Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Ceisiadau ar gyfer 2026 yn awr ar agor.

Enwebwch diwtor neu fentor ysbrydoledig yng Nghymru erbyn 16 Ionawr 2026.

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid blynyddol yn cydnabod gwaith gwerthfawr tiwtoriaid a mentoriaid wrth gefnogi dysgu gydol oes ar draws Cymru.

Mae’r gwobrau yn dathlu ymdrech ac ymroddiad rhagorol tiwtoriaid a mentoriaid i helpu oedolion sy’n ddysgwyr i gyflawni eu huchelgais, oherwydd fod mentoriaid a thiwtoriaid sy’n ysbrydoli tu ôl i ddysgwyr llwyddiannus

Am beth ydyn ni’n edrych?

Rydym yn gwahodd enwebiadau ar ran unigolion rhagorol y mae eu hymroddiad, gwybodaeth a sgiliau addysgu wedi rhoi’r hyder i oedolion gymryd rhan mewn dysgu a thrawsnewid eu bywydau.

Edrychwn am diwtoriaid a mentoriaid sy’n rhagori yn eu maes sy’n mynd  yn ‘uwch a thu hwnt’ i’r hyn a ddisgwylir ganddynt.

Dylai enwebiadau arddangos llwyddiant yn o leiaf ddau o’r meysydd dilynol:

  • Datblygu’r cwricwlwm, creu adnoddau a deunyddiau newydd.
  • Goresgyn amgylchiadau personol a/neu weithio mewn amgylchiadau heriol.
  • Cyfrannu at ehangu mynediad ac adeiladu llwybrau i gyfleoedd dysgu.
  • Ysbrydoli dysgwyr i symud ymlaen i gyrsiau neu gyfleoedd eraill i ddysgu neu bontio i gyflogaeth.
  • Creu partneriaethau neu lwybrau newydd i ddysgu.
  • Datblygu ffyrdd blaengar o gefnogi, addysgu, chwalu rhwystrau neu fentora dysgwyr.

Categorïau gwobrau:

Addysg Uwch

Addysg Bellach

Lleoliad Gweithle

Addysg Gymunedol

Cymraeg i Oedolion

Ysgol neu leoliad arall

Dyddiad cau ar gyfer enwebiadau:
16 Ionawr 2026.

Gofynnir i chi anfon eich enwebiad ac unrhyw wybodaeth gefnogi am y tiwtor at:

inspire@learningandwork.wales

Rhannu gwybodaeth am y gwobrau:

Croesawn eich cefnogaeth a’ch cymorth i rannu’r galwad am enwebiadau gyda’ch cydweithwyr a rhwydweithiau ehangach. Byddem yn ddiolchgar pe byddech yn cylchredeg y ddolen i’n taflen gyda’ch rhwydweithiau.

Taflen Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Canllawiau Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Lawrlwytho

Ffurflen Enwebu Ysbrydoli! Tiwtoriaid

Lawrlwytho

Ffurflen enwebu ar-lein

Yn lle hynny, gallwch lenwi ein ffurflen enwebu ar-lein. Gofynnir i chi nodi y bydd angen i chi lenwi eich enwebiad ar-lein mewn un tro, rydym yn argymell eich bod yn paratoi eich datganiadau enwebai ac enwebwr yn defnyddio dogfen Word cyn eu cyflwyno ar-lein.

Cysylltu â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen cymorth gyda’ch ffurflen enwebu

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae Gwobrau Ysbrydoli! Tiwtoriaid yn bartneriaeth yn cynnwys y Sefydliad Dysgu a Gwaith, Llywodraeth Cymru, Prifysgolion Cymru, NTFW, Colegau Cymru a Phartneriaeth Addysg Oedolion Cymru.

  • Agreed logo
  • ColegauCymru colour
  • New purple logo - unis wales
  • NTFW-Logo-CMYK-text
  • Logo_Porffor_RGB
  • Welsh Government logo - black
id before:10226
id after:10226