Angen cynllun newydd dewr i helpu 60,000 yn fwy o bobl i waith yng Nghymru a mynd i’r afael ag anweithgaredd economaidd.

Dyddiad:

01 01 1970

Tagiwyd gan:

Rhannu:

Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Cymru osod uchelgais dewr i o leiaf dri chwarter pobl oedran gweithio i fod mewn gwaith, gan gau’r bwlch cyflogaeth gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Dywed yr adroddiad y byddai hyn yn hybu economi Cymru gan £1.4 biliwn ac yn arbed hyd at £500 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr.

I gyflawni hyn, mae angen i ni gynyddu cyflogaeth yng Nghymru gan o leiaf 60,000 o bobl, drwy helpu mwy o bobl i waith a’u cefnogi i aros mewn gwaith. Byddai hyn yn codi’r gyfradd cyflogaeth yng Nghymru o 73% heddiw i gyfateb â’r gyfradd gyfredol o 75% ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.

Daw’r adroddiad newydd, Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru, ar adeg pan fo Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddatganoli pob rhaglen cymorth cyflogaeth heblaw am y Ganolfan Byd Gwaith. Dengys dadansoddiad Dysgu a Gwaith y gallai hyn olygu £47 miliwn y flwyddyn ar ben y £288 miliwn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu gwario ar helpu pobl i ganfod gwaith a gwella eu sgiliau.

Mae’r adroddiad newydd, a luniwyd gan Dysgu a Gwaith ac a gyllidwyd gan Serco, yn galw am weithredu ar frys i gyflenwi mwy o gymorth cyflogaeth, cydlynu cymorth presennol cyflogaeth, sgiliau a iechyd a gwella sut mae gwasanaethau yn cydweithio yn lleol.

Mae anweithgarwch economaidd yn uwch yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig a chaiff ei yrru yn bennaf gan anabledd a chyflyrau iechyd hirdymor, gyda 7% o’r boblogaeth oedran gweithio yn economaidd anweithgar am y rheswm hwn. Mewn rhai rhannau o Gymru, fel Blaenau Gwent, mae bron un mewn saith o oedolion yn hawlio budd-daliadau am fod allan o waith oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd. Mae hyn ddwywaith y gyfradd mewn lleoedd fel Gwynedd.

Nid oes unrhyw gymwysterau gan 42% o’r rhai sydd yn economaidd anweithgar oherwydd iechyd, deirgwaith y gyfradd ar gyfer y boblogaeth ehangach. Mae’r gwahaniaeth amlwg iawn yma yn tanlinellu’r angen i gydlynu cymorth cyflogaeth gyda darpariaeth iechyd a sgiliau.

Mae deilliannau a chyfleoedd cyflogaeth hefyd yn amrywio’n eang yn dibynnu ar bwy ydych a ble’r ydych yn byw. Mae menywod yn sylweddol fwy tebygol o fod yn economaidd anweithgar na dynion (19% o gymharu gyda 13% yn yr un drefn), ac mae pobl o grwpiau lleiafrif ethnig yn wynebu cyfraddau uwch o anweithgarwch economaidd (18% o gymharu gyda 16% ar gyfer y rhai o gefndiroedd Gwyn). Caiff hyn ei waethygu gan wahaniaethau rhanbarthol sy’n effeithio ar ddeilliannau pobl, gyda chyfuniad o ffactorau economaidd, demograffig a strwythurol yn effeithio ar ddeilliannau pobl.

I fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae Dysgu a Gwaith yn dadlau y dylai Llywodraeth Cymru:

  • Sefydlu Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau 10 mlynedd a gaiff ei arwain ar y cyd gan adrannau Iechyd, Economi ac Addysg Llywodraeth Cymru.
  • Buddsoddi £180 miliwn ychwanegol y flwyddyn mewn cymorth cyflogaeth. Yn neilltuol, cynnig help i fwy o bobl sy’n economaidd anweithgar, gan gofio mai dim ond un mewn deg o bobl anabl allan o waith sy’n cael help i ganfod gwaith bob blwyddyn ar hyn o bryd.
  • Creu Rhwydwaith Cymorth Cyflogaeth newydd i Gymru, gan roi un drws blaen hygyrch i gymorth integredig ar draws gwaith, iechyd a sgiliau.
  • Galluogi Cydbwyllgorau Corfforedig, yn cynnwys grwpiau o awdurdodau lleol gyda chyfrifoldeb statudol a chyllid i gyflenwi’r cynllun yn lleol, wedi ei deilwra i anghenion rhanbarthol.
  • Gwella rhannu data a gwerthuso, yn cynnwys ymchwilio labordy data newydd i asesu os yw rhaglenni yn gweithio.

Mae’r adroddiad hefyd yn galw am aliniad agosach gyda Busnes Cymru ac ymgysylltu cryfach gyda chyflogwyr i roi mwy o gymorth i gyflogwyr i greu gweithleoedd a chyfleoedd swyddi cynhwysol.

Dywedodd Stephen Evans, Prif Weithredwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith:

“Mae gan Gymru gyfle gwych i helpu mwy o bobl i waith, tyfu’r economi ac arbed arian trethdalwyr. Mae angen uchelgais ddewr i o leiaf dri chwarter oedolion oedran gwaith i fod mewn gwaith a chynllun clir i helpu 60,000 ychwanegol o bobl i waith drwy ymgysylltu a chefnogi yn well y bobl hynny sy’n economaidd anweithgar. I gyflawni hyn bydd angen gweithredu lleol a chenedlaethol i gydlynu cymorth gwaith, iechyd a sgiliau ar gyfer pobl.

Meddai Luke Fletcher AS, Aelod o’r Senedd De Orllewin Cymru ar ran Plaid Cymru:

“Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno achos cryf dros uchelgais o’r newydd ar sut y cefnogwn pobl i waith. Os yw Cymru i gau’r bwlch cyflogaeth a gostwng anweithgarwch economaidd, mae’n rhaid i ni roi ysgogiad o’r newydd i fynd i’r afael â’r rhwystrau cysylltiedig ag iechyd a sgiliau sy’n gyrru anweithgarwch economaidd gan sicrhau fod y strwythurau cymorth cywir bob amser o fewn cyrraedd pobl.

“Gwyddom fod afiechyd hirdymor ac anhawster yn ennill cymwysterau yn aml yn mynd law yn llaw, gan greu cylch sy’n gwneud mynediad i waith sefydlog, gwerth chweil yn arbennig o heriol. Mae’n hanfodol trin hyn yn uniongyrchol os ydym i greu’r amodau sy’n galluogi mwy o bobl i gymryd rhan lawn yn economi Cymru.”

Dywedodd Joanne Powell, Cyfarwyddwr Contract Cynllun Restart Cymru Serco:

“Rydym yn croesawu canfyddiadau ein hymchwil partneriaeth gyda’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, sy’n amlygu cyfleoedd i gefnogi pobl ledled Cymru. Mae hyn yn nodi dechrau cydweithio agosach gyda rhanddeiliaid allweddol i fynd i’r afael â bylchau sgiliau a helpu unigolion sy’n economaidd anweithgar i symud i gyflogaeth gynaliadwy.”

Cynllun Gwaith, Iechyd a Sgiliau ar gyfer Cymru

Lawrlwythwch yr adroddiad
id before:17580
id after:17580