Mae darlith Raymond Williams yn gyfle pwysig i adlewyrchu ar waith a bywyd Raymond Williams, yn arbennig yng nghyd-destun addysg oedolion a’i photensial i drawsnewid. Mae’r ddarlith yn denu cynulleidfa fawr a gwybodus o bobl broffesiynol o bob rhan o gymdeithas ddinesig yng Nghymru a thu hwnt. Caiff ei rhedeg fel partneriaeth rhwng y Sefydliad Dysgu a Gwaith a’r Brifysgol Agored yng Nghymru ar hyn o bryd.
Cynhaliwyd y ddarlith gyntaf i goffau ei waith gan NIACE Cymru (Sefydliad Cenedlaethol Addysg Barhaus Oedolion) a’r WEA (Cymdeithas Addysg y Gweithwyr) De Cymru yn 1989. Cynhaliwyd y ddarlith ddiweddaraf yn 2021 gan nodi canmlwyddiant geni Raymond Williams. Roedd 2021 hefyd yn ganmlwyddiant y Sefydliad Dysgu a Gwaith – cafodd Sefydliad Prydeinig Addysg Oedolion ei greu yn 1921, a daeth y Sefydliad yn ddiweddarach yn NIACE. Unodd NIACE gyda’r Ganolfan Cynhwysiant Economaidd a Chymdeithasol yn 2015 i ddod y Sefydliad Dysgu a Gwaith.
Am Raymond Williams:
Roedd Raymond Williams yn nofelydd, beirniad diwylliannol, sosialydd deallusol ac addysgwr oedolion. Wedi ei eni yn 1921 ym mhentref Pandy ger y Fenni, astudiodd Williams ym Mhrifysgol Caergrawnt a daeth yn diwtor gyda’r WEA. Cyhoeddodd NIACE ei ystod helaeth o draethodau a darlithoedd ar addysg yn 1993. Mae’r traethodau yn cynnig dadansoddiad o’r amodau ar gyfer cymdeithas sy’n dysgu, roedd Williams yn lladmerydd dros addysg oedolion ryddfrydol. Mae Josh Cole hefyd yn cynnig y sylwebaeth yma ar Raymond Williams a’i gyfraniad at addysg oedolion.
Ymchwilio hanes cyfoethog ein Darlithoedd Raymond Williams:
Gallwch weld recordiadau o ddarlithoedd y gorffennol gan siaradwyr o fri fel Kirsty Williams AS, Syr Michael Marmot, yr Athro Tim Blackman a Michael Sheen yn ein rhestr chwarae arbennig.
2025 | Chwalu drwy’r llinell tiodi
Dr Sabrina Cohen-Hatton, KFSM Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Archub Gorllewin Sussex
|
Download | |
2021 | Addysg ddefnyddiol – beirniadaeth a dathliad
Yr Athro Tim Blackman Is-Ganghellor, Y Brifysgol Agored
|
Lawrlwytho | |
2018 | Yr ysgogiad dyfnaf: Addysg oedolion, economi, democratiaeth a chymdeithas
Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd Cabinet dros Addysg
|
Lawrlwytho | |
2017 | Pan mae coeden yn cwympo
Michael Sheen, Actor ac Ymgyrchydd
|
Lawrlwytho | |
2016 | Y bwlch iechyd: Her byd anghyfartal
Syr Michael Marmot, Ymchwilydd
|
Lawrlwytho | |
2015 | Cyfnodau peryglus: Dysgu sut i’w trin
Tom Schuller, Awdur
|
Lawrlwytho | |
2005 | Er lles pawb
Alan Tuckett OBE, NIACE
|
||
2004 | Heriau dysgu gydol oes
Jane Davidson, Aelod Cynulliad
|
||
2003 | Risg dysgu a newid cymdeithasol
Yr Athro Bob Fryer, NHSU
|
||
2002 | Teitl anhysbys
Sheila Drury, ELWa
|
||
2000 | Cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a’r agenda dysgu
Edwina Hart, Aelod Cynulliad
|
||
1999 | Cymuned ieithoedd
Cynog Dafis, Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol
|
||
1998 | Gwaddol Raymond Williams i addysg oedolion
Yr Athro Bob Fryer, Pennaeth, Northern College a Chadeirydd Grŵp Ymgynghorol Cenedlaethol y Llywodraeth am Addysg Barhaus a Dysgu Gydol Oes
|
||
1997 | Sefydliad y Merched a dysgu gydol oes
Y Foneddiges Anglesey, y Foneddiges Brunner, Rhiannon Bevan, Sefydliad y Merched
|
||
1996 | Dychweliad y mudwyr – myfyrdod personol ar bwysigrwydd Raymond Williams
Michael D Higgins, Gweinidog y Celfyddydau, Diwylliant a’r Gaeltacht, Iwerddon
|
||
1995 | Cymunedau, prifysgolion a Raymond Williams
Yr Athro Terry Eagleton, Athro Wharton Llenyddiaeth Saesneg, Coleg St Catherine, Rhydychen
|
||
1994 | Gwleidyddiaeth, arweinwyr a’r cwricwlwm cenedlaethol
Yr Athro Patrick Parrinder, Adran Saesneg, Prifysgol Reading
|
||
1993 | Nofelau Raymond Williams
Yr Athro Graham Martin, Y Brifysgol Agored
|
||
1992 | Diwylliant, cymuned, cenedl
Yr Athro Stuart Hall, Athro Cymdeithaseg, Y Brifysgol Agored
|
||
1991 | Menywod tuag at 2000
Bea Campbell, Awdur a Newyddiadurwraig
|
||
1990 | Williams yr anghysurus
Stephen Yeo, Pennaeth, Coleg Ruskin, Rhydychen
|
||
1989 | Raymond Williams a’i wlad
Yr Athro Dai Smith, Athro, Coleg Prifysgol Cymru Caerdydd
|