganolwr dibynadwy, wrth i ddysgwyr gael eu cymell gan y cyfle i gysylltu gyda’u plant a chynorthwyo gyda’u haddysg.

Mae rhieni yn datblygu mwy o hunan-werth a hyder yn eu galluedd fel dysgwyr ac yn mynd ymlaen i ennill cymwysterau, ail-eistedd TGAU a chanfod eu ffordd i goleg, addysg bellach neu gyflogaeth.

Yn ysgol Gina, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae 52 o oedolion wedi cwblhau cyrsiau dysgu fel teulu ac addysg oedolion, gyda rhai yn symud ymlaen i brifysgol.

Dywedodd,
Drwy fod yn llysgennad dysgu rwy’n dangos nad yw bywyd yn dod i ben gyda bod yn rhiant – gallant ddod yn beth bynnag maent eisiau bod! Rwyf wedi cerdded yn yr un esgidiau â llawer o’r teuluoedd rwy’n eu cefnogi. Efallai na wnaeth dysgu ddigwydd iddyn nhw pan oeddent yn iau ond nid yw hynny’n golygu ei bod yn rhy hwyr. Rwyf wedi dod i ddeall nad dim ond am gymwysterau mae dysgu: mae’n ymwneud â hyder, perthyn ac agor drysau.”

Mae ein Gwobrau Ysbrydoli! hefyd yn dathlu llwyddiant Grŵp Dysgu Rhieni Ysgol Uwchradd Cathays. Wedi’i ffurfio yn 2014, mae’r grŵp wedi datblygu partneriaethau ar draws addysg oedolion, iechyd cyhoeddus a’r sector gwirfoddol i gael mynediad i ddysgu, iechyd a llesiant, gwirfoddoli a gwaith.

Mae rhieni sy’n mynychu’r grŵp dysgu aml-ddiwylliannol yn Ysgol Gynradd Cathays yn ennill 120 cymhwyster y flwyddyn ar gyfartaledd, gan helpu bron hanner y rhieni i ganfod cyflogaeth.

Mae’r bartneriaeth ddysgu wedi helpu i gynyddu sgiliau a hyder. Mae’r rhieni sy’n mynychu’r grŵp yn siarad mwy na 65 o wahanol ieithoedd ac mae 43% o ddisgyblion yr ysgol yn dod o deuluoedd sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim.

Dywedodd y tiwtor Christina Roy, sydd hefyd yn Gydlynydd Dysgu fel Teulu Ysgol Uwchradd Cathays “Mae’n werth chweil iawn helpu rhieni i gefnogi eu plant i ddysgu’n well a datblygu eu hunain i fod yn hyderus, medrus a hunanddibynnol.”

Mae dysgu fel teulu yn cael effaith fel tonnau. Mae’n datgloi sgiliau a thalentau rhieni, yn cryfhau perthynas rhwng teuluoedd ac ysgolion ac yn rhoi hwb i blant yn eu haddysg eu hunain pan welant riant yn dysgu wrth eu hochr.

Wrth i ni ddathlu’r Wythnos Addysg Oedolion a chroesawu’r tymor nôl-i’r-ysgol, gadewch i ni gofio nad yw dysgu yn dod i ben wrth glwydi’r ysgol – mae’n daith gydol oes. Gall y clwydi hynny agor yn lletach i groesawu mwy o oedolion i drawsnewid eu bywydau, cefnogi eu teuluoedd a meithrin cymunedau cryfach.

id before:17308
id after:17308