Datgloi Potensial Dysgu Cymru: Pam fod Addysg Oedolion yn bwysicach nag erioed

gan Joshua Miles, Cyfarwyddwr Sefydliad Dysgu a Gwaith Cymru

Dyddiad:

01 01 1970

Awduron:

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Bob mis Medi mae’r Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi sylw i rym trawsnewidiol dysgu. Mae’n gyfle i ddathlu pobl a gamodd ôl i addysg ac yn ystyried beth mwy y gallwn ei wneud i sicrhau fod cyfleoedd ar gael i bawb yng Nghymru.

Mae canfyddiadau dechreuol Arolwg Cyfranogiad Oedolion mewn Dysgu y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ein hatgoffa  yn amserol am yr addewid a hefyd yr her. Dengys y data y dywedodd ychydig dros un ym mhob un o bump o oedolion Cymru eu bod yn ymwneud â dysgu ar hyn o bryd (22%) a bod bron hanner (47%) wedi cymryd rhan o fewn y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r ffigurau hyn yn bwysig. Dywedant wrthym nad rhywbeth i ysgolion, colegau neu brifysgolion yn unig yw dysgu – mae’n rhywbeth sy’n dal i ddigwydd gydol oes, gan borthi hyder, gyrfaoedd a chymunedau.

A phan mae pobl yn dysgu, mae’r buddion yn drawiadol. Cynnydd mewn hunan-hyder yw’r un canlyniad mwyaf cyffredin a nodwyd gan oedolion sy’n ddysgwyr. Siaradodd eraill am gyflawni nodau datblygu personol, darganfod llawenydd dysgu, cwrdd â phobl newydd ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eu swyddi. Mewn geiriau eraill, mae addysg oedolion am fwy na chymwysterau yn unig - mae'n ymwneud â datgloi potensial dynol."

Eto mae’r un data yn dangos pa mor rhwydd yw gadael y potensial hwnnw heb ei gyffwrdd. Mae un ym mhob pump o oedolion yng Nghymru yn dweud nad ydynt wedi gwneud unrhyw ddysgu ers gadael addysg lawn-amser. Ar gyfer y rhai a fu allan o ddysgu am dair blynedd neu fwy, gall y rhwystrau deimlo’n anorchfygol: cost, pwysau ar amser ac – yn fwyaf cyffredin – y gred eu bod yn syml yn “rhy hen” i ddychwelyd.

Ond dyma’r rhan gobeithiol. Mae oedolion a gymerodd ran mewn dysgu yn ddiweddar bron bedair gwaith yn fwy tebyg o ddweud eu bod yn disgwyl dysgu eto yn y dyfodol (73%) o gymharu â’r rhai na wnaeth hynny (21%). Unwaith mae pobl yn cael blas ar ddysgu, mae eu harchwaeth yn cynyddu. Mae hynny’n golygu nad darbwyllo pobl fod dysgu yn werth chweil yw’r her i bawb ohonom ni – gwneuthurwyr polisi, darparwyr, cyflogwyr a chymunedau. Mae’r galw yno. Yr her yw cael gwared â’r rhwystrau sy’n dal pobl yn ôl.

Felly beth mae hynny’n ei olygu yn ymarferol? Mae’n golygu cael rhaglenni allgymorth clir, gwneud cyfleoedd yn hyblyg, fforddiadwy ac amlwg. Mae’n golygu cydnabod fod dysgu yn digwydd mewn llawer o ofodau – mewn gweithleoedd, mewn cymunedau, drwy wirfoddoli, yn ogystal ag mewn lleoliadau addysg ffurfiol. Mae’n golygu sicrhau fod dysgwyr hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu croesawu a bod pobl a adawodd yr ysgol yn gynnar yn gweld llwybr yn ôl. Yn bennaf oll, mae’n golygu cynllunio polisi a darpariaeth o amgylch y bywydau mae pobl yn ei fyw yn awr – prysur, cymhleth , yn aml dan bwysau  – yn hytrach na disgwyl iddynt i ffitio i fodelau anhyblyg y gorffennol.

Mae’r dystiolaeth yn glir: mae dysgu yn talu ar ei ganfed nid yn unig i unigolion ond hefyd i gymdeithas. Mae gweithlu mwy medrus a hyderus yn cefnogi twf economaidd. Daw cymunedau cryfach i’r amlwg pan ddaw pobl ynghyd i ddysgu. Ac mae unigolion yn cael synnwyr o’r posibiliadau a ddaw gyda meistroli rhywbeth newydd. Mewn byd lle mae newid yn gyson – o darfu technolegol i newidiadau demograffig – nid moethusrwydd yw diwylliant o ddysgu gydol oes. Mae’n rheidrwydd.

Yr Wythnos Addysg Oedolion hon, mae’r galw i weithredu yn syml: gadewch i ni gydweithio i ddatgloi’r archwaeth at ddysgu sy’n bodoli ledled Cymru. Ar gyfer gwneuthurwyr polisi, mae hynny’n golygu buddsoddi mewn darpariaeth gynhwysol a mynd i’r afael benben â rhwystrau fel cost a hygyrchedd. Ar gyfer darparwyr addysg, mae’n golygu llunio cyfleoedd sy’n croesawu oedolion ar bob cam o fywyd. Ac i bawb ohonom, mae’n golygu lledaenu’r gair fod dysgu i bawb.

Os ydych yn edrych am ysbrydoliaeth neu gamau nesaf ymarferol, ymchwiliwch yr hyn sydd ar gael yr wythnos hon: Dod o hyd i ddigwyddiad Wythnos Addysg Oedolion yn agos atoch chi.

Oherwydd pan agorwn ddrysau i ddysgu, nid dim ond newid bywydau y byddwn yn ei wneud – rydym yn cryfhau Cymru.

 

id before:17306
id after:17306